Abercarn
![]() Cofeb diweddar i'r 268 o lowyr a fu farw yn y lofa ar 11 Medi 1878 | |
Math | tref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 5,352 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.6456°N 3.13447°W ![]() |
Cod SYG | W04000725 ![]() |
Cod OS | ST216947 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhianon Passmore (Llafur) |
AS/au | Chris Evans (Llafur) |
![]() | |
Thref fechan a chymuned ym mwrdeistref sirol Caerffili, Cymru, yw Aber-carn[1] neu Abercarn.[2] Saif 10 milltir (16 km) i'r gogledd orllewin o Gasnewydd ar ffordd yr A467 rhwng Cwmcarn a Threcelyn. Fe'i lleolir yn sir hanesyddol Sir Fynwy.
Roedd poblogaeth o 4793 yn ystod cyfrifiad 2001.[3]
Mae'r dref yn gorwedd yng nghanol dyffryn Afon Ebwy, ar ymyl de-ddwyreiniol ardal mwyngloddio Morgannwg a Sir Fynwy. Mae Caerdydd 18.2 km i ffwrdd o Abercarn ac mae Llundain yn 210.4 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 11.6 km i ffwrdd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Chris Evans (Llafur).[5]
Trychineb Abercarn, 1878[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn hanesyddol, mae'r ardal yn gysylltiedig â maes glo De Cymru, gweithfeydd dur a phlat tun a Chymoedd De Cymru, ond mae rhain i gyd wedi cau erbyn hyn. Yma y safodd Glofa'r Prince of Wales, lle bu'r trydydd trychineb gwaethaf yn hanes Cymru, pan laddwyd 268 o weithwyr ar 11 Medi 1878.
Achoswyd trychineb Abercarn ar 11 Medi 1878, gan lamp ddiogelwch, gan gynnau ffrwydrad enfawr yn y pwll glo. Roedd 325 o weithwyr o dan y ddaear ar y pryd, ac anfonwyd timau achub i'r pwll i chwilio am oroeswyr yng nghanol y mwg, y fflamau a'r rwbel.[6] Bu farw tua 268 o ddynion a bechgyn yn y trychineb, a phenderfynwyd cau'r siafft, gan ei gorlifo â dŵr i ddiffodd y fflamau. O ganlyniad, arhosodd cyrff y rhai a fu farw yn y digwyddiad o dan y ddaear. Heddiw fe'u cofir yn lleol gyda charreg goffa ym mynwent Abercarn a olwyn fawr y pwll a murlun efydd ar safle'r trychineb.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd yn rhan o blwyf hynafol Mynyddislwyn tan yn hwyr yn y 19eg ganrif. Ffurfiwyd bwrdd iechyd ac ardal llywodraeth leol Abercarn ym 1892.[7] Trodd hwn yn ardal trefol Abercarn ym 1894, o dan lywodraeth cyngor lleol gyda 12 o gynghorwyr, ac roedd yr ardal drefol yn cynnwys Crymlyn a Threcelyn. Diddymwyd yn 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Lleol 1972, gan ddod yn rhan o fwrdeistref Islwyn, Gwent. Daeth yn rhan o fwrdeistref sirol Caerffili yn dilyn ad-drefnu 1996.
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10][11]
Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Abercarn yn gartref i Abercarn RFC, sy'n aelod o Undeb Rygbi Cymru.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
- ↑ (Saesneg) Office for National Statistics Parish Headcounts: Abercarn Archifwyd 2014-03-13 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ [https://www.thenational.wales/news/19570846.remembering-abercarn-mining-disaster-1878/ www.thenational.wales arlein; adalwyd 22 Tachwedd 2021.
- ↑ Ffurfiwyd o dan enw Trecelyn ar 17 Mawrth 1892, ailenwyd yn Abercarn ar 4 Gorffennaf yr un flwyddyn. Adroddiad Cyfrifiad y Sir 1970, (yr hen Sir Fynwy)
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Hanes y pyllau glo lleol ar welshcoalmines.com
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Trefi
Abercarn ·
Bargod ·
Bedwas ·
Caerffili ·
Coed-duon ·
Crymlyn ·
Rhisga ·
Rhymni ·
Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed ·
Abertridwr ·
Abertyswg ·
Argoed ·
Bedwellte ·
Brithdir ·
Cefn Hengoed ·
Cwm-carn ·
Draethen ·
Fochriw ·
Gelli-gaer ·
Y Groes-wen ·
Hengoed ·
Llanbradach ·
Machen ·
Maesycwmer ·
Nelson ·
Pengam ·
Penpedairheol ·
Pontlotyn ·
Pontllan-fraith ·
Pont-y-meistr ·
Rhydri ·
Senghennydd ·
Trecelyn ·
Tredegar Newydd ·
Tretomos ·
Ty'n-y-coedcae ·
Wyllie ·
Ynys-ddu