John Dawes

Oddi ar Wicipedia
John Dawes
GanwydSidney John Dawes Edit this on Wikidata
29 Mehefin 1940 Edit this on Wikidata
Aber-carn Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 2021 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra178 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau82 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auY Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Loughborough Students RUFC, Clwb Rygbi Trecelyn, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleCanolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb oedd Sidney John Dawes (29 Mehefin 194016 Ebrill 2021).[1] Bu'n gapten Cymru a'r Llewod, ac yn ddiweddarach yn hyfforddwr Cymru a'r Llewod.[2]

Ganed ef yn Abercarn, a'i addysgu yn Ysgol Lewis, Pengam a Phrifysgol Aberystwyth, lle cymerodd radd mewn cemeg, a Choleg Loughborough.

Bu'n chwarae i Glwb Rygbi Cymry Llundain, ac enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn 1964. Enillodd 22 o gapiau dros Gymru i gyd, gan weithredu fel capten mewn chwech. Ef oedd capten y tîm a enillodd yy Gamp Lawn yn 1971, tîm a ystyrir gan lawer fel y tîm gorau fu'n cynrychioli Cymru erioed.

Aeth ar daith gyda'r Llewod i Seland Newydd yn 1971 fel capten, gyda Carwyn James fel hyfforddwr. Enillwyd y gyfres o gwmau prawf yn erbyn y Crysau Duon; yr unig dro hyd yma i'r Llewod ennill cyfres yn Seland Newydd.

Wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol, bu'n hyfforddwr Cymru rhwng 1974 a 1979. Roedd hwn yn un o'r cyfnodau mwyaf llwyddiannus yn hanes Cymru; enillwyd y bencampwriaeth bedair gwaith yn y pum mlynedd rhwng 1975 a 1979, yn cynnwys y Gamp Lawn ddwywaith, Bu'n hyfforddwr y Llweod ar eu taith i Seland Newydd yn 1977, ond ni fu mor llwyddiannus a thaith 1971.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Wales rugby legend John Dawes dies aged 80 (en) , WalesOnline, 16 Ebrill 2021.
  2. Andrew Baldock (16 Ebrill 2021). "John Dawes obituary: The only man to captain the British & Irish Lions to a Test series triumph against New Zealand". The Scotsman (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Ebrill 2021.