Bosnieg
Jump to navigation
Jump to search

Gramadeg Bosnieg (Sarajevo, 1890).
Iaith a siaredir yn Bosnia-Hertsegofina a rhai gwledydd cyfagos yw Bosnieg (bosanski jezik / босански језик). Mae'n iaith swyddogol yn Bosnia-Hertsegofina, a cheir siaradwyr mewn rhai gwledydd eraill, gyda tua 5,500,000 o siaradwyr i gyd.
Mae Bosnieg yn rhan o'r grŵp o ieithoedd De Slafonaidd a elwir wrth yr enw Serbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwys Croateg a Serbeg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel iaith, a Bosnieg fel un o'i thafodieithoedd, ac mae llawer o ieithyddwr yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Bosnieg, Serbeg a Chroateg fel ieithoedd yn hytrach na thafodieithoedd.