Stephen Jones
| Enw llawn | Stephen Michael Jones | ||
|---|---|---|---|
| Dyddiad geni | 8 Rhagfyr 1977 | ||
| Man geni | Aberystwyth, Wales | ||
| Taldra | 1.83 m (6 tr 0 mod) | ||
| Pwysau | 95 kg (14 st 13 lb) | ||
| Gyrfa rygbi'r undeb | |||
| Gyrfa'n chwarae | |||
| Safle | Fly-half, Inside centre | ||
| Clybiau proffesiynol | |||
| Blynydd. | Clybiau | Capiau | (pwyntiau) |
| 1996–2003 2004–2006 2012-2013 |
Llanelli RFC Clermont London Wasps |
197 43 1 |
(1786) (566) (23) |
| Taleithiau | |||
| Blynyddoedd | Clwb / tîm | Capiau | (pwyntiau) |
| 2003–2004 2006–2012 |
Llanelli Scarlets Scarlets |
12 107 |
(146) (918) |
| Timau cenedlaethol | |||
| Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
| 1998–2011 2005, 2009 |
Wales British and Irish Lions |
104 6 |
(917) (53) |
| Gyrfa fel hyfforddwr | |||
| Blynydd. | Clybiau / timau | ||
| 2013- | London Wasps | ||
| Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Cyn-chwaraewr rygbi o Gymru yw Stephen Michael Jones (ganed 8 Rhagfyr 1977). Chwaraeodd fel maswr i dîm rhanbarthol Scarlets Llanelli a Chymru.
Ganed ef yn Aberystwyth. Ymunodd â Chlwb Rygbi Llanelli yn 1996, gan symud i Scarlets Llanelli pan ffurfiwyd y timau rhanbarthol. Symudodd i Clermont Auvergne yn 2004, gan ddychwelyd at y Scarlets yn 2006.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn De Affrica yn 1998. Mae wedi sgorio mwy o bwyntiau dros Gymru na neb heblaw Neil Jenkins.
Roedd yn rhan allweddol o dîm Cymru pan enillwyd y Gamp Lawn yn 2005, yn cynnwys sgorio 14 pwynt yn y fuddugoliaeth dros Ffrainc ym Mharis ac 19 pwynt yn erbyn Iwerddon. Dewiswyd ef ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn 2005, ond Jonny Wilkinson gafodd ei ddewis ar gyfer y gemau prawf, penderfyniad a feirniadwyd gan lawer.
Yn hydref 2006 cyhoeddodd yr hyfforddwr Gareth Jenkins mai ef fyddai'n gapten Cymru yn y gemau'n arwain at Gwpan Rygbi'r Byd yn 2007. Erbyn hyn roedd yn wynebu cystadleuaeth gan James Hook am safle maswr yn y tîm, ac er iddo chwarae rhan ymhob un o'r gemau pan enillwyd y Gamp Lawn eto yn 2008, dim ond yn erbyn Iwerddon y dechreuodd y gêm. Ar ôl cyfnod o hyfforddi gyda London Wasps mae'n dychwelyd yn nhymor 2015 i fod yn hyfforddwr y cefnwyr gyda'r Scarlets.