Cwpan Doddie Weir
| Enghraifft o: | rugby union trophy or award, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon, rugby union match |
|---|---|
| Crëwr | Hamilton & Inches |
| Dechrau/Sefydlu | 2018 |
| Lleoliad | Cymru, Yr Alban |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
Mae Cwpan Doddie Weir (Saesneg:Doddie Weir Cup) yn dlws gwastadol rygbi'r undeb sydd yn cael ei herio rhwng yr Alban a Chymru ers 2018. Crëwyd y cwpan i ddod ag ymwybyddiaeth i glefyd niwronau motor. Cafodd cyn-glo rhyngwladol yr Alban Doddie Weir ddiagnosis o’r salwch ac enwyd y cwpan er anrhydedd iddo.[1]
Enillodd Cymru yn y gêm agoriadol o 21 pwynt i 10 yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2018.[2] Cymru yw'r deiliaid presennol.[3]
Dyluniad
[golygu | golygu cod]Comisiynwyd y cwpan ar y cyd gan Undeb Rygbi'r Alban ac Undeb Rygbi Cymru a chafodd ei ddylunio gan y gofaint arian o Gaeredin Hamilton ac Inches.[4]
Dywedodd Doddie Weir am y tlws bod y gof arian "wedi gwneud gwaith hollol wych wrth ei wneud gyda dolenni mawr i efelychu fy nghlustiau enfawr!".[5]
Elusen
[golygu | golygu cod]Sefydlodd Weir elusen o'r enw My Name'5 Doddie Foundation i helpu i ariannu triniaethau ar gyfer clefyd niwronau motor.[6]
Yn wreiddiol, nid oedd Undeb Rygbi Cymru nac Undeb Rygbi'r Alban yn bwriadu cyfrannu unrhyw arian werthiant tocynnau i'r gêm agoriadol i'r elusen,[7] ond arweiniodd pwysau gan gefnogwyr ac yn y cyfryngau at roi swm chwe ffigwr yn y pen draw.[8]
Crynodeb
[golygu | golygu cod]| Manylion | Wedi chwarae | Wedi ennill gan |
Wedi ennill gan |
Cyfartal | Pwyntiau i'r Alban | Pwyntiau i Gymru |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Yn yr Alban | 2 | 0 | 2 | 0 | 35 | 43 |
| Yng Nghymru | 2 | 1 | 1 | 0 | 24 | 31 |
| Cyfanswm | 4 | 1 | 3 | 0 | 59 | 74 |
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Dyddiad | Lleoliad | Cartref | Sgôr | Oddi Gartref | Enillydd |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 2018 | 3 Tachwedd | Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd | 21–10 | |||
| 2019 | 9 Mawrth | Stadiwm Murrayfield, Caeredin | 11–18 | |||
| 2020 | 31 Hydref | Parc y Scarlets, Llanelli | 10–14 | |||
| 2021 | 13 Chwefror | Stadiwm Murrayfield, Caeredin | 24–25 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Pwysau ar undebau rygbi i gyfrannu arian". 2018-10-29. Cyrchwyd 2019-09-05.
- ↑ "Croesawu'r Alban yng Nghyfres yr Hydref yn 2018". BBC Cymru Fyw. 2018-01-19. Cyrchwyd 2021-02-14.
- ↑ "Pencampwriaeth y 6 Gwlad: Yr Alban 24-25 Cymru". BBC Cymru Fyw. 2021-02-13. Cyrchwyd 2021-02-14.
- ↑ "Doddie Weir Cup Design". Hamilton & Inches. Cyrchwyd 2021-02-14.
- ↑ Barnes, David (2018-10-28). "SRU and WRU have let the sport down, but Doddie Weir Cup is still well worth celebrating". The Offside Line (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-14.
- ↑ "Cefnogaeth 'anhygoel' i Doddie Weir yng Nghymru". BBC Cymru Fyw. 2018-11-02. Cyrchwyd 2021-02-14.
- ↑ "Scottish Rugby defends Weir cash decision". BBC Sport. Cyrchwyd 2021-02-14.
- ↑ "Elusen: Undeb Rygbi Cymru'n ildio i bwysau". BBC Cymru Fyw. 2018-10-30. Cyrchwyd 2021-02-14.
| ||||||||||||||||||||||||||||