Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2016 oedd y 17fed yng nghyfres Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sef prif gystadleuaeth rygbi'r undeb yn Hemisffer y Gogledd. Chwaraewyd pymtheg gêm dros gyfnod o bum penwythnos rhwng 1 Chwefror a 15 Mawrth 2016. Caiff ei galw, hefyd, yn "Gystadleuaeth RBS y Chwe Gwlad" oherwydd cyfraniad y noddwyr: Banc Cenedlaethol yr Alban.
Y chwe gwlad oedd Iwerddon, Lloegr, Cymru, Ffrainc, Yr Alban a'r Eidal. Os cyfrifir cyn-gystadleuthau (y Cystadleuthau Cartref a'r Pencampwriaeth y Pum Gwlad) yna dyma 122fed cystadleuaeth.