Wayne Pivac
Wayne Pivac | |
---|---|
Ganwyd |
Wayne Jeffrey Pivac ![]() 10 Medi 1962 ![]() Auckland Region ![]() |
Dinasyddiaeth |
Seland Newydd ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
hyfforddwr chwaraeon, chwaraewr rygbi'r undeb, heddwas ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au |
North Harbour Rugby Union ![]() |
Safle |
flanker ![]() |
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
---|---|---|---|
Gyrfa fel hyfforddwr | |||
Blynydd. | Clybiau / timau | ||
2002-2003 2004-2007 2007-2008 2011-2014 2014-2018 2019- |
Auckland![]() North Harbour Auckland Scarlets ![]() | ||
Gyrfa rygbi'r undeb |
Hyfforddwr rygbi'r undeb proffesiynol o Seland Newydd yw Wayne Pivac (ganed 10 Medi 1962) yn ogystal â chyn swyddog heddlu. Dechreuodd ei yrfa fel cwnstabl yng ngorsaf heddlu Takapuna ar arfordir gogleddol Auckland. Cychwynodd ei swydd fel hyfforddwr tîm Cymru yn Nhachwedd 2019, yn cymryd yr awennau o Warren Gatland.
Dechreuodd chwarae ei rygbi yng Ngholeg Rosmini ac yna yn Ysgol Uwchradd Westlake i fechgyn, ond roedd Pivac hefyd yn ddigon da i chwarae i dîm rhanbarthol North Harbour, tra'n parhau i wasanaethu fel heddwas.[1]
Gyrfa fel Hyfforddwr Rygbi[golygu | golygu cod y dudalen]
Symudodd Pivac o chwarae rygbi i hyfforddi, yn gyntaf ar lefel clwb yn Takapuna, yna am rai tymhorau gydag ail dîm North Harbour, ac yna gyda Northland, y rhanbarth gynrychiolodd ei dad.[2] Yn 1997, llwyddodd Pivac i arwain tîm Northland i frig ail adran y Bencampwriaeth Rhanbarthol Cenedlaethol, ac ennill dyrchafiad i'r adran gyntaf y flwyddyn ganlynol. Yn dilyn hynny, Pivac oedd wrth y llyw gyda thîm Auckland yn 2002 a 2003 wrth iddyn nhw ennill y Bencampwriaeth ddwy flynedd o'r bron, yn ogystal â'r Ranfurly Shield.[3] Cafodd ei enwi fel Hyfforddwr Rygbi'r Undeb y flwyddyn yn Seland Newydd yn 2003, [4] ac yna ei gyflogi i olynu Mac McCallion fel hyfforddwr tîm rhyngwladol Fiji, ym mis Chwefror 2004. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf gyda Fiji, llwyddodd y tîm i ennill cystadleuaeth y Pacific Tri-Nations, a chynorthwyodd hefyd i hyfforddi y tîm saith bob ochr i ennill Cwpan Rygbi Saith Bob Ochr y Byd 2005.[5]
Yn Ionawr 2007, gadawodd Pivac ei swydd fel prif hyfforddwr rygbi Fiji oherwydd ymrwymiadau teuluol.[6] Wedi dychwelyd i Seland Newydd, apwyntiwyd ef yn hyfforddwr i dîm North Harbour.[7] Profodd hi'n dymor siomedig i'r rhanbarth, ac felly camodd Pivac i'r ochr yn 2008, gyda Craig Dowd a Jeff Wilson yn ei olynu,[8] dim ond iddyn nhw gael eu disodli y flwyddyn wedyn yn dilyn tymor siomedig arall. Yn 2011, cymerodd Pivac le Mark Anscombe fel hyfforddwr Auckland yn y Cwpan ITM.[9]
Yn 2014, cyhoeddwyd fod Pivac wedi cael ei apwyntio fel Is Hyfforddwr y Scarlets, sy'n chwarae eu rygbi yn stadiwm Parc y Scarlets, Llanelli,Cymru.[10] Wedi cael ei gyflogi'n wreiddiol i arwain y blaenwyr, dyrchafwyd Pivac i swydd y Prif Hyfforddwr o achos ymadawiad Simon Easterby i dîm cenedlaetholIwerddon.[11] Ym mis Mai, 2017, llywiodd Pivac y Scarlets i gipio eu cwpan cyntaf mewn 13 mlynedd, a theitl cyngrhair PRO12 Guiness, gan guro Munster o 46-22 yn Stadiwm Aviva, Dulyn.[12]
Ar y 9fed o Orffennaf 2018, cyhoeddwyd mai Pivac fyddai'n olynu Warren Gatland fel hyfforddwr Cymru. Mae disgwyl iddo barhau fel hyfforddwr y Scarlets am dymor arall cyn cael ei gyflogi ganUndeb Rygbi Cymru ar gytundeb pedair blynedd. Cychwynodd ei gytundeb gyda Undeb Rygbi Cymru yng Nghorffennaf 2019 a cymerodd yr awenau ar ddechrau Tachwedd 2019.[13]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Pivac has All Black aims as overseas job beckons". NZ Herald. 1 Tachwedd 2003. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
- ↑ "Pivac has All Black aims as overseas job beckons". NZ Herald. 1 Tachwedd 2003. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
- ↑ "Pivac to coach Fiji at World Cup". BBC. 26 Awst 2006. Cyrchwyd 19 Ionawr 2007.
- ↑ "Head Coach". Scarlets. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
- ↑ "History". Fiji Rugby. Cyrchwyd 15 Medi 2017.
- ↑ "Pivac resigns as Fiji rugby coach". CNN. 19 Ionawr 2007. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
- ↑ "North Harbour sign Pivac as coach". NZ Herald. 24 Ionawr 2007. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
- ↑ "Jeff Wilson to coach North Harbour". Otago Daily Times. 28 Hydref 2008. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2011.
- ↑ "Pivac Named New Auckland Coach". Rugby News. 16 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
- ↑ "Newsroom | Welsh Rugby Union". Welsh Rugby Union. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Scarlets confirm Wayne Pivac appointment as head coach". BBC. 12 Awst 2014. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
- ↑ "Scarlets boss Wayne Pivac insists Wales are capable of copying his side's expansive attacking blueprint". Wales Online. 27 Mai 2017. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
- ↑ "Wayne Pivac: Scarlets chief to succeed Warren Gatland as Wales coach". BBC Sport. 9 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2018.