J. J. Williams (chwaraewr rygbi)

Oddi ar Wicipedia
J. J. Williams
GanwydJohn James Williams Edit this on Wikidata
1 Ebrill 1948 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Bu farw29 Hydref 2020 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd Edit this on Wikidata
PlantRhys Williams Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auY Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Maesteg RFC, Bridgend Ravens, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd John James "J. J." Williams MBE (1 Ebrill 194829 Hydref 2020)[1] yn gyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd ddeg ar hugain o gapiau dros Gymru fel asgellwr.

Ganwyd J. J. Williams yn Nantyffyllon ac addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Maesteg. Datblygodd yn athletwr penigamp, gan gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaeredin yn 1970 a dod yn bencampwr sprintio Cymru yn 1971. Chwaraeodd rygbi i Ben-y-bont ar Ogwr cyn ymuno â Llanelli yn 1972.

Enillodd ei gap cyntaf i Gymru yn 1973. Ystyrid ef yn un o'r asgellwyr cyflymaf ym myd rygbi, a sgoriodd ddeuddeg cais yn ei 30 gêm i Gymru. Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig, gan chwarae mewn pedair gêm brawf ar y daith i Dde Affrica yn 1974 ac mewn tair gêm brawf ar y daith i Seland Newydd yn 1977. Roedd y daith i Dde Affrica yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus yn hanes y Llewod, ac roedd gan J. J. ran fawr yn hyn. Sgoriodd ddau gais yn yr ail brawf ac yna dau eto yn y trydydd.

Yn ddiweddarach rhedodd gwmni peintio masnachol a diwydiannol yn Y Pîl, ger Pen-y-bont ar Ogwr.[2] Roedd hefyd ynghlwm a consortiwm oedd am gynnig cymryd dros Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.[3] Wedi ymddeol, bu'n sylwebydd achlysurol ar gemau rygbi rhyngwladol a domestig ar gyfer BBC Cymru.[4]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod a Jane ac roedd ganddynt tri o blant - James, Kathryn a Rhys - y tri yn ymwneud ag athletau.[5] Bu farw ei frawd Peter ar 20 Hydref 2020 wythnos cyn ei farwolaeth yntau ar 29 Hydref.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. JJ Williams: Legendary Wales and British and Irish Lions wing dies (en) , BBC Sport, 29 Hydref 2020.
  2. JJ Williams – About JJ Williams Archifwyd 5 January 2009[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
  3. "Lions great leads Stadium bid" (yn Saesneg). BBC Sport. 6 Hydref 2003. Cyrchwyd 29 December 2012.
  4. Un o gewri’r byd rygbi JJ Williams wedi marw yn 72 oed , Golwg360, 29 Hydref 2020.
  5. JJ Williams: Wales and British Lions rugby star dies aged 72 (en) , Sky News, 29 Hydref 2020.
  6. Famous Welsh rugby town in mourning after the passing of a club legend (en) , WalesOnline, 23 Hydref 2020. Cyrchwyd ar 29 Hydref 2020.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]