Pencampwriaeth y Pum Gwlad 1971

Oddi ar Wicipedia

Enillwyd Pencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1971 gan Gymru, a gyflawnodd y Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 1952, gan ddefnyddio dim ond 16 chwaraewr yn y pedair gêm. Eu buddugoliaeth fwyaf nodedig oedd yn erbyn yr Alban. Roedd yr Alban ar y blaen yn hwyr yn y gêm pan sgoriodd Gerald Davies gais yn y gornel, a droswyd o'r llinell ochr gan John Taylor. Ystyrir tîm 1971 fel un o'r timau gorau yn hanes Cymru, gyda chwaraewyr fel Gareth Edwards, Barry John a J.P.R. Williams.

Tabl Terfynol[golygu | golygu cod]

Safle Gwlad Gêmau Pwyntiau Pwyntiau
tabl
chwarae ennill cyfartal colli sgoriwyd yn erbyn gwahaniaeth ceisiadau
1 Cymru 4 4 0 0 73 38 +35 8
2 Ffrainc 4 1 2 1 41 40 +1 4
3 Iwerddon 4 1 1 2 41 46 -5 3
4 Lloegr 4 1 1 2 36 58 -14 3
5 Yr Alban 4 1 0 3 47 64 -17 2