Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Namibia

Oddi ar Wicipedia
Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Namibia
Lliwiau cartref
Lliwiau oddi cartref
Cwpan y Byd
Ymddangosiadau5
Arwyddlun Undeb Rygbi Namibia
Arwyddlun Undeb Rygbi Namibia

Mae tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Namibia, a elwir hefyd yn Welwitschias (planhigyn gwydn sy'n tyfu yn anialwch Namibia) neu Biltongboere (ffermwyr biltong - cig sych yw biltong), yn dîm rygbi cenedlaethol Namibia, gwlad yn neheudir Affrica. Maent yn dîm ail haen yn system lefel World Rugby ac wedi chwarae mewn pum twrnamaint ers eu hymddangosiad cyntaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd. Rheolir y tîm gan Undeb Rygbi Namibia.

Mae Namibia wedi bod yn chwarae rygbi rhyngwladol ers dechrau'r 1900au. Yn ogystal â chwarae yng Nghwpan y Byd, maen nhw hefyd yn chwarae yng nghystadleuaeth flynyddol Cwpan Rygbi Affrica. Hyd at annibyniaeth yn 1990, gellid dewis chwaraewyr Namibia ar gyfer y Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol De Affrica, y "Springboks". Y Namibiad Springbok diweddaraf yw Percy Montgomery (cafodd ei eni ym Mae Walvis a oedd yn diriogaeth De Affrica ym 1974).

Gwybodaeth[golygu | golygu cod]

Ceir dros 5,800 o chwaraewyr cofrestriedig yn y wlad a 28 clwb.[1] Dim ond nifer fach iawn o ferched sy'n chwarae'r gêm.

Mae arwyddlun y tîm yn darlunio Pysgeryr Affrica.

Golcheler rhag drysu y llysenw Welwitschias ar gyfer y tîm cenedlaethol a'r enw ar dîm clwb o Windhoek, Nambia sy'n chwarae yn system rygbi Ne Affrica.

Hanes[golygu | golygu cod]

Tîm cenedlaethol Namibia
Tîm cenedlaethol Namibia

Chwareir rygbi yn Namibia er 1916 pan gafodd ei chwarae yno gan filwyr De Affrica a oresgynnodd y diriogaeth a oedd yn drefediaeth "Sud West Afrika" yn rhan o Ymerodraeth yr Almaen. Cyn annibyniaeth Namibia yn 1990, chwaraeodd y tîm South West Africa yng nghystadleuaeth dadleuol "Cwpan Currie". Y canlyniad gorau i'r tîm oedd ym 1989 pan orffennon nhw'n drydydd.

Cyn annibyniaeth yn 1990, y corff llywodraethu i rygbi yn y wlad oedd Bwrdd Rygbi De Affrica ("South African Rugby Board").[2] Y cyrff rheoli a fodolai cyn hynny yn beth a alwyd yn South West Africa rhwng 1916 a 1990 oedd y "South Africa Rugby Football Board" (i bobl gwyn yn unig) a sefydlwyd yn 1889 a'r "South Africa Coloured Rugby Board" a sefydlwyd yn 1896.

Sefydlwyd Undeb Rygbi Namibia ym mis Mawrth 1990 ac ymunodd â'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol, yr IRB (a elwir yn World Rugby bellach) yn yr un mis. Fodd bynnag, ni allai'r tîm fod yn gymwys ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd ym 1991 oherwydd iddynt ennill eu annibyniaeth yn rhy hwyr. Bu blynyddoedd cyntaf Undeb Rygbi Namibia yn gymharol lwyddiannus gan fod y chwaraewyr tan yn ddiweddar wedi chwarae yng nghystadleuaeth Cwpan Currie. Uchafbwynt iddyn nhw oedd ennill cyfres gartref yn erbyn Iwerddon a'r yr Eidal o 2-0 ym 1991. Y flwyddyn honno, enillodd y "Welwitschias" bob un o’u 10 prawf, gan gynnwys pum buddugoliaeth dros Simbabwe ac un yn erbyn Portiwgal yn Lisbon. Cafodd un o chwaraewyr Namibia, André Stoop, gynnig cytundeb i chwarae i’r Wigan Warriors yn nhwrnamaint rygbi'r gynghrair yn Lloegr.

Yn ystod y tymhorau rhyngwladol, chwaraeodd Namibia chwe gêm; y cyntaf oedd buddugoliaeth o 55–23 dros Simbabwe, ac yna buddugoliaeth arall dros Simbabwe; yn 1993 chwaraeodd Namibia yn erbyn Cymru yn Windhoek a cholli o 23-38. Wedi hynny, enillodd Namibia fuddugoliaethau mawr dros Gwlff Arabia, Cenia a Simbabwe yn y rowndiau cychwynnol o gymhwyso ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd ym 1995.

Aeth Rwsia ar daith i Namibia ym 1994, gan guro'r tîm cartref 31-12 yn Windhoek. Er i Namibia ennill yn erbyn Simbabwe y flwyddyn honno, fe gollodd y tîm i Ivory Coast a chwarae yn gyfartal yn erbyn Moroco (y ddwy gêm yn Casablanca). Yn 1996, chwaraeodd Namibia ddwy gêm, y ddwy yn erbyn Simbabwe, lle collon nhw'r cyntaf o ddau bwynt ac ennill yr ail o un pwynt. Yn 1997 fe wnaethant chwarae eto mewn dwy gêm, y tro hwn yn erbyn Tonga a Simbabwe, ond collon nhw'r ddwy gêm.

Ar ddiwedd 2014, aeth Namibia ar daith dramor a chwarae profion yn erbyn yr Almaen, Canada, tîm Barbaria o Ffrainc a Phortiwgal. Enillodd Namibia yn erbyn yr Almaen ond collodd y tair gêm arall.

Cymdeithaseg y Gêm[golygu | golygu cod]

Tîm Namibia, Cwpan y Byd 2015 yn erbyn y Crysau Duon
Tîm Namibia, Cwpan y Byd 2015 yn erbyn y Crysau Duon

Fel yn Ne Affrica, mae'r gamp yn fwyaf poblogaidd ymhlith siaradwyr, ond mae llawer o Namibiaid gwyn Saesneg eu hiaith hefyd yn ei mwynhau. Mae'r gamp yn boblogaidd ymhlith plant ysgol, ond mae'r boblogaeth rygbi sy'n chwarae undeb yn Namibia yn dal yn gymharol fach gyda dim ond 19 clwb a thua 8,192 o chwaraewyr hŷn cofrestredig yn 1990.[3]

Fel gwlad helaeth, denau ei phoblogaeth, heb lawer o isadeiledd, yn aml mae'n rhaid i chwaraewyr deithio pellteroedd enfawr i gemau. Mae hon yn broblem gyffredin mewn llawer o wledydd Affrica, ond mae un Namibia wedi delio â hi'n well na'r mwyafrif. Nodwedd anarferol arall o rygbi Namibia yw cyfran uchel o Gristnogion efengylaidd, sy'n aml yn cynnal cyfarfodydd gweddi cyn gemau ac weithiau'n gwrthod chwarae ar ddydd Sul.[2]

Record Cwpan y Byd[golygu | golygu cod]

Conrad Marais, CRB 2015
Blwyddyn Sefyllfa
1987 Heb gystadlu (ddim yn annibynnol)
1991 Heb gystadlu (ddim yn annibynnol)
1995 Heb gymwyso
1999 Cymal y grŵp
2003 Cymal y grŵp
2007 Cymal y grŵp
2011 Cymal y grŵp
2015 Cymal y grŵp

Record[golygu | golygu cod]

30 safle uchaf ar 10 Chwefror 2020[4]
Safle Newid* Tîm Pwyntiau
1 steady  De Affrica 094.19
2 steady  Seland Newydd 092.11
3 steady  Lloegr 087.80
4 increase  Iwerddon 085.36
5 Decrease  Cymru 084.28
6 steady  Ffrainc 082.37
7 steady  Awstralia 081.90
8 steady  Japan 079.28
9 steady  Yr Alban 078.58
10 steady  Yr Ariannin 078.31
11 steady  Ffiji 076.21
12 increase  Georgia 072.70
13 Decrease  Yr Eidal 072.04
14 steady  Tonga 071.44
15 steady  Samoa 070.72
16 steady  Sbaen 068.28
17 steady  Unol Daleithiau America 068.10
18 steady  Wrwgwái 067.41
19 steady  Rwmania 065.11
20 increase  Portiwgal 062.40
21 steady  Hong Cong 061.23
22 increase  Canada 061.12
23 increase  Namibia 061.01
24 increase  Yr Iseldiroedd 060.08
25 Decrease  Rwsia 059.90
26 steady  Brasil 058.89
27 steady  Gwlad Belg 057.57
28 steady  Yr Almaen 054.64
29 steady  Chile 053.83
30 steady  De Corea 053.11
*Newid o'r wythnos flaenorol
Safleoedd blaenorol Namibia
Ffynhonnell: World Rugby - Diweddarwyd y graff i 7 Ionawr 2019[4]

Gweler isod dabl o gemau prawf tîm cenedlaethol Namibia hyd at 26 Awst 2019.[5]

Gwrthwynebwyr Chwarae Ennill Colli Cyfartal % Ennill Pwyntiau o blaid Pwyntiau yn erbyn Gwahaniaeth pwyntiau
 Arabian Gulf 1 1 0 0 100.00% 64 20 +44
 Yr Ariannin 3 0 3 0 0.00% 36 194 -158
 Awstralia 1 0 1 0 0.00% 0 142 -142
 Canada 2 0 2 0 0.00% 24 89 -65
 Ffiji 2 0 2 0 0.00% 43 116 -73
 Ffrainc 2 0 2 0 0.00% 23 134 -111
 France XV 2 0 2 0 0.00% 36 49 -13
 Georgia 5 1 4 0 20.00% 73 112 -39
 Yr Almaen 2 2 0 0 100.00% 137 33 +104
 Hong Cong 1 1 0 0 100.00% 22 12 +10
 Iwerddon 4 2 2 0 50.00% 65 117 -52
 yr Eidal 3 2 1 0 66.67% 74 75 -1
 Arfordir Ifori 4 2 1 1 50.00% 101 50 +51
 Cenia 11 9 2 0 81.82% 544 201 +343
 Madagasgar 4 3 1 0 75.00% 310 84 +226
 Moroco 8 5 2 1 62.50% 196 144 +52
 Seland Newydd 1 0 1 0 0.00% 14 58 -44
 Portiwgal 8 6 2 0 75.00% 258 148 +110
 Rwmania 6 1 5 0 16.67% 66 158 -92
 Rwsia 7 2 5 0 28.57% 141 183 -42
 Samoa 2 0 2 0 0.00% 25 89 -64
Nodyn:RuA 1 1 0 0 0.00% 23 20 +3
 Senegal 4 4 0 0 100.00% 163 40 +123
 De Affrica 2 0 2 0 0.00% 13 192 -179
 Sbaen 7 2 5 0 28.57% 156 178 -22
 Tonga 2 0 2 0 0.00% 35 55 -20
 Tiwnisia 11 8 3 0 72.73% 368 159 +209
 Wganda 5 4 1 0 80.00% 244 94 +150
 Wrwgwái 4 1 3 0 25.00% 112 142 -30
 Cymru 4 0 4 0 0.00% 69 171 -102
 West Germany 1 1 0 0 100.00% 54 7 +47
 Sambia 2 2 0 0 100.00% 132 20 +112
 Simbabwe 32 29 3 0 90.63% 1198 665 +533
Total 154 89 63 2 58.44% 4819 3951 +868

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://web.archive.org/web/20110926092717/http://www.irb.com/unions/union=11000078/index.html
  2. 2.0 2.1 https://www.amazon.co.uk/RUGBY-RICHARD-BATH/dp/1862000131
  3. World Rugby (2016). "Global Rugby Participation". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-15. Cyrchwyd 2019-01-08.
  4. 4.0 4.1 "Men's World Rankings". World Rugby. Cyrchwyd 30 Medi 2019.
  5. Namibia rugby statistics
Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.