Wyllie

Oddi ar Wicipedia
Wyllie
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6386°N 3.1903°W Edit this on Wikidata
Cod OSST177940 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhianon Passmore (Llafur)
AS/auChris Evans (Llafur)
Map

Pentref yng nghymuned Ynys-ddu, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Wyllie.[1][2] Lleolir i'r de o'r Coed Duon yn ardal hanesyddol Sir Fynwy.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Chris Evans (Llafur).[4]

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd y rhan fwyaf o dai'r pentref rhwng 1926 ac 1930 gan y Tredegar Iron & Coal Company. Cymerodd y pentref ei enw oddi wrth cyfarwyddwr y cwmni, sef Alexander Keith Wyllie.

Yn y pentref, roedd capel mawr, swyddfa bost, a hen sefydliad glowyr a gafodd ei droi'n dafarn yn ystod yr 1990au. Caeodd y swyddfa bost yn ddiweddar ac mae bloc newydd o fflatiau, Marion Jones Court, wedi cymryd lle'r hen gapel.

Mae'r pentref wedi tyfu yn ddiweddar, gyda tai newydd yn cae eu hadeiladu ar safle hen dip gwastraff y Wyllie Colliery ar ben deheuol y pentref.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]