Cliff Morgan

Oddi ar Wicipedia
Cliff Morgan
Ganwyd7 Ebrill 1930 Edit this on Wikidata
Trebanog Edit this on Wikidata
Bu farw29 Awst 2013 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Bembridge Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, cyflwynydd teledu, gohebydd chwaraeon Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Taldra171 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau71 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Commander of the Royal Victorian Order, Welsh Sports Hall of Fame, World Rugby Hall of Fame Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Bective Rangers, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
Saflemaswr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd Clifford Isaac "Cliff" Morgan (7 Ebrill 193029 Awst 2013) yn chwaraewr Rygbi'r Undeb fu'n chwarae i Gaerdydd ac a enillodd 29 o gapiau dros Gymru rhwng 1951 a 1958. Fe'i ganwyd yn Nhrebanog, Cwm Rhondda.[1]

Roedd Morgan o deulu o lowyr, ac ymunodd â chlwb Caerdydd yn syth o'r ysgol yn 1949, yn chwarae fel maswr. Yn ystod tymor 1955 chwaraeodd yn Iwerddon gyda chlwb Bective Rangers, ac erbyn hynny roedd yn ddigon enwog i'r clwb gael ei alw yn "Morgan Rangers" o ganlyniad. Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn 1951, a chwaraeodd yn y tîm a gyflawnodd Y Gamp Lawn yn 1952. Ef oedd capten tîm Cymru yn 1956.

Bu ar daith i Dde Affrica gyda'r Llewod Prydeinig yn 1955 ac ef oedd capten y Llewod yn y trydydd gêm brawf ym Mhretoria, gêm a enillwyd gan y Llewod.

Ar ôl iddo ymddeol fel chwaraewr rygbi, daeth yn adnabyddus fel darlledwr a sylwebydd ar gemau rygbi.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Richard Williams (29 Awst 2013). "Cliff Morgan obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Ebrill 2023.