George North

Oddi ar Wicipedia
George North
Ganwyd13 Ebrill 1992 Edit this on Wikidata
King's Lynn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra193 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau109 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Scarlets, Northampton Saints, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Wales national under-18 rugby union team, Y Gweilch Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr, Canolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr rygbi'r undeb yw George North (ganwyd 13 Ebrill 1992). Mae'n chwarae dros Gymru ac ers 2018 mae'n chwarae i glwb Y Gweilch.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed George Philip North yn King's Lynn, Norfolk, Lloegr. Symudodd y teulu i Ynys Môn pan oedd George yn ddwy flwydd oed ac o ganlyniad mae yn siaradwr Cymraeg rhugl. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Bodedern ac yng Ngholeg Llanymddyfri. Partner George yw'r seiclwraig Becky James.

Gyrfa glwb[golygu | golygu cod]

Yn 2009, cynrychiolodd Gymru dan ddeunaw, gan chwarae fel canolwr. Cafodd ei alw i fod yn sgwad ddatblygu'r Sgarlets yn yr haf yn 2010, gan chwarae yng ngêm agoriadol 2010/11 Cynghrair Magners yn erbyn Benetton Treviso. Hyd at ei alw i'r tîm cenedlaethol, roedd wedi chwarae chwe gêm i dîm cyntaf y Sgarlets.


Ar ôl chwarae i'r Sgarlets o 2010-13 cadarnahwyd ar 9 Medi 2013 y byddai'n symud at dîm y Northampton Saints ar gytundeb o dair blynedd.[1] Yn 2018 symudodd i chwarae gyda'r Gweilch

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod]

Wedi dechreuad addawol i dymor 2010, cafodd ei ddewis yn Hydref 2010 i sgwad o 33 ar gyfer cyfres ryngwladol yr Hydref. Enwyd ef ar 11 Tachwedd i chwarae dros Gymru yn erbyn De Affrica ar 13 Tachwedd, gan ei wneud y 3ydd chwaraewr ifancaf i gynrychioli Cymru ar ôl Tom Prydie a Norman Biggs ac yn gyfartal ag Evan Williams.

Gwnaeth George argraff ddofn yn ei gêm ryngwladol gyntaf ar ddydd Sadwrn 13 Tachwedd 2010 yn erbyn pencampwyr cyfredol y byd wrth sgorio dwy gais i Gymru yn Stadiwm y Mileniwm.

Enillodd ei ganfed cap dros ei wlad ar 27 Chwefror 2021 pan enillodd Cymru y Goron Driphlyg gyda buddugoliaeth o 40-24 yn erbyn Lloegr.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "BBC Sport - George North: Northampton sign Scarlets and Wales wing". Bbc.co.uk. 2013-04-09. Cyrchwyd 2013-04-30.
  2. Cymru’n dathlu’r Goron Driphlyg , Golwg360, 27 Chwefror 2021.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]