Rawson
| Math | dinas yr Ariannin, bwrdeistref |
|---|---|
| Poblogaeth | 38,652 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC−03:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Rawson Department |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 4 metr |
| Cyfesurynnau | 43.3°S 65.1°W |
| Cod post | U9103 |
![]() | |


Tref yn Nhalaith Chubut, yr Ariannin, yw Rawson (yn wreiddiol "Trerawson"), sy'n brifddinas y dalaith a sir (departamento) Rawson. Un o brifddinasoedd taleithiol lleiaf yr Ariannin yw hi, gyda phoblogaeth o ryw 25,000, a rhyw 122,000 o bobl yn byw yn y departamento. Mae Rawson rhyw 1470 km o Buenos Aires a thua 7 km o'r môr (Playa Union).
Sylfaenwyd y dref ar 15 Medi 1865, gan Gymry o'r llong Mimosa. Fe'i henwyd ar ôl Guillermo Rawson, gweinidog materion mewnol yr Ariannin ar y pryd, cefnogwr o gynllun y Wladfa Gymraeg. Adeiladwyd llawer o adeiladau llywodraethol newydd yn y 1970au, gan achosi i'r dref gael llysenw "Brasilia bach Patagonia" (La Pequeña Brasilia de la Patagonia).
Mae hinsawdd Rawson yn sych, gyda thymheredd o 0 °C i 15 °C ar gyfartaledd yn y gaeaf, 10 °C i 20 °C yn y gwanwyn a'r hydref, hyd at 38 °C yn yr haf.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Sbaeneg) Llywodraeth Talaith Chubut Archifwyd 2011-07-22 yn y Peiriant Wayback
- (Sbaeneg) Interpatagonia.com — Rawson
Aldea Apeleg · Cerro Cóndor · Comodoro Rivadavia · Dolavon · Esquel · Gaiman · José de San Martín · Lago Blanco · Lago Puelo · Lagunita Salada · Las Plumas · Los Altares · Paso de Indios · Paso del Sapo · Porth Madryn · Puerto Pirámides · Rada Tilly · Rawson · Río Mayo · Río Pico · Sarmiento · Tecka · Telsen · Trelew · Trevelin · Veintiocho de Julio
