Louis Rees-Zammit
Louis Rees-Zammit | |
---|---|
Ganwyd | 2 Chwefror 2001 Penarth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 191 centimetr |
Pwysau | 88 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Gloucester Rugby, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru |
Safle | Asgellwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymro yw Louis Rees-Zammit (ganwyd 2 Chwefror 2001) sydd ar hyn o bryd yn chwarae i Gaerloyw yn Uwch Gynghrair Lloegr[1][2] ac i Gymru ar y lefel genedlaethol.
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]
Ganed Rees-Zammit ym Mhenarth, Bro Morgannwg.[3] Yn saith oed dechreuodd chwarae rygbi gyda chwlb Llandaf ac roedd yno nes ei fod yn 12 oed, pan ymunodd â Rhymni nes ei fod yn 16 oed. Chwaraeodd hefyd i Ysgol y Gadeirlan.[4]
Gyrfa clwb[golygu | golygu cod]
Ar ôl dechrau ei yrfa ieuenctid gyda Gleision Caerdydd, symudodd i Goleg Hartpury ac oddi yno i academi Rygbi Caerloyw. Ymunodd â thîm hŷn Caerloyw yn nhymor 2019–20, gan ddod yn chwaraewr ieuengaf erioed y clwb i chwarae yn yr Uwch Gynghrair.[5] Sgoriodd ddau gais yn erbyn Caerwrangon yn ystod buddugoliaeth o 36–3 ym mis Rhagfyr 2019,[6] ac yn ddiweddarach yr un mis daeth ef y chwaraewr 18 oed cyntaf i sgorio hat-tric o geisiau[7] yn ystod gêm a gollwyd 33–26 i Northampton.[8]
Derbyniodd Wobr Chwaraewr y Mis yr Uwch Gynghrair ym mis Rhagfyr 2019.[9]
Ar 13 Ionawr 2020, arwyddodd Rees-Zammit ei gontract proffesiynol cyntaf gyda Chaerloyw, a dyrchafwyd felly i'r garfan hŷn o'r tymor 2020-21.[10]
Ar 16 Ionawr 2024, cyhoeddodd y byddai yn gadael y byd rygbi er mwyn rhoi cynnig ar chwarae Pêl-droed Americanaidd gyda'r NFL.[11]
Tîm cenedlaethol[golygu | golygu cod]
Cynrychiolodd Rees-Zammit Cymru ar lefel dan-18. Derbyniodd ei alwad gyntaf i garfan hŷn Cymru gan yr hyfforddwr Wayne Pivac ar 15 Ionawr 2020 ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020.[12] Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru, o'r fainc, mewn gêm brawf yn erbyn Ffrainc a gynhaliwyd yn Stade de France ym Mharis, Ffrainc ym mis Hydref 2020.[13][14] Sgoriodd Rees-Zammit ei gais prawf cyntaf yn erbyn Georgia ar 21 Tachwedd 2020.[15]
Sgoriodd ei gais cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021, ar ei ymddangosiad cyntaf yn y Chwe Gwlad, yng ngêm Rownd 1 yn erbyn Iwerddon ar 7 Chwefror 2021.[16] Ar 13 Chwefror 2021, yng ngêm y Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban, sgoriodd ddau gais, gan gynnwys y cais buddugol, ac fe’i enwyd yn seren y gêm.[17][18]
Bywyd personol[golygu | golygu cod]
Ymfudodd taid tadol Rees-Zammit i Lundain o Malta.[19][20][21]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "The night Louis Rees-Zammit's career exploded and his perfect response when asked if he could play for England". Cyrchwyd 21 December 2019.
- ↑ "Louis Rees-Zammit Profile". Itsrugby.co.uk. Cyrchwyd 20 January 2020.
- ↑ Howell, Andy (August 16, 2020). "The Louis Rees-Zammit interview: I definitely want a Wales debut this autumn". WalesOnline. Cyrchwyd 13 February 2021.
- ↑ World, Rugby (28 February 2020). "Hotshot: Gloucester wing Louis Rees-Zammit". Rugby World. Cyrchwyd 13 February 2021.
- ↑ "LOUIS REES-ZAMMIT BECOMES GLOUCESTER RUGBY'S YOUNGEST PREMIERSHIP PLAYER". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-22. Cyrchwyd 22 December 2019.
- ↑ "Gloucester's teenage sensation Louis Rees-Zammit continues remarkable rise by inspiring win over Worcester". The Independent. Cyrchwyd 22 December 2019.
- ↑ "Louis Rees-Zammit set a new Premiership record in Gloucester Rugby loss at Northampton Saints". Cyrchwyd 31 December 2019.
- ↑ "Welsh teen sensation Louis Rees-Zammit set to force his way into Six Nations squad after stunning hat-trick of tries". Cyrchwyd 28 December 2019.
- ↑ "Louis Rees-Zammit named English rugby's player of the month and immediately donates prize to Welsh cancer centre". Wales online. Cyrchwyd 20 January 2020.
- ↑ "LOUIS REES-ZAMMIT EXTENDS HIS CONTRACT AT GLOUCESTER RUGBY". Gloucester Rugby. 13 January 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-16. Cyrchwyd 27 August 2020.
- ↑ "Louis Rees-Zammit i adael rygbi er mwyn symud i'r NFL". BBC Cymru Fyw. 2024-01-16. Cyrchwyd 2024-01-16.
- ↑ "Six Nations: Wales call up teenager Rees-Zammit and Saracens' Tompkins". BBC Sport. 15 January 2020. Cyrchwyd 15 January 2020.
- ↑ "France vs Wales: Alun Wyn Jones to equal Test record, Louis Rees-Zammit set for debut". Sky Sports. 22 October 2020. Cyrchwyd 24 October 2020.
- ↑ "France 38-21 Wales: Antoine Dupont inspires home side in Paris". BBC Sport. 24 October 2020. Cyrchwyd 24 October 2020.
- ↑ World, Rugby (November 21, 2020). "Louis Rees-Zammit gets his first Test try". Rugby World.
- ↑ "Rees-Zammit scores try on Six Nations debut as Wales hold off 14-man Ireland". February 7, 2021. Cyrchwyd 13 February 2021.
- ↑ "Preview: Scotland v Wales". Six Nations Rugby.
- ↑ Bath, Richard; Cosgrove, David (February 13, 2021). "Louis Rees-Zammit's stunning solo try sees Wales win thriller against 14-man Scotland". Cyrchwyd 13 February 2021.
- ↑ "Rees-Lightning! Wales' Rising Rugby Star Is A 19-Year-Old Kid With Maltese Blood". Lovin Malta. February 23, 2020. Cyrchwyd 13 February 2021.
- ↑ Thomas, Simon (January 16, 2020). "The family story of the boy who grew up to be Welsh rugby's next big thing". WalesOnline. Cyrchwyd 13 February 2021.
- ↑ "Teenage star Rees-Zammit named in Wales' Six Nations squad". Times of Malta. Cyrchwyd 13 February 2021.