Porth Madryn
![]() | |
![]() | |
Math | dinas, bwrdeistref, dinas fawr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 115,353 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC−03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Nefyn, Paola, Pisco, Puerto Montt ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Viedma ![]() |
Gwlad | Yr Ariannin ![]() |
Arwynebedd | 330 km² ![]() |
Uwch y môr | 17 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 42.772967°S 65.03661°W ![]() |
Cod post | U9120 ![]() |
![]() | |

Mae Porth Madryn (Sbaeneg: Puerto Madryn) yn un o drefi mwyaf talaith Chubut, Ariannin, gyda phoblogaeth o 45,047 yn 1991 ond bellach wedi tyfu i 57,571 yn ôl cyfrifiad 2001. Mae wedi'i gefeillio gyda Nefyn.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Saif Puerto Madryn ar lan y môr ar y Golfo Nuevo, y bae rhwng Gorynys Valdés a Punta Ninfas. I dwristiaid, mae'n bwysig fel y dref fwyaf cyfleus ar gyfer ymweliad a Gorynys Valdés, sy'n nodedig am ei adar a bywyd gwyllt arall. Mae'r hinsawdd yn sych ac yn oer, gyda rhwng 150 a 200 mm o wlybaniaeth y flwyddyn.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwelwyd yr Ewropeaid cyntaf yn y cylch yn 1779 pan laniodd Juan de la Piedra. Sefydlwyd y dref ar y 28 Gorffennaf 1865 pan gyrhaeddodd 150 o Gymry yn y llong Mimosa. Hwy a roes yr enw "Porth Madryn" i anrhydeddu Love Jones-Parry o Fadryn a oedd wedi bod o gymorth mawr iddynt. Tyfodd y dref o ganlyniad i fewnfudwyr Cymreig, Sbaeneg ac Eidaleg adeiladu rheilffordd i'w chysylltu â Threlew.
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r dref yn dibynnu yn bennnaf ar dri diwydiant, cynhyrchu alwminiwm, pysgota a thwristiaeth. Cyflogir tua 1,700 o weithwyr yn y gwaith ALUAR Aluminio Argentino. Yn yr haf mae llawer o dwristiaid yn dod i fwynhau'r traethau, tra yn y gaeaf trefnir teithiau o'r dref i weld morfilod, pengwiniaid a bywyd gwyllt arall.
Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]