Lee Byrne
Gwedd
| Lee Byrne | |
|---|---|
| Ganwyd | 1 Mehefin 1980 Pen-y-bont ar Ogwr |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r gynghrair, chwaraewr rygbi'r undeb |
| Taldra | 191 centimetr |
| Pwysau | 96 cilogram |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, ASM Clermont Auvergne, Y Dreigiau, Y Scarlets, Y Gweilch, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
| Safle | Cefnwr |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraewr Rygbi'r Undeb dîm rhanbarthol y Gweilch a Chymru yw Lee Byrne (ganed 1 Mehefin 1980. Mae'n chwarae fel cefnwr, ac wedi ennill 16 cap dros Gymru.
Ganed ef yng Mhen-y-bont ar Ogwr. Bu'n chwarae i dîm rhanbarthol Scarlets Llanelli cyn symud i'r Gweilch.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn Nhachwedd 2005, yn erbyn Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm. Roedd yn rhan o dîm Cymru pan enillwyd y Gamp Lawn yn 2008, gan chwarae ymhob gêm a sgorio cais yn erbyn Lloegr a'r Eidal.