Rhys Gabe

Oddi ar Wicipedia
Rhys Gabe
Ganwyd22 Mehefin 1880 Edit this on Wikidata
Cymru, Llangennech Edit this on Wikidata
Bu farw15 Medi 1967 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Clwb Rygbi Llanelli, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd Rhys Thomas Gabe (22 Mehefin 188015 Medi 1967) yn chwaraewr Rygbi'r undeb Cymreig ac enillodd 24 o gapiau i Cymru, yn bennaf fel canolwr.

Ganed Gabe yn Llangennech, a chwaraeodd ei gêm gyntaf i Lanelli yn ddwy ar bymtheg oed. Yn 1901 symudodd i Lundain i astudio yng Ngholeg Hyfforddi Borough Road ac ymunodd â chlwb rygbi Cymry Llundain, lle dechreuodd chwarae fel canolwr. Wedi gadael y coleg aeth yn athro mathemateg i Gaerdydd ac ymunodd â Chlwb Rygbi Caerdydd. Ffurfiai ef a'r canolwr arall Gwyn Nicholls gyfuniad nodedig iawn i'r clwb ac i Gymru. Bu'n gapten Caerdydd yn y tymor 1907-08 a sgoriodd 51 cais i'r clwb mewn 115 o gemau.

Enillodd Gabe ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn 1901 fel asgellwr chwith. Roedd ei 24 gêm dros Gymru yn cynnwys y fuddugoliaeth enwog dros y Crysau Duon yn 1905, ac yr oedd yn gapten Cymru yn y gêm yn erbyn Iwerddon yn 1907. Bu ar daith i Awstralasia gyda'r Llewod Prydeinig yn 1904.

Ei gais rhyfeddaf mae'n debyg oedd un a sgoriodd yn erbyn Lloegr ym Mryste yn 1908. Chwaraewyd y gêm mewn niwl tew, a chafodd Gabe a Percy Bush hyd i'r bêl tu allan i linell 25 Lloegr heb i unrhyw un o chwaraewyr Lloegr sylweddoli hynny. Gafaelodd Gabe yn y bêl ac aeth i gyfeiriad y llinell tra rhedai Bush i'r cyfeiriad arall i ddrysu chwaraewyr Lloegr ymhellach. Ymhen tipyn cyrhaeddodd y dyfarnwr a'r chwaraewyr eraill at y llinell i ddarganfod Gabe yn eu haros gyda'r bêl.

Ymddeolodd Gabe o rygbi yn 1908, ond parhaodd i chwarae ambell gêm i Gaerdydd. Bu farw yng Nghaerdydd yn 1967.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gareth Hughes (1983) One hundred years of scarlet (Clwb Rygbi Llanelli) ISBN 0-95091590-4