Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020 yw'r 21af yng nghyfres Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sef prif gystadleuaeth rygbi'r undeb yn Hemisffer y Gogledd. Chwaraeir pymtheg gêm dros gyfnod o bum penwythnos rhwng 1 Chwefror a 14 Mawrth 2020. Caiff ei galw, hefyd, yn "Gystadleuaeth NatWest y Chwe Gwlad" oherwydd cyfraniad y noddwyr: Banc y National Westminster[1].
Y chwe gwlad yw Iwerddon, Lloegr, Cymru, Ffrainc, Yr Alban a'r Eidal. Os cyfrifir cyn-gystadlaethau (y Cystadlaethau Cartref a Phencampwriaeth y Pum Gwlad) yna dyma'r 125ain cystadleuaeth.
Enillodd Lloegr y Pencampwriaeth ar 31 Hydref 2020, ar ôl i'r gemau oedd yn weddill gael eu gohirio o fis Mawrth oherwydd y pandemig COVID-19.
Pwynt bonws i dîm sy'n colli gêm o saith pwynt neu lai, a/neu yn sgorio pedwar gwaith neu fwy mewn gêm.
Tri pwynt bonws i'r tîm sy'n ennill pob gêm (Camp Lawn).
Os oes dau neu fwy tîm yn gyfartal ar bwyntiau gornest, yna bydd y tîm sydd a'r gwahaniaeth pwyntiau gwell (cyfanswm pwyntiau sgoriwyd namyn y pwyntiau a gollwyd) yn codi'n uwch yn y tabl.
Os nad yw hyn yn gwahanu timau cyfartal, bydd y tîm a sgoriwyd y nifer uchaf o geisiadau yn codi'n uwch.
Wedi hyn, os bydd dau neu fwy tîm yn gyfartal ar gyfer y lle cyntaf ar ddiwedd y Bencampwriaeth, yna bydd y teitl yn cael ei rannu rhyngddynt.