Afon Ebwy
Jump to navigation
Jump to search
Math |
afon ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
![]() |
Uwch y môr |
3 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
51.55°N 2.98°W ![]() |
![]() | |
Mae Afon Ebwy (Saesneg: River Ebbw) yn afon yn ne Cymru.
Ei tharddiad yw nentydd ar Fynydd Llangatwg ac mae'n llifo tua'r de ar hyd Glyn Ebwy, dan y ddaear am ran o'i thaith. Mae Afon Ebwy Fach yn llifo iddi yn Aber-big yna mae'n parhau tua'r de heibio Trecelyn ac Abercarn i Crosskeys lle mae Afon Sirhywi yn ymuno â hi. Mae'n llifo tua'r de-ddwyrain trwy Rhisga ac ychydig i'r gorllewin o ddinas Casnewydd cyn ymuno ag Afon Wysg ychydig cyn i'r afon honno lifo i Fôr Hafren.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Alun Davies (Llafur Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Nick Smith (Llafur).[1][2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014