Trelew
| Math | dinas, bwrdeistref, dinas fawr, dinas yr Ariannin |
|---|---|
| Poblogaeth | 106,796 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC−03:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Rawson Department |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 249 km² |
| Uwch y môr | 11 metr |
| Cyfesurynnau | 43.2533°S 65.3094°W |
| Cod post | U9100 |
![]() | |
Dinas yng ngogledd-ddwyrain Talaith Chubut, yr Ariannin, yw Trelew. Saif y ddinas ar Afon Camwy (Río Chubut), tua 25 km o'r môr, a 17 km o Rawson, prifddinas y dalaith. Enwyd y dref ar ôl Lewis Jones.
Tyfodd y ddinas pan agorwyd Rheilffordd Ganolog Chubut i gysylltu rhan isaf Dyffryn Camwy a phorthladd Porth Madryn. Trelew oedd pen draw'r rheilffordd yn Nyffryn Camwy pan agorwyd hi yn 1888, er iddi gael ei hymestyn yn ddiweddarach.
Mae gan Trelew boblogaeth o bron i 100,000, ond mae'r ddinas yn dioddef diweithdra mawr ers yr argyfwng economaidd yn 2000 ac mae llawer o bobol wedi symud i ffwrdd.
Maes awyr Trelew yw canolbwynt rhwydwaith trafnidiaeth canol Patagonia.

Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Sbaeneg) Hanes byr Archifwyd 2009-09-15 yn y Peiriant Wayback (prosiect ysgol)
- (Sbaeneg) Hafan y ddinas
Aldea Apeleg · Cerro Cóndor · Comodoro Rivadavia · Dolavon · Esquel · Gaiman · José de San Martín · Lago Blanco · Lago Puelo · Lagunita Salada · Las Plumas · Los Altares · Paso de Indios · Paso del Sapo · Porth Madryn · Puerto Pirámides · Rada Tilly · Rawson · Río Mayo · Río Pico · Sarmiento · Tecka · Telsen · Trelew · Trevelin · Veintiocho de Julio
