Neidio i'r cynnwys

Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Wrwgwái

Oddi ar Wicipedia
Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Wrwgwái
Lliwiau cartref
Lliwiau oddi cartref
Cwpan y Byd
Ymddangosiadau3

Mae tîm rygbi undeb cenedlaethol Wrwgwái, (llysenw Los Teros; "Y Cornchwiglod" [1]), yn cael ei lywodraethu gan Undeb Rygbi Wrwgwái ("Unión de Rugby del Uruguay"). Mae'n un o'r timau prawf hyna'r byd, ac mae wedi cymhwyso bedair gwaith ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, ym 1999, 2003, 2015 ac yn fwyaf diweddar 2019. Maent un o dimau cryfaf yr Americas.

Mae Wrwgwái wedi bod yn gyson yn un o’r ochrau rhyngwladol ymylol gorau yn rygbi'r undeb, ar ôl curo cystadleuaeth Lefel 2 a 3 o bob cwr o’r byd. Enillodd Uruguay Bencampwriaeth Rygbi De America ym 1981, yr unig dro (cyn 2014) i dîm heblaw'r Ariannin ennill y twrnamaint. Daethant yn ail ar 19 achlysur a thrydydd o'r 9 sy'n weddill. O 2012, mae Wrwgwái wedi'i dosbarthu fel cenedl Lefel 2, sy'n caniatáu iddynt dderbyn mwy o arian gan gorff llywodraethol ryngwladol rygbi'r undeb, World Rugby.

Ei stadiwm cartref yw Estadio Charrúa yn y brifddinas, Montevideo ac mae'n dal hyd at 14,000 o bobl. Mae Estadio Domingo Burgueño hefyd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer rhai gemau ym Mhencampwriaeth Rygbi America.

Wrwgwái v Chile, Pencampwriaeth De America yn Buenos Aires, 1951
Gêm Pencampwriaeth Rygbi yr Americas, 2017 Wrwgwái v Canada

Sefydlu'r Gêm

[golygu | golygu cod]

Chwaraewyd undeb rygbi ar bridd Uruguayaidd mor gynnar â'r 19g o bosibl, gydag adroddiadau bod pêl-droed rygbi yn cael ei chwarae mor gynnar â 1865,[2] er bod gwreiddiau rygbi yn Uruguay yn parhau i fod yn ddadleuol. Waeth pwy chwaraeodd y gêm rygbi gyntaf yn Wrwgwái, mae'n amlwg bod rygbi wedi'i gyflwyno yn y wlad gan fewnfudwyr o Brydain yn y 19g, gyda'r gêm yn cael ei phoblogeiddio'n fwy gan Cynulleidfa'r Brodyr Cristnogol ("Congregation of Christian Brothers"), a oedd o darddiad Gwyddelig. Oherwydd hyn, mae gan Wrwgwái un o'r diwylliannau rygbi hynaf y tu allan i Ynysoedd Prydain, ac un o'r rhai mwyaf sefydledig yn Ne America.

Gemau Rhyngwladol Cynnar

[golygu | golygu cod]

Chwaraewyd gêm ryngwlado swyddogol gyntaf yn 1948 yn erbyn Chile, a gollodd Uruguay 21–3. Yn dilyn eu gêm gyntaf, maent yn dychwelyd i gystadleuaeth yn y Gemau Pan Americanaidd, yn gyntaf yn erbyn yr Ariannin mwy profiadol, gan arwain at golled 0-62. Yna fe wynebodd Uruguay Chile am yr eildro, gan eu trechu erbyn 8–3. Gêm olaf y gystadleuaeth oedd buddugoliaeth o 17-10 dros Brasil. Felly daeth Uruguay yn ail ym Mhencampwriaeth Rygbi answyddogol gyntaf De America.

Bu'n rhaid aros nes 1960 cyn i Wrwgwái wynebu un o bwerau rygbi Hemisffer y Gogledd, Ffrainc XV, am y tro cyntaf, gan golli o 0-59 ym Montevideo yn ystod taith yn Ne America.

Dros yr 1970au ac 1980au, timau eraill De America megis Paraguay a Brasil oedd prif wrthwynebwyr Wrwgwái. Ym 1985, ymwelodd Ffrainc â Montevideo am yr eildro i chwarae'r Teros, gan guro'r bobl leol 34–6. Yn ystod yr 1990au chwaraeodd Wrwgwái rai o'r cenhedloedd mwy fel yr Ariannin, Canada a'r Unol Daleithiau, serch hynny. Canada a'r UD roedd gemau yn llawer agosach na rhai o'u cyfarfyddiadau blaenorol. Llwyddiant enfawr iddyn nhw oedd cymhwyso ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 1999 yng Nghymru. Fe wnaethant ennill eu gêm yn y pwll yn erbyn Sbaen, gorffennodd Wrwgwái yn drydydd yn eu pwll.

Ehangu Adennydd

[golygu | golygu cod]
Wrwgwai v Canada, Pencampwriaeth Rygbi yr Americas, 2017

Yn ystod yr 2000au cafodd Wrwgwái dechreuodd Wrwgwái chwarae timau newydd megis yr Eidal, a cafwyd Cyfres o fuddugoliaethau nodediad gan drechu Canada, 25-23; UDA 10-9, cymwyso ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2003 gan drechu Jeorjia 24-12.

Ond methodd y tîm gymwyso ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2007 a 2011 gan golli i Rwmania 12-32 ac y cyfle olaf un yn Bucharest.

Llwyddodd y tîm i gyrraedd yr 20 tîm sy'n cystadlu ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2015 wedi dilyn llwybr hir trwy drechu Rwsia ar sgôr gyfanredol o 57-49 yn y gyfres dwy gêm, gan ennill yr ail gêm gartref 36–27 o flaen 14,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Charrua.[3]

Ar Chwefror 3, 2018, cymhwysodd Los Teros ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2019 fel Americas 2 ar ôl curo Canada yn y cymal gartref.

Mae Wrwgwái hefyd yn un o'r chwech tîm cenedlaethol sy'n cymryd rhan yng nghystadleuaeth flynyddol Pencampwriaeth Rygbi yr Americas, a adnabir fel pencamwpwriaeth "Chwe Gwlad Americas".

Cymru ac Wrwgwái

[golygu | golygu cod]

Dim ond unwaith y bu i Wrwgwái chwarae yn erbyn Cymru cyn Cwpan Rygbi'r Byd 2019 a bu hynny mewn cwpan rygbi arall. Roedd Wrwgwái yn yr un grŵp â Chymru a bu i'r De Americanwyr golli 54-9 mewn gêm yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.[4][5]

Newidiodd yr URU logo'r undeb ym mis Tachwedd 2014 yn barod ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2015[6].

Record Cwpan y Byd a Chystadlaethau Eraill

[golygu | golygu cod]

Cwpan Rygbi'r Byd

1987  : heb gwahodd;
1991  : heb gymwyso;
1995  : heb gymwyso;
1999  : allan wedi'r rownd 1af;
2003  : allan wedi'r rownd 1af;
2007  : heb gymwyso;
2011  : heb gymwyso;
2015  : allan wedi'r rownd 1af;
2019  : wedi cymwyso.

Pencampwriaeth Rygbi De America

Ennill yn 1981 a 2014;
Rown derfynnol yn: 1951, 1973, 1977, 1979, 1983, 1985, 1987, 1991, 1993, 1995, 1997, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005, 2006, 2007, 2008, 2009, 2010, 2012

Record Byd-eang

[golygu | golygu cod]
30 safle uchaf ar 17 Chwefror 2025[7]
Safle Newid* Tîm Pwyntiau
1 steady Baner De Affrica De Affrica 092.78
2 steady Iwerddon 091.36
3 steady Baner Seland Newydd Seland Newydd 090.36
4 steady Baner Ffrainc Ffrainc 087.19
5 steady Baner Yr Ariannin Yr Ariannin 084.97
6 steady Baner Lloegr Lloegr 083.63
7 steady Baner Yr Alban Yr Alban 082.99
8 steady Baner Awstralia Awstralia 081.52
9 steady Baner Ffiji Ffiji 080.07
10 steady Baner Yr Eidal Yr Eidal 078.67
11 steady Baner Georgia Georgia 074.69
12 steady Baner Cymru Cymru 073.75
13 steady Baner Japan Japan 072.95
14 steady Baner Samoa Samoa 072.68
15 increase1 Baner Portiwgal Portiwgal 070.04
16 Decrease1 Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America 070.02
17 steady Baner Wrwgwái Wrwgwai 067.06
18 steady Baner Sbaen Sbaen 065.60
19 steady Baner Tonga Tonga 065.46
20 steady Baner Rwmania Romania 062.76
21 steady Baner Tsile Tsile 061.72
22 steady Baner Hong Cong Hong Cong 059.49
23 steady Baner Canada Canada 059.18
24 steady Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd 059.16
25 steady Baner Namibia Namibia 057.87
26 steady Baner Simbabwe Simbabwe 057.16
27 increase2 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg 057.10
28 Decrease1 Baner Brasil Brasil 056.53
29 Decrease2 Baner Y Swistir Y Swistir 054.98
30 steady Baner Sweden Sweden 054.10
*Newid o'r wythnos flaenorol
Safleoedd blaenorol Uruguay
Ffynhonnell: World Rugby - Diweddarwyd y graff i 17 Chwefror 2025[7]

Mae Wrwgwái wedi colli pob gêm swyddogol yn erbyn yr Ariannin, ond mae ganddi record gadarnhaol yn erbyn eu cystadleuwyr eraill yn Ne America: Chile (25 buddugoliaeth, 13 colled, 1 gêm gyfartal), Paraguay (20 buddugoliaeth, 1 gêm gyfartal) a Brasil (16 buddugoliaeth, 3 colled).

O ran timau Lefel 2, mae gan Wrwgwái gofnodion cadarnhaol gyda Phortiwgal, cofnodion niwtral â Sbaen, a chofnodion negyddol gyda'r UDA, Canada, Jeorgia, Rwmania a Rwsia.

Isod mae tabl o'r gemau rygbi cynrychioliadol a chwaraewyd gan XV cenedlaethol Uruguay ar lefel prawf hyd at 20 Awst 2019.[8]

Opponent Played Won Lost Drawn Win % For Aga Diff
 Yr Ariannin 42 0 42 0 0.00% 434 1744 −1310
Nodyn:RuA 12 3 9 0 40.00% 174 505 −331
Nodyn:RuA 2 0 2 0 0.00% 40 1010 −61
Baner Awstralia Awstralia 1 0 1 0 0.00% 3 65 −62
 Gwlad Belg 1 1 0 0 100.00% 39 13 +26
Baner Brasil Brasil 27 25 2 0 92.59% 962 201 +671
 Canada 13 5 8 0 33.33% 232 370 −141
Baner Tsile Tsile 52 40 11 1 77.88% 1281 789 +493
Gweriniaeth Iwerddon Emerging Ireland 3 0 3 0 0.00% 43 126 −83
Nodyn:RuA 4 2 2 0 50.00% 90 89 +1
 Lloegr 2 0 2 0 0.00% 16 171 −155
 Ffiji 3 0 3 0 0.00% 46 154 −108
 Fiji XV 1 0 1 0 0.00% 3 24 −21
Nodyn:RuA 3 1 2 0 33.33% 73 82 −9
 France XV 2 0 2 0 0.00% 6 95 −89
 Georgia 5 2 3 0 40.00% 72 85 −13
 Yr Almaen 1 0 1 0 0.00% 21 24 −3
Baner Hong Cong Hong Cong 1 1 0 0 100.00% 28 3 +25
Baner Yr Eidal Yr Eidal 3 0 3 0 0.00% 25 92 −67
Baner Japan Japan 3 1 2 0 33.33% 32 88 −56
 Casachstan 1 1 0 0 100.00% 44 7 +37
 Moroco 2 1 1 0 50.00% 36 24 +12
 Namibia 4 3 1 0 75.00% 142 112 +30
 New Zealand XV 1 0 1 0 0.00% 3 64 −61
 Paragwái 26 25 0 1 96.15% 1322 238 +1084
 Periw 1 1 0 0 100.00% 10 6 +4
 Portiwgal 10 7 3 0 70.00% 234 142 +92
 Rwmania 9 1 7 1 0.00% 85 226 −141
 Rwsia 9 5 4 0 55.55% 231 215 +16
 Samoa 1 0 1 0 0.00% 13 60 −47
 Yr Alban 1 0 1 0 0.00% 12 43 −31
Nodyn:RuA 1 0 1 0 0.00% 3 27 −24
 De Affrica 3 0 3 0 0.00% 12 245 −233
De Affrica South Africa President's XV 1 0 1 0 0.00% 9 37 −28
South American XV 1 1 0 0 100.00% 24 20 +4
 Sbaen 12 6 6 0 50.00% 232 197 +35
 Unol Daleithiau America 19 3 15 1 18.42% 317 591 −274
 Feneswela 1 1 0 0 100.00% 92 8 +84
 Cymru 1 0 1 0 0.00% 9 54 −45
Total 284 135 145 4 47.54% 6453 7226 −773

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-30. Cyrchwyd 2019-08-30.
  2. Richards, p54, Chapter 2 Practising the Games of the Anglo-Saxon...
  3. "Uruguay qualify for Rugby World Cup 2015" Archifwyd 2014-10-12 yn y Peiriant Wayback, IRB.com, 11 October 2014.
  4. https://www.bbc.co.uk/sport/rugby-union/34294887
  5. https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/200306-cymru-v-wrwgwai-dydd-sul
  6. Nodyn:Lien web
  7. 7.0 7.1 "Men's World Rankings". World Rugby. Cyrchwyd 18 Chwefror 2025.
  8. Uruguay rugby statistics
Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.