Crymlyn
![]() | |
Math |
tref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Caerffili ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.6798°N 3.1368°W ![]() |
Cod SYG |
W04000906 ![]() |
Cod OS |
ST215985 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhianon Passmore (Llafur) |
AS/au | Chris Evans (Llafur) |
![]() | |
- Erthygl am y dref ym mwrdeisdref sirol Caerffili yw hon. Ceir mannau eraill sy'n dwyn yr enw 'Crymlyn' drwy Gymru.
Tref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili yn ne Cymru yw Crymlyn (Saesneg: Crumlin). Saif yn nyffryn Afon Ebwy, bum milltir i'r gorllewin o dref Pont-y-pŵl, o fewn dim i'r ffin gyda Sir Fynwy.
Mae'r dref yn enwog am y bont reilffordd, a agorwyd yn 1857 ac a gaewyd yn 1964. Hon oedd y bont reilffordd uchaf ym Mhrydain ar hyd y cyfnod yma; roedd yn 220 troedfedd o uchder a 1,650 troedfedd o hyd. Bu raid chwalu'r bont yn 1967, gan ei bod mewn cyflwr peryglus. Cyn ei dymchwel, ffilmiwyd golygfeydd ar gyfer y ffilm Arabesque gyda Sophia Loren a Gregory Peck.
Roedd cangen Crymlyn o Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn diweddu yma. Llanwyd y rhahn yma o'r gamlas yn niwedd y 1960au, i adeiladu'r briffordd A465. Caeodd gwaith glo'r Naviigation yn 1967. Cafwyd rhywfaint o ddiwydiant newydd; Crymlyn yw canolfan cynhyrchu Pot Noodle.
Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Gair cyfansawdd yw 'Crymlyn' (a'r hen sillafiad 'Crymlin' a 'Chrimlyn'): 'crwm' a 'llyn' (llyn gyda thro), ac fe'i nodwyd yn gyntaf yn 1630.[1] Daw'r enw o enw fferm, a phont dros Afon Ebwy, a leolir ger tro yn yr afon; cofnodir yr enw ""Pont Grymiyn" yn 1631.
Ceir "Tyddyn Crymlyn" yn Arfon, "Pont Grymlyn" a "Rhyw Crynlin" ger Tredegar, a "Chremelyn" (1319) a "Thir Pont Crimlin" ym Mro Morgannwg.[2]
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Dictionary of the Place-names of Wales; Gomer (2008) tud. 106.
- ↑ Archif Melville Richards; adalwyd 15 Mawrth 2017.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
Aberbargoed · Abercarn · Abertridwr · Argoed · Bargoed · Bedwas · Bedwellte · Brithdir · Caerffili · Cefn Bychan · Cefn Hengoed · Coed-duon · Crymlyn · Cwmcarn · Chwe Chloch · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-Meistr · Rhisga · Rhydri · Rhymni · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Waterloo · Wyllie · Ynys-ddu · Ystrad Mynach