Jack Matthews

Oddi ar Wicipedia
Jack Matthews
Ganwyd21 Mehefin 1920 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Bu farw18 Gorffennaf 2012 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmeddyg yn y fyddin, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Bridgend Ravens, Clwb Rygbi Casnewydd, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleCanolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb yw Jack Matthews OBE (21 Awst 192018 Gorffennaf 2012). Enillodd 17 o gapiau dros Gymru a chwaraeodd i'r Llewod. Roedd yn chwarae fel asgellwr neu ganolwr.

Ganed ef ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn feddyg wrth ei alwedigaeth, bu'n chwarae rygbi i Gaerdydd. Yn ystod "ail oes aur" tîm rygbi Cymru yn nechrau'r 1950au, ffurfiai ef a Bleddyn Williams bartneriaeth fel canolwyr a ystyrir yn un o'r rhai gorau yn hanes rygbi Cymru. Enillodd chwe chap dros y Llewod ar eu taith i Seland Newydd ac Awstralia yn 1950.

Ef oedd meddyg tîm y Llewod ar eu taith i Dde Affrica yn 1980.



Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.