Esquel
| Math | dinas yr Ariannin, bwrdeistref |
|---|---|
| Poblogaeth | 36,687, 37,261 |
| Sefydlwyd | |
| Gefeilldref/i | Aberystwyth |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Futaleufú Department |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 593 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 42.9°S 71.32°W |
| Cod post | U9200 |
![]() | |
Tref yn Nhalaith Chubut, yr Ariannin, yw Esquel. Saif yn agos i'r ffin a Tsile. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 30,000.
Sefydlwyd y dref ar y 25 Chwefror 1906, fel estyniad i'r gorllewin o'r sefydliad Cymreig Colonia 16 de Octubre o gwmpas Trevelín 25 km i'r de. Mae'r llethrau oddi amgylch yn cynnig sgio da, yn enwedig La Hoya. Rhyw ddeng milltir i'r gorllewin mae'r brif fynedfa i Barc Cenedlaethol Los Alerces. Mae dau Dy Tê Cymreig yn y dref, a chapel o'r enw Capel Seion.
Mae'r tren bach La Trochita yn atyniad mawr i ymwelwyr, ac fe'i disgrifir gan Paul Theroux yn ei lyfr The Old Patagonian Express.

Meteoryn
[golygu | golygu cod]Yn dilyn ei ddarganfyddiad wrth gloddio ffynnon yn yr ardal yn 1951, mae hefyd meteoryn o'r enw Esquel. Mae darn ohono ar ddangos yng nghasgliad meteorynnau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Aldea Apeleg · Cerro Cóndor · Comodoro Rivadavia · Dolavon · Esquel · Gaiman · José de San Martín · Lago Blanco · Lago Puelo · Lagunita Salada · Las Plumas · Los Altares · Paso de Indios · Paso del Sapo · Porth Madryn · Puerto Pirámides · Rada Tilly · Rawson · Río Mayo · Río Pico · Sarmiento · Tecka · Telsen · Trelew · Trevelin · Veintiocho de Julio
