Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Samoa

Oddi ar Wicipedia
Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Samoa
Lliwiau cartref
Lliwiau oddi cartref
Cwpan y Byd
Ymddangosiadau7
Samoa yn perfformio'r ddawns her Siva Tau cyn gêm De Affrica, CRB 2011

Mae tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Samoa (a elwir hefyd yn Manu Samoa) yn cael ei lywodraethu gan Undeb Rygbi Samoa. Mae'r enw Manu Samoa er anrhydedd i ryfelwr Samoaidd enwog. Maen nhw'n perfformio dawns her Samoaidd draddodiadol o'r enw'r Siva tau cyn pob gêm. Arferai Undeb Rygbi Samoa fod yn aelodau o Urdd Rygbi Ynysoedd y Môr Tawel (PIRA) ynghyd â Ffiji a Tonga.[1] Maent wedi ei rhestri gan yn 16eg yn rheng y byd.[2]

Cyflwynwyd rygbi i Samoa yn gynnar yn y 1920au a buan y ffurfiwyd corff llywodraethu. Chwaraewyd y rhyngwladol cyntaf fel Gorllewin Samoa yn erbyn Ffiji ym mis Awst 1924. Ynghyd â Tonga, mae'r cenhedloedd hyn yn cwrdd yn rheolaidd ac yn y pen draw yn cystadlu mewn cystadlaethau fel y Tri-Genhedloedd Môr Tawel ("Pacific Tri-Nations" a elwir, wedi addasiad yn 2006, yn "World Rugby Pacific Nations Cup") - gyda Gorllewin Samoa yn ennill y cyntaf o'r rhain.

Mae Samoa wedi bod i bob Cwpan Rygbi'r Byd ers twrnamaint 1991.

Cyd-destun[golygu | golygu cod]

Cyn dechrau, mae angen cofio mai, yn ei hanfod, tîm hen Seland Newydd Gorllewin Samoa yw tîm gyfredol a elwir yn "Samoa". Daeth Gorllewin Samoa yn annibynnol o SN yn 1962. Mae rhan arall o'r genedl wedi ei reoli gan yr Unol Daleithiau a gelwir hi yn Samoa America. Rhwng 1924 a 1997 roedd tîm rygbi Samoa yn cael ei galw'n tîm "Gorllewin Samoa" - a dyna sydd ar yr archif. Ar 4 Gorffennaf 1997, newidiodd Gorllewin Samoa ei henw'n ffurfiol i Samoa,[3] er i ran Americanaidd y genedl brotestio gan ddweud fod y newid enw yn tanseilio ei hunaniaeth.[4]

Yr "American Samoa Rugby Union" a ffurfiwyd yn 1990 yw corf llywodraethol uchaf rygbi'r undeb yn Samoa America a ni ddaeth yn aelod o'r IRB nes 2012.

Hanes[golygu | golygu cod]

Siapan v Samoa Rugby, 17 Mehefin 2012
Siapan v Samoa Rugby, 17 Mehefin 2012

Sefydlu Rygbi Rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Daeth y Brodyr Marist â’r gêm o rygbi i Orllewin Samoa ym 1924 a ffurfiwyd y !Western Samoa Rugby Football Union" yn 1924. Ar 18 Awst 1924, chwaraeodd Gorllewin Samoa ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn Ffiji ym mhrifddinas Samoa, Apia, gyda'r Ffijiaid yn ennill 6–0. Chwaraewyd y gêm am 7 y bore er mwyn caniatáu amser i'r Samoaid gyrraedd y gwaith wedi hynny ac fe'i chwaraewyd ar gae gyda choeden fawr ar y llinell hanner ffordd. Enillwyd yr ail gêm gan y Samoaid, 9–3 gan ddod â'r gyfres yn gyfartal.

Ym 1954 ymwelodd Gorllewin Samoan â'i cymdogion yn y Môr Tawel, Ffiji a Tonga, ond bu'n rhaid aros 20 mlynedd arall cyn i daith o amgylch Seland Newydd gael ei chynnal. Enillodd y Samoiaid un o wyth gêm ar y daith honno.

Yn 1982, sefydlwyd y cystadleuaeth triphlyg draddodiadol rhwng Tonga, Ffiji a Gorllewin gyda'r Samoaid yn ennill y twrnamaint cyntaf.

Ym 1988 cynhaliwyd taith 14 gêm o amgylch Ewrop cyn cyfres gemau rhagbrofol Cwpan y Byd a gynhaliwyd yn Tokyo. Llwyddodd Gorllewin Samoa i gymhwyso ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 1991 a gynhaliwyd ym Mhrydain. Fe wnaethant gael effaith enfawr. Ar ôl ysgubo Cymru 16–13 o’r neilltu yng Nghaerdydd a threchu’r Ariannin 35–12, a cholli 3–9 o drwch blewyn i bencampwyr Awstralia yn eu gemau grŵp, cafodd Gorllewin Samoa, gwlad â phoblogaeth o 160,000, ei hun yn rownd yr wyth olaf yn erbyn yr Alban yn Murrayfield. Enillodd yr Albanwyr yn gyffyrddus 28–6, ond roedd y Samoiaid yn amlwg yn dîm personoliaeth y twrnamaint.

Yr 1990au[golygu | golygu cod]

Dros y ddwy flynedd nesaf cafodd yr ochr nifer o fuddugoliaethau nodedig. Roedd y cyflawniad mwyaf rhagorol yn rygbi saith bob ochr lle enillodd Twrnamaint 7-bob-ochr Hong Kong yn 1993 a'r Middlesex Sevens yn 1992. Profodd Cwpan Rygbi'r Byd 1995 yn Ne Affrica fod y tîm yn perthyn i'r cwmni gorau. Fe gyrhaeddon nhw rownd yr wyth olaf unwaith eto ar ôl ennill dros yr Ariannin a'r Eidal, ond cawsant eu curo 42–14 gan Dde Affrica y tîm a enillodd y Gwpan yn y pen draw. Ar ôl y Cwpan, aeth Manu Samoa ar daith 13 gêm o amgylch Lloegr a’r Alban, gan gael gêm gyfartal 15–15 gyda’r Albanwyr a cholli 27–9 i Loegr.

Gyda dyfodiad rygbi proffesiynol ym 1995 roedd yn hanfodol i Manu Samoa ddatblygu strwythur gweinyddol newydd. Gwnaethpwyd hyn yn bosibl gyda Fay Richwhite ac Undeb Rygbi Gorllewin Samoaidd yn ymuno i ffurfio Manu Samoa Rugby Limited. Buddsoddodd Fay Richwhite $5 miliwn rhwng 1995 a 2004 mewn rygbi Samoaidd.[5][6]

Cwpanau'r Byd Diweddar[golygu | golygu cod]

  • Cwpan Rygbi'r Byd 1999 - Yn y flwyddyn y cynhaliwyd y Cwpan yng Nghymru, daeth y Samoaid i'r amlwg unwaith eto gyda buddugoliaeth sioc arall rhwng 38 a 31 dros Gymru yng nghemau'r grwpiau. Fe gollon nhw allan i'r Alban unwaith eto yn rownd yr wyth olaf.
  • Cwpan Rygbi'r Byd 2003 - Cymhwysodd Manu Samoa ar gyfer Cwpan y Byd ond gan ganfod eu hunain mewn grŵp anodd oedd yn cynnwys gemau yn erbyn Lloegr a De Affrica. Yn un o gemau'r twrnamaint, fe wnaethant arwain pencampwyr Lloegr am y rhan fwyaf o'r gêm cyn colli 35–22.
  • Cwpan Rygbi'r Byd 2007 - Er i Samoa guro UDA aethant ddim pellach na cymal y grŵp.
  • Cwpan Rygbi'r Byd 2011 - Cymwysodd Samoa gan guro Papwa Gini Newydd 73–12 ym Mhort Moresby ar 18 Gorffennaf 2009. Fe wnaethant ennill 188–19 ar agregad dros ddwy gêm yn erbyn Papwa Gini Newydd, ar ôl ennill 115–7 ym Mharc Apia yr wythnos flaenorol.[7] Curodd Samoa Ffiji a Namibia ond colli i Gymru a De Affrica.
  • Cwpan Rygbi'r Byd 2015 - Curodd Samoa yr UDA eto yn y Gwpan yma ond colli i Siapan a cholli i'r Alban ond mewn gêm hynod o agos, 33-36.

Cymru a'r Samoaid[golygu | golygu cod]

Cymru v Samoa, CRB 2011
Cymru v Samoa, CRB 2011

Rhwng 1986 a 2017 bu i Gymru chwarae Samoa 10 gwaith, gan ennill 6 a cholli 4 i Samoa.[8]

Mae Cymru wedi chwarae rhan ffurfiannol yn natblygiad y gêm rynglwadol ar ynysoedd Samoa. Bu i Gymru ymweladâ'r wlad yn 1982 ac ennill y prawf 32–16 yn Apia. Arweiniodd y daith at ymweliad yn ôl â Chymru gan agor y drws i Samoa i rygbi ryngwladol a'r ansicrwydd am ei statws fel gwlad. Serch hynny, ni wahoddwyd Gorllewin Samoa i Gwpan Rygbi'r Byd gyntaf ym 1987.

Bu i'r Samoaid gystadlu yng Nghwpan Rygbi'r Byd 1991 a gynhaliwyd ym Mhrydain gan greu sioc fawr drwy guro Cymru 16-13 yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd. Dywedodd un ffan o Gymru yn druenus ar ôl trechu Cymru, "Mae'n waith da nad oeddem ni'n chwarae Samoa i gyd."

Bu i Gymru golli eto i Orllewin Samoa mewn gêm yng Nghwpan y Byd 1999, 31-38.[8]

Yn 2019 gwlwodd undebau rygbi Samoa, Tonga a Ffiji ar i wledydd mawr rygbi Ewrop i ddod i gytundeb i roi canran o elw eu gemau gyda'r timau tuag at y timau llai. Dywedir y byddai rhannu elw gyda’i wledydd fyddai’n trawsnewid datblygiad rygbi yno. Dywed Dan Leo y byddai 10% o elw o gêm sydd wedi’i werthu allan yn Twickenham yn gallu talu am raglenni tîm cyntaf rygbi Samoa am gyfnod o dair blynedd.[9]

Record Cwpan Rygbi'r Byd[golygu | golygu cod]

Samoa yn perfformio dawns her y Siva Tau cyn chwarae yn erbyn De Affrica, CRB 2007
Blwyddyn Canlyniad
1987 Dim gwahoddiad
1991 Wyth olaf
1995 Wyth olaf
1999 Wyth olaf play-offs
2003 Cymal y grŵp
2007 Cymal y grŵp
2011 Cymal y grŵp
2015 Cymal y grŵp
2019 Cymal y grŵp

Record Rhyngwladol[golygu | golygu cod]

30 safle uchaf ar 10 Chwefror 2020[10]
Safle Newid* Tîm Pwyntiau
1 steady  De Affrica 094.19
2 steady  Seland Newydd 092.11
3 steady  Lloegr 087.80
4 increase  Iwerddon 085.36
5 Decrease  Cymru 084.28
6 steady  Ffrainc 082.37
7 steady  Awstralia 081.90
8 steady  Japan 079.28
9 steady  Yr Alban 078.58
10 steady  Yr Ariannin 078.31
11 steady  Ffiji 076.21
12 increase  Georgia 072.70
13 Decrease  Yr Eidal 072.04
14 steady  Tonga 071.44
15 steady  Samoa 070.72
16 steady  Sbaen 068.28
17 steady  Unol Daleithiau America 068.10
18 steady  Wrwgwái 067.41
19 steady  Rwmania 065.11
20 increase  Portiwgal 062.40
21 steady  Hong Cong 061.23
22 increase  Canada 061.12
23 increase  Namibia 061.01
24 increase  Yr Iseldiroedd 060.08
25 Decrease  Rwsia 059.90
26 steady  Brasil 058.89
27 steady  Gwlad Belg 057.57
28 steady  Yr Almaen 054.64
29 steady  Chile 053.83
30 steady  De Corea 053.11
*Newid o'r wythnos flaenorol
Safleoedd blaenorol Samoa
Ffynhonnell: World Rugby - Diweddarwyd y graff i 7 Ionawr 2019[10]

Gwler isod dabl yn cynrychioli'r gemau prawf cystadleuol gan dîm cenedlaethol Tonga hyd ar 25 Awst 2019.[11]

Gwrthwynebwr Chwarae Ennill Colli Cyfartal % Ennill Pwyntiau o blaid Pwyntiau yn erbyn Gwahaniaeth
 Yr Ariannin 4 3 1 0 75% 111 82 +29
 Awstralia 5 1 4 0 20.00% 58 204 −146
 Gwlad Belg 1 1 0 0 100.00% 37 8 +29
 Canada 6 6 0 0 100.00% 169 103 +66
 Lloegr 8 0 8 0 0.00% 114 292 -178
 Ffiji 53 20 30 3 37.74% 921 1049 -128
 Fiji XV 3 0 3 0 0.00% 20 58 -38
 Ffrainc 4 0 4 0 0.00% 49 156 -107
 Georgia 5 1 3 1 20.00% 105 91 +24
 Yr Almaen 2 2 0 0 100.00% 108 43 +65
 Iwerddon 6 1 5 0 16.67% 103 209 -106
 yr Eidal 7 5 2 0 71.42% 175 109 +66
 Japan 15 11 4 0 73.33% 482 273 +209
 De Corea 1 1 0 0 100.00% 74 7 +67
 Namibia 2 2 0 0 100.00% 89 25 +64
 Seland Newydd 7 0 7 0 0.00% 72 411 -339
 Papua Gini Newydd 2 2 0 0 100.00% 188 19 +169
 Rwmania 2 0 2 0 0.00% 37 49 -12
 yr Alban 11 1 9 1 9.09% 193 298 -105
 De Affrica 9 0 9 0 0.00% 99 431 -332
 Sbaen 1 1 0 0 100.00% 28 10 +18
 Tonga 65 34 27 4 51.56% 1144 973 +171
 Unol Daleithiau America 7 5 2 0 71.42% 156 128 +28
 Wrwgwái 1 1 0 0 100.00% 60 13 +47
 Cymru 10 4 6 0 40.00% 180 235 -55
 West Germany 1 1 0 0 100.00% 54 9 +45
Total 238 103 126 9 45.16% 4836 5285 -449

Ceir cip o Samoa yn chwarae yn erbyn De Affrica yn y ffilm, Invictus, sydd wedi ei seilio ar hanes Cwpan Rygbi'r Byd 1995 a themâu ôl-Apartheid yn y wlad.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. We quit: SRU Archifwyd 2012-02-20 yn y Peiriant Wayback. Samoa Observer
  2. "World Rugby Rankings". World Rugby. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-11. Cyrchwyd 2019-08-26.
  3. Constitution Amendment Act (No 2) 1997. Paclii.org. Retrieved on 9 November 2016.
  4. "Samoan History". U.S. Embassy in Samoa. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-09-30. Cyrchwyd 17 January 2017.
  5. "Samoa's Prime Minister praises banker, Sir Michael Fay, for supporting Manu Samoa". Radio New Zealand International. 18 April 2004. Cyrchwyd 7 November 2011.
  6. "Fay: Samoans need change". The New Zealand Herald. Cyrchwyd 8 July 2015.
  7. "Samoa qualify for 2011 World Cup". BBC Sport. 18 July 2009. Cyrchwyd 4 August 2009.
  8. 8.0 8.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-26. Cyrchwyd 2019-08-26.
  9. https://golwg360.cymru/chwaraeon/rygbi/552263-undebau-rygbi-samoa-tonga-fiji-eisiau-gwneud
  10. 10.0 10.1 "Men's World Rankings". World Rugby. Cyrchwyd 30 Medi 2019.
  11. Samoa rugby statistics
Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.