Montenegreg
Montenegreg | ||
---|---|---|
Crnogorski, Црногорски | ||
Ynganiad IPA | IPA: [t͡srnogorski:] | |
Siaredir yn | Montenegro | |
Cyfanswm siaradwyr | tua 500,000 | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | Dim | |
ISO 639-2 | – | |
ISO 639-3 | srp | |
Wylfa Ieithoedd | – |
Iaith a siaredir yn Montenegro a rhai gwledydd cyfagos yw Montenegreg. Mae'n iaith swyddogol yn Montenegro (a bwrdeistref Mali Iđoš yn Serbia). Siaredir Montenegreg gan tua 500,000 o bobl. Ceir dadl os yw Montenegreg yn iaith wahanol i Serbeg neu'n hytrach yn ddiffiniad wleidyddol. Mae'r Montenegreg yn cyd-ddealladwy gyda'r ieithoedd Serbo-Croateg eraill.
Gwyddorau
[golygu | golygu cod]Mae'r wyddor Ladin a'r wyddor Cyrilig yn cael ei ddefnyddio yn Montenegreg:
Lladin Aa Bb Cc Čč Ćć Dd Dždž Đđ Ee Ff Gg Hh Ii Jj Kk Ll Ljlj Mm Nn Njnj Oo Pp Rr Ss Šš Śś Tt Uu Vv Zz Žž Źź
Cyrilig Aa Бб Bb Гг Дд Ҕҕ Ee Жж Зз З́з́ Ии Jj Kk Лл Љљ Мм Нн Њњ Oo Пп Pp Cc С́ć Tt Ђђ Уу Фф Xx Цц Чч Џџ Шш
Llythrennau a gafwyd ei cyflwyno yn 2009 ydi'r llythrennau sydd wedi praffu: ⟨Śś/С́ć⟩ a ⟨Źź/З́з́⟩. Cyflwynwyd y llythrennau er mwyn disodli'r deugraffau ⟨sj/cj⟩ a ⟨zj/зj⟩