Croateg
| Enghraifft o: | amrywiolyn iaith, standard variety, iaith fyw |
|---|---|
| Math | Eastern Herzegovinian, Serbo-Croateg |
| Enw brodorol | hrvatski jezik |
| Nifer y siaradwyr | |
| cod ISO 639-1 | hr |
| cod ISO 639-2 | hrv |
| cod ISO 639-3 | hrv |
| Gwladwriaeth | Croatia, Bosnia a Hertsegofina, Serbia, Montenegro, Awstria, Hwngari, Yr Eidal, Rwmania, Slofacia, Slofenia, Tsiecia |
| System ysgrifennu | Gaj's Latin alphabet |
| Corff rheoleiddio | Institute of Croatian Language |
| Dynodwyr | |


Iaith a siaredir yng Nghroatia a rhai gwledydd cyfagos yw Croateg. Mae'n iaith swyddogol yn Croatia, a cheir nifer sylweddol yn ei siarad ym Mosnia a Hertsegofina hefyd, gyda chyfanswm o 6.2 miliwn trwy'r byd yn ei siarad fel mamiaith.
Mae Croateg yn rhan o'r grŵp o ieithoedd De Slafoneg a elwir wrth yr enw Serbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwys Serbeg a Bosneg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel iaith, ac mae llawer o ieithyddion yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosnieg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er eu bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosnieg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân.

Mae Croateg yn iaith swyddogol Croatia ac ym Mosnia a Hertsegofina, Burgenland (Awstria), a Molise (Yr Eidal)
Tafodieithoedd
[golygu | golygu cod]Mae tair prif tafodiaith i'r Groateg, sy'n cael eu hadnabod yn ôl y gair ar gyfer y cwestiwn beth? - sef što, ča, neu kaj:
- Štokavski ("što-eg"), a siaradir yn hanner Croatia - yn Slafonia, Zagora, ac ardal Dubrovnik, yn ogystal ag yng nghanolbarth Bosnia a Hertsegofina. Dyma'r dafodiaith sy'n sail i'r iaith Croateg safonol, ac yn sail ar gyfer Bosnieg, Serbeg a Montenegreg safonol hefyd.
- Čakavski ("čak-eg"), a siaradir yn Istria, ardal Lika, ar ran fwyaf o ynysoedd Môr Adria, ar yr arfordir i'r gogledd o Dubrovnik, ac ar y tir mawr yn nyffryn Gacka a'r cyffiniau. Y dafodiaith "Čak-eg" hon oedd iaith Teyrnas Croatia rhwng y 12fed ganrif a'r 16eg ganrif
- Kakajkavski ("kaj-eg"), a siaradir yng ngogledd-orllewin a chanol-orllewin y wlad (yn rhanbarthau Zagorje, Prigorje, Turopolje, Gorski Kotar, Međimurje, Podravina, Žumberak, Banija, Moslavina) ac yn ardal Zagreb. Y "Kaj-eg" hon oedd y dafodiaith uchaf ei statws rhwng yr 16eg ganrif a'r 19eg ganrif. "Kaj" yw'r gair ar gyfer beth? yn Slofeneg hefyd - mae tafodieithoedd Slafig De-Ddwyrain Ewrop yn ffurfio continwwm tafodieithoedd, gyda thafodieithoedd dwyrain Slofenia yn agos at rai gorllewin Croatia.
Yr wyddor Croateg
[golygu | golygu cod]-
(a)
-
(be)
-
(ce)
-
(če)
-
(će)
-
(de)
-
(dže)
-
(đe)
-
(e)
-
(ef)
-
(ge)
-
(ha)
-
(i)
-
(je)
-
(ka)
-
(el)
-
(elj)
-
(em)
-
(en)
-
(enj)
-
(o)
-
(pe)
-
(er)
-
(es)
-
(eš)
-
(te)
-
(u)
-
(ve)
-
(ze)
-
(že)
Tabl Cymhariaeth
[golygu | golygu cod]| Cymraeg | Croateg | Serbeg |
|---|---|---|
| Cymharu | Usporedba | Поређење (Poređenje) |
| Ewrop | Europa | Европа (Evropa) |
| Yr Iseldiroedd | Nizozemska | Холандија (Holandija) |
| Eidalwyr | Talijani | Италијани (Italijani) |
| Bydysawd | Svemir | Васиона (Vasiona) |
| Asgwrn cefn | Kralježnica | Кичма (Kičma) |
| Aer | Zrak | Ваздух (Vazduh) |
| Addysg | Odgoj | Васпитање (Vaspitanje) |
| Wythnos | Tjedan | Седмица (Sedmica) |
| Hanes | Povijest | Историја (Istorija) |
| Pantaloons | Hlače | Панталоне (Pantalone) |
| Bol | Trbuh | Стомак (Stomak) |
| Gwyddoniaeth | Znanost | Наука (Nauka) |
| Yn bersonol | Osobno | Лично (Lično) |
| Persona | Osoba | Лице (Lice) |
| Cenhedloedd Unedig | Ujedinjeni Narodi | Уједињене Нације (Ujedinjene Nacije) |
| Bara | Kruh | Хлеб (Hleb) |
| Artiffisial | Umjetno | Вештачки (Veštački) |
| Croes | Križ | Крст (Krst) |
| Democratiaeth | Demokracija | Демократија (Demokratija) |
| Detection | Spoznaja | Сазнање (Saznanje) |
| Ynys | Otok | Острво (Ostrvo) |
| Swyddog | Časnik | Официр (Oficir) |
| Traffig (ar y ffyrdd) | Cestovni promet | Друмски саобраћај (Drumski saobraćaj) |
| Traffordd | Autocesta | Аутопут (Autoput) |
| Hyd | Duljina | Дужина (Dužina) |
| Cymdeithas | Udruga | Удружење (Udruženje) |
| Ffatri | Tvornica | Фабрика (Fabrika) |
| Cyffredinol | Opće | Опште (Opšte) |
| Crist | Krist | Христoс (Hristos) |
Geirfa syml
[golygu | golygu cod]| Cymhariaeth rhifau | |
| Cymraeg | Croateg |
|---|---|
| un | jedan |
| dau | dva |
| tri | tri |
| pedwar | četiri |
| pump | pet |
| chwech | šest |
| saith | sedam |
| wyth | osam |
| naw | devet |
| deg | deset |
| Cymhariaeth y misoedd | |
| Croateg | Cymraeg |
|---|---|
| Siječanj | Ionawr |
| Veljača | Chwefror |
| Ožujak | Mawrth |
| Travanj | Ebrill |
| Svibanj | Mai |
| Lipanj | Mehefin |
| Srpanj | Gorffennaf |
| Kolovoz | Awst |
| Rujan | Medi |
| Listopad | Hydref |
| Studeni | Tachwedd |
| Prosinac | Rhagfyr |
| Cyffredin | |
| Croateg | Cymraeg |
|---|---|
| Da/Ne | Ie/Na |
| Dobro Jutro | Bore da |
| Dobar Dan | P'nawn da |
| Laku Noć | Nos da |
| Govorite li Velški? | Ydych chi'n siarad Cymraeg? |
| Ja malo govorim hrvatski jezik. | Dw i ddim yn siarad llawer o Groateg. |
| Dva piva | dau lager |
| Molim | plis |
| Hvala | diolch |
Oče naš, koji jesi na nebesima,
sveti se ime Tvoje.
Dođi kraljevstvo Tvoje,
budi volja Tvoja,
kako na Nebu, tako i na Zemlji.
Kruh naš svagdašnji daj nam danas,
i otpusti nam duge naše,
kako i mi otpuštamo dužnicima našim.
I ne uvedi nas u napast,
nego izbavi nas od zla.
