Neidio i'r cynnwys

Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Wrwgwái

Oddi ar Wicipedia
Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Wrwgwái
Lliwiau cartref
Lliwiau oddi cartref
Cwpan y Byd
Ymddangosiadau3

Mae tîm rygbi undeb cenedlaethol Wrwgwái, (llysenw Los Teros; "Y Cornchwiglod" [1]), yn cael ei lywodraethu gan Undeb Rygbi Wrwgwái ("Unión de Rugby del Uruguay"). Mae'n un o'r timau prawf hyna'r byd, ac mae wedi cymhwyso bedair gwaith ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, ym 1999, 2003, 2015 ac yn fwyaf diweddar 2019. Maent un o dimau cryfaf yr Americas.

Mae Wrwgwái wedi bod yn gyson yn un o’r ochrau rhyngwladol ymylol gorau yn rygbi'r undeb, ar ôl curo cystadleuaeth Lefel 2 a 3 o bob cwr o’r byd. Enillodd Wrwgwái Bencampwriaeth Rygbi De America ym 1981, yr unig dro (cyn 2014) i dîm heblaw'r Ariannin ennill y twrnamaint. Daethant yn ail ar 19 achlysur a thrydydd o'r 9 sy'n weddill. O 2012, mae Wrwgwái wedi'i dosbarthu fel cenedl Lefel 2, sy'n caniatáu iddynt dderbyn mwy o arian gan gorff llywodraethol ryngwladol rygbi'r undeb, World Rugby.

Ei stadiwm cartref yw Estadio Charrúa yn y brifddinas, Montevideo ac mae'n dal hyd at 14,000 o bobl. Mae Estadio Domingo Burgueño hefyd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer rhai gemau ym Mhencampwriaeth Rygbi America.

Wrwgwái v Chile, Pencampwriaeth De America yn Buenos Aires, 1951
Gêm Pencampwriaeth Rygbi yr Americas, 2017 Wrwgwái v Canada

Sefydlu'r Gêm

[golygu | golygu cod]

Chwaraewyd undeb rygbi ar bridd Wrwgwái mor gynnar â'r 19g o bosibl, gydag adroddiadau bod pêl-droed rygbi yn cael ei chwarae mor gynnar â 1865,[2] er bod gwreiddiau rygbi yn Wrwgwái'n parhau i fod yn ddadleuol. Waeth pwy chwaraeodd y gêm rygbi gyntaf yn Wrwgwái, mae'n amlwg bod rygbi wedi'i gyflwyno yn y wlad gan fewnfudwyr o Brydain yn y 19g, gyda'r gêm yn cael ei phoblogeiddio'n fwy gan Cynulleidfa'r Brodyr Cristnogol ("Congregation of Christian Brothers"), a oedd o darddiad Gwyddelig. Oherwydd hyn, mae gan Wrwgwái un o'r diwylliannau rygbi hynaf y tu allan i Ynysoedd Prydain, ac un o'r rhai mwyaf sefydledig yn Ne America.

Gemau Rhyngwladol Cynnar

[golygu | golygu cod]

Chwaraewyd gêm ryngwlado swyddogol gyntaf yn 1948 yn erbyn Chile, a gollodd Wrwgwái 21–3. Yn dilyn eu gêm gyntaf, maent yn dychwelyd i gystadleuaeth yn y Gemau Pan Americanaidd, yn gyntaf yn erbyn yr Ariannin mwy profiadol, gan arwain at golled 0-62. Yna fe wynebodd Wrwgwái Chile am yr eildro, gan eu trechu erbyn 8–3. Gêm olaf y gystadleuaeth oedd buddugoliaeth o 17-10 dros Brasil. Felly daeth Wrwgwái'n ail ym Mhencampwriaeth Rygbi answyddogol gyntaf De America.

Bu'n rhaid aros nes 1960 cyn i Wrwgwái wynebu un o bwerau rygbi Hemisffer y Gogledd, Ffrainc XV, am y tro cyntaf, gan golli o 0-59 ym Montevideo yn ystod taith yn Ne America.

Dros yr 1970au ac 1980au, timau eraill De America megis Paraguay a Brasil oedd prif wrthwynebwyr Wrwgwái. Ym 1985, ymwelodd Ffrainc â Montevideo am yr eildro i chwarae'r Teros, gan guro'r bobl leol 34–6. Yn ystod yr 1990au chwaraeodd Wrwgwái rai o'r cenhedloedd mwy fel yr Ariannin, Canada a'r Unol Daleithiau, serch hynny. Canada a'r UD roedd gemau yn llawer agosach na rhai o'u cyfarfyddiadau blaenorol. Llwyddiant enfawr iddyn nhw oedd cymhwyso ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 1999 yng Nghymru. Fe wnaethant ennill eu gêm yn y pwll yn erbyn Sbaen, gorffennodd Wrwgwái yn drydydd yn eu pwll.

Ehangu Adennydd

[golygu | golygu cod]
Wrwgwai v Canada, Pencampwriaeth Rygbi yr Americas, 2017

Yn ystod yr 2000au cafodd Wrwgwái dechreuodd Wrwgwái chwarae timau newydd megis yr Eidal, a cafwyd Cyfres o fuddugoliaethau nodediad gan drechu Canada, 25-23; UDA 10-9, cymwyso ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2003 gan drechu Jeorjia 24-12.

Ond methodd y tîm gymwyso ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2007 a 2011 gan golli i Rwmania 12-32 ac y cyfle olaf un yn Bucharest.

Llwyddodd y tîm i gyrraedd yr 20 tîm sy'n cystadlu ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2015 wedi dilyn llwybr hir trwy drechu Rwsia ar sgôr gyfanredol o 57-49 yn y gyfres dwy gêm, gan ennill yr ail gêm gartref 36–27 o flaen 14,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Charrua.[3]

Ar Chwefror 3, 2018, cymhwysodd Los Teros ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2019 fel Americas 2 ar ôl curo Canada yn y cymal gartref.

Mae Wrwgwái hefyd yn un o'r chwech tîm cenedlaethol sy'n cymryd rhan yng nghystadleuaeth flynyddol Pencampwriaeth Rygbi yr Americas, a adnabir fel pencamwpwriaeth "Chwe Gwlad Americas".

Cymru ac Wrwgwái

[golygu | golygu cod]

Dim ond unwaith y bu i Wrwgwái chwarae yn erbyn Cymru cyn Cwpan Rygbi'r Byd 2019 a bu hynny mewn cwpan rygbi arall. Roedd Wrwgwái yn yr un grŵp â Chymru a bu i'r De Americanwyr golli 54-9 mewn gêm yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.[4][5]

Newidiodd yr URU logo'r undeb ym mis Tachwedd 2014 yn barod ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2015[6].

Record Cwpan y Byd a Chystadlaethau Eraill

[golygu | golygu cod]

Cwpan Rygbi'r Byd

1987  : heb gwahodd;
1991  : heb gymwyso;
1995  : heb gymwyso;
1999  : allan wedi'r rownd 1af;
2003  : allan wedi'r rownd 1af;
2007  : heb gymwyso;
2011  : heb gymwyso;
2015  : allan wedi'r rownd 1af;
2019  : wedi cymwyso.

Pencampwriaeth Rygbi De America

Ennill yn 1981 a 2014;
Rown derfynnol yn: 1951, 1973, 1977, 1979, 1983, 1985, 1987, 1991, 1993, 1995, 1997, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005, 2006, 2007, 2008, 2009, 2010, 2012

Record Byd-eang

[golygu | golygu cod]
30 safle uchaf ar 17 Chwefror 2025[7]
SafleNewid*TîmPwyntiau
1 steady De Affrica092.78
2 steady Iwerddon091.36
3 steadyBaner Seland Newydd Seland Newydd090.36
4 steadyBaner Ffrainc Ffrainc087.19
5 steadyBaner Yr Ariannin Yr Ariannin084.97
6 steadyBaner Lloegr Lloegr083.63
7 steadyBaner Yr Alban Yr Alban082.99
8 steadyBaner Awstralia Awstralia081.52
9 steadyBaner Ffiji Ffiji080.07
10 steadyBaner Yr Eidal Yr Eidal078.67
11 steadyBaner Georgia Georgia074.69
12 steadyBaner Cymru Cymru073.75
13 steadyBaner Japan Japan072.95
14 steadyBaner Samoa Samoa072.68
15 increase1Baner Portiwgal Portiwgal070.04
16 Decrease1Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America070.02
17 steadyBaner Wrwgwái Wrwgwai067.06
18 steadyBaner Sbaen Sbaen065.60
19 steadyBaner Tonga Tonga065.46
20 steady Rwmania062.76
21 steady Tsile061.72
22 steady Hong Cong059.49
23 steadyBaner Canada Canada059.18
24 steady Yr Iseldiroedd059.16
25 steadyBaner Namibia Namibia057.87
26 steadyBaner Simbabwe Simbabwe057.16
27 increase2 Gwlad Belg057.10
28 Decrease1 Brasil056.53
29 Decrease2 Y Swistir054.98
30 steady Sweden054.10
*Newid o'r wythnos flaenorol
Safleoedd blaenorol Uruguay
Ffynhonnell: World Rugby - Diweddarwyd y graff i 17 Chwefror 2025[7]

Mae Wrwgwái wedi colli pob gêm swyddogol yn erbyn yr Ariannin, ond mae ganddi record gadarnhaol yn erbyn eu cystadleuwyr eraill yn Ne America: Chile (25 buddugoliaeth, 13 colled, 1 gêm gyfartal), Paraguay (20 buddugoliaeth, 1 gêm gyfartal) a Brasil (16 buddugoliaeth, 3 colled).

O ran timau Lefel 2, mae gan Wrwgwái gofnodion cadarnhaol gyda Phortiwgal, cofnodion niwtral â Sbaen, a chofnodion negyddol gydag UDA, Canada, Jeorgia, Rwmania a Rwsia.

Isod mae tabl o'r gemau rygbi cynrychioliadol a chwaraewyd gan XV cenedlaethol Wrwgwái ar lefel prawf hyd at 20 Awst 2019.[8]

Opponent Played Won Lost Drawn Win % For Aga Diff
 Yr Ariannin4204200.00%4341744−1310
Nodyn:RuA1239040.00%174505−331
Nodyn:RuA20200.00%401010−61
Baner Awstralia Awstralia10100.00%365−62
 Gwlad Belg1100100.00%3913+26
Baner Brasil Brasil27252092.59%962201+671
 Canada1358033.33%232370−141
Baner Tsile Tsile524011177.88%1281789+493
Gweriniaeth Iwerddon Emerging Ireland30300.00%43126−83
Nodyn:RuA422050.00%9089+1
 Lloegr20200.00%16171−155
 Ffiji30300.00%46154−108
 Fiji XV10100.00%324−21
Nodyn:RuA312033.33%7382−9
 France XV20200.00%695−89
 Georgia523040.00%7285−13
 Yr Almaen10100.00%2124−3
Baner Hong Cong Hong Cong1100100.00%283+25
Baner Yr Eidal Yr Eidal30300.00%2592−67
Baner Japan Japan 312033.33%3288−56
 Casachstan1100100.00%447+37
 Moroco211050.00%3624+12
 Namibia431075.00%142112+30
 New Zealand XV10100.00%364−61
 Paragwái26250196.15%1322238+1084
 Periw1100100.00%106+4
 Portiwgal1073070.00%234142+92
 Rwmania91710.00%85226−141
 Rwsia954055.55%231215+16
 Samoa10100.00%1360−47
 Yr Alban10100.00%1243−31
Nodyn:RuA10100.00%327−24
 De Affrica30300.00%12245−233
De Affrica South Africa President's XV10100.00%937−28
South American XV1100100.00%2420+4
 Sbaen1266050.00%232197+35
 Unol Daleithiau America19315118.42%317591−274
 Feneswela1100100.00%928+84
 Cymru10100.00%954−45
Total284135145447.54%64537226−773

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-30. Cyrchwyd 2019-08-30.
  2. ↑ Richards, p54, Chapter 2 Practising the Games of the Anglo-Saxon...
  3. ↑ "Uruguay qualify for Rugby World Cup 2015" Archifwyd 2014-10-12 yn y Peiriant Wayback, IRB.com, 11 October 2014.
  4. ↑ https://www.bbc.co.uk/sport/rugby-union/34294887
  5. ↑ https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/200306-cymru-v-wrwgwai-dydd-sul
  6. ↑ Nodyn:Lien web
  7. 1 2 "Men's World Rankings". World Rugby. Cyrchwyd 18 Chwefror 2025.
  8. ↑ Uruguay rugby statistics
Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.