Doddie Weir

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Doddie Weir
Ganwyd 4 Gorffennaf 1970 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Stewart's Melville College Edit this on Wikidata
Galwedigaeth chwaraewr rygbi'r undeb, rheolwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/au Melrose RFC, Newcastle Falcons, Border Reivers, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata
Safle Clo Edit this on Wikidata

Cyn-chwaraewr rygbi i'r Alban, yn safle'r ail reng, yw George "Doddie" Weir (ganwyd 4 Gorffennaf 1970). Chwaraeodd mewn 61 o gemau rhyngwladol i dîm rygbi cenedlaethol yr Alban.

Ganwyd Weir yng Nghaeredin, a chafodd ei addysgu yn Ngholeg Daniel Stewart a Melville. Astudiodd yng Ngholeg Amaethyddol yr Alban rhwng 1988 a 1991, gan ennill Diploma Cenedlaethol Uwch.

Chwaraeodd Weir ei gêm gyntaf dros yr Alban ar 10 Tachwedd 1990 yn erbyn Yr Ariannin yn Stadiwm Murrayfield.[1] Fel un o hoelion wyth y tîm trwy gydol y 1990au roedd yn ffigwr hawdd i'w adnabod ar y cae ac yn dipyn o ffefryn gan y cefnogwyr.

Gyda'i arbenigedd yn y llinell, cafodd ei ddewis yn aelod o garfan y Llewod ar eu taith i Dde Affrica yn 1997. Cafodd anaf cas i'w ben-glin yn ystod y daith, tra'n chwarae yn erbyn Tiriogaeth Mpumalanga.

Sgoriodd 19 o bwyntiau mewn 61 ymddangosiad i'r Alban, a hynny o bedair cais (y gyntaf yn y cyfnod pan oedd cais werth 4 pwynt). Enillodd wobr Chwaraewr Pencampwriaeth y Pum Gwlad i'r Alban Famous Grouse yn 1997,[2] ac, yn gofiadwy iawn, cafodd ei ddisgrifio gan y sylwebydd Bill McLaren fel 'jiraff gwyllt ar ruthr'.[3]

Aeth Weir i weithio i Hutchinson Environmental Solutions, cwmni rheoli gwastraff a gychwynnwyd gan ei dad-yng-nghyfraith.[4] Mae hefyd yn teithio fel siaradwr gwadd yn dilyn ciniawau ac wedi ymddangos fel sylwebydd hanner amser i'r BBC yn ystod gemau'r Alban. 

Ym Mehefin 2017, cyhoeddodd Weir fod ganddo glefyd motor neurone, a hynny ar ddiwrnod byd-eang i godi ymwybyddiaeth o'r clefyd.[5] Yn Awst, rhannodd ei gynlluniau i gychwyn sefydliad o'r enw 'My Name's Doddie' er mwyn codi arian tuag at ymchwil i'r clefyd a rhoi grantiau i bobl sydd yn byw gyda'r cyflwr.[6] Erbyn diwedd Hydref 2018, roedd yr elusen wedi codi dros filiwn o bunnoedd.

Sefydlwyd Cwpan Doddie Weir fel gwobr i'r tîm buddugol mewn gêm flynyddol, yn ystod yr hydref, rhwng Yr Alban a Chymru. Chwaraewyd y gyntaf yn Stadiwm Principality ar 3 Tachwedd 2018.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]