Ann Griffiths

Oddi ar Wicipedia
Ann Griffiths
GanwydEbrill 1776 Edit this on Wikidata
Llanfihangel-yng-Ngwynfa Edit this on Wikidata
Bu farwAwst 1805 Edit this on Wikidata
o anhwylder ôl-esgorol Edit this on Wikidata
Llanfihangel-yng-Ngwynfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethemynydd, bardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Llun o Ann ar glawr llyfr.
Llythyr yn llawysgrifen Ann Griffiths.

Ystyrir Ann Griffiths (née Ann Thomas) (Ebrill 1776 – Awst 1805), o ffermdy Dolwar Fach ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Maldwyn, Powys yn brif emynyddes Cymru ac un o feirdd benywaidd pwysicaf y Gymraeg.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Ann Thomas mewn ffermdy o'r enw Dolwar Fach ym mhlwyf Llanfihangel-yng-ngwynfa, Sir Drefaldwyn, y pedwerydd o bum plentyn Siôn Ifan Tomos (1736-1802), ffermwr tenant, a'i wraig, Jane, née Theodore (1744 -1794) Cafodd ei bedyddio yn eglwys blwyf Llanfihangel-yng-ngwynfa ar 21 Ebrill 1776 [2]

Derbyniodd Ann rywfaint o addysg ffurfiol, er ei fod yn brin, ond mwy na chafodd y mwyafrif o ferched o'i statws, yn ei chyfnod. Cafodd ei hyfforddi gan wraig o'r enw Mrs Ann Owen yn Llanfihangel cyn symud ymlaen i ysgol a gadwyd gan giwrad y plwyf, Ezeciel Hamer, lle dysgodd i ddarllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg a siarad Saesneg elfennol.[3]

Roedd ei thad yn aelod cefnogol o Eglwys ei blwyf, fe wasanaethodd fel un o'i wardeniaid ar sawl achlysur. Roedd ei chartref yn un diwylliedig a chrefyddol, gyda darnau o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn cael eu darllen yn ddyddiol. Roedd ei thad hefyd yn dipyn o fardd gwlad a oedd yn ysgrifennu englynion bedydd, priodas ac angladd.[3]

Tröedigaeth[golygu | golygu cod]

Roedd brodyr hŷn Ann, John ac Edward,[4] eisoes wedi cael tröedigaeth i'r achos Methodistaidd ond roedd Ann wrthwynebus i grefydd newydd Methodistaidd ei brodyr. Roedd Ann yn mwynhau arferion yr oes, - y nosweithiau llawen, y ddawns, a'r anterliwtiau. Byddai'n arfer gwawdio'r pererinion Methodistaidd oedd yn pasio trwy gymdogaeth Dolwar ar eu ffordd i'r Bala, i'r cymanfaoedd a'r gwasanaethau cymun mawr.

Ar 28 Mawrth 1796, dydd mabsant Sant Myllin, roedd Ann ar ei ffordd i ddawns yn Llanfyllin. Ar y ffordd gwelodd ferch a fu'n arfer gweithio yn Nolwar Fach. Roedd y ferch am fynd i wrando ar bregeth gan un o bregethwr amlwg yr Annibynwyr, Benjamin Jones, Pwllheli.[5] Cytunodd Ann i fynd i wrando arno. Cafodd y bregeth effaith fawr arni a bu am fisoedd mewn gwewyr meddw wrth bendroni dros neges y bregeth. Ar fore'r Nadolig 1797 aeth Ann i wasanaeth y Plygain yn Eglwys Llanfihangel, ac wedi cyrraedd yn rhy gynnar cyfarfu a chiwrad yr eglwys a chael gwahoddiad i'w dŷ i ddisgwyl dechrau'r oedfa. Yn y tŷ fe wnaeth y ciwrad sylwadau anweddus a phenderfynodd Ann droi ei chefn ar yr Eglwys. Aeth i wrando ar bregethwyr y Methodistiaid a'r diwedd fu iddi ymuno a'i brodyr yn seiat y Methodistiaid ym Mhontrobert .[3]

Priodas a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Ym 1801 derbyniwyd Thomas Griffiths yn aelod o’r seiat Fethodistaidd yn ei gartref yn y Cefn-du, Cegidfa a cafodd ei ethol yn flaenor yn fuan wedyn. Symudodd Griffiths i fferm y Ceunant, Meifod ym 1804, ac yn ôl ei arfer yn ei hen gartref dechreuodd gynnal cyfarfodydd crefyddol yn ei gartref newydd. Bu Ann yn mynychu oedfaon y Ceunant. Priododd Ann a Thomas Griffiths yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa ym mis Hydref 1804.[6] Ar 13 Gorffennaf 1805 ganwyd Elizabeth, merch Thomas ac Ann ond bu farw cyn pen y mis. Pythefnos ar ôl marwolaeth ei babi bu farw Ann hefyd o anhwylder ôl-esgorol yn 29 mlwydd oed. Claddwyd Elizabeth ac Ann Griffiths ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa

Emynau[golygu | golygu cod]

Cyn ei thröedigaeth bu Ann yn cyfansoddi rhigymau a byddai'n eu hadrodd i'w hun a'i chyfeillion er mwyn diddanwch. Wedi ei thröedigaeth dechreuodd Ann gyfansoddi cerddi crefyddol yn lle'r rhigymau ac eto yn eu hadrodd wrth fynd o amgylch ei dyletswyddau ar y fferm. Gwnaeth tad Ann gofnod o rai o'i cherddi crefyddol cyn iddo farw ym 1803. Mae'n debyg mae ei hemyn enwocaf yw Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd, sy'n cael ei ganu'n aml ar y dôn Cwm Rhondda.[7]

Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthrych teilwng o'm holl fryd;
Er mai o ran, yr wy'n adnabod
Ei fod uwchlaw gwrthrychau'r byd:
Henffych fore
Y caf ei weled fel y mae.

Rhosyn Saron yw ei enw,
Gwyn a gwridog, teg o bryd;
Ar ddeng mil y mae'n rhagori
O wrthrychau penna'r byd:
Ffrind pechadur,
Dyma ei beilot ar y môr.

Beth sy imi mwy a wnelwyf
Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio'r wyf nad yw eu cwmni
I'w gystadlu â'm Iesu mawr:
O am aros
Yn ei gariad ddyddiau f'oes.

Roedd morwyn o'r enw Ruth Evans yn gweithio yn Nolwar Fach ac fe gadwodd hi nifer o gerddi crefyddol Ann ar ei chof, wedi clywed ei meistres yn eu hadrodd. Priododd Ruth Evans bregethwr Methodistaidd o'r enw John Hughes, ac wedi marwolaeth Ann fe wnaeth John Hughes gofnod o'r cerddi roedd ei wraig yn eu cofio. Ym 1806 cyhoeddwyd y cerddi roedd Hughes a thad Ann wedi eu cofnodi mewn cyfrol o'r enw Casgliad o Hymnau a daeth yn gyfrol boblogaidd iawn. Mae nifer o emynau Ann yn cael eu canu yn gynulleidfaol o hyd gyda 14 ohonynt yn ymddangos yn Caneuon Ffydd, y gyfrol gyd-enwadol o emynau a gyhoeddwyd yn 2001.[8]

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

  • E. Wyn James (gol.), Rhyfeddaf fyth ... (Gwasg Gregynog, 1998). Y golygiad diweddaraf a llawnaf o'i hemynau a'i llythyrau.
  • Dyfnallt Morgan (gol.), Y Ferch o Ddolwar Fach (1977)
  • R. Geraint Gruffydd, Y Gair a'r Ysbryd: Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth, gol. E. Wyn James (2019)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
  2. "Hanes Ann Griffiths - Trafod Manylion Bywgraffiadol" (PDF). Y Banc Hyfedredd. Cyrchwyd 27 Awst 2019.[dolen marw]
  3. 3.0 3.1 3.2 Cymru (1906). "Ann Griffiths". Cylchgronau Cymru LlGC. Cyrchwyd 25 Awst 2019.
  4. "Griffiths [née Thomas], Ann (bap. 1776, d. 1805), hymn writer in Welsh | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-11614. Cyrchwyd 2019-08-27.
  5. "JONES, BENJAMIN (1756 - 1823), gweinidog gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-08-27.
  6. Roberts, G. M. "GRIFFITHS, ANN (1776 - 1805), emynyddes". Y Bywgraffiadur. Cyrchwyd 25 Awst 2019.
  7. Caneuon ffydd. Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol., Cysodwyd y gerddoriaeth gan Curiad), argraffwyd gan Wasg Gomer. Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol. 2001. ISBN 1903754038. OCLC 48791307.CS1 maint: others (link)
  8. Morgans, Delyth G (2006). Cydymaith caneuon ffydd. [Caernarfon]: Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol. t. 532. ISBN 9781862250529. OCLC 123536494.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: