Y Pîl

Oddi ar Wicipedia
Y Pîl
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,405 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd323.16 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5289°N 3.6933°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000649 Edit this on Wikidata
Cod OSSS825825 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSarah Murphy (Llafur)
AS/auJamie Wallis (Ceidwadwyr)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Y Pîl (Saesneg: Pyle). Gwasanaethir y pentref mawr hwn gan ffordd yr A48, a gorwedda llai nag un filltir o Gyffordd 37 Traffordd yr M4, ac felly taith o hanner awr yn unig sydd i brifddinas Cymru, Caerdydd; mewn gwirionedd gorwedda bron yn gytbell rhwng y brifddinas (Caerdydd) a'r ail ddinas (Abertawe). Y gylchfan glan-môr Porthcawl yw'r dref agosaf. O fewn y gymuned, i ogledd-ddwyrain y Pîl, y mae'r pentref cyfagos Mynyddcynffig.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[2]

Enw[golygu | golygu cod]

Mae'n debyg bod yr enw "Y Pîl" yn deillio o'r gair Cymraeg pil a olyga cilfach, term a geir ar hyd arfordir Môr Hafren ym Morgannwg a Sir Fynwy. Yn yr achos hwn, mae'n debyg y cyfeiria at aber Afon Cynffig sy'n llanw am ei filltir gyntaf o'r môr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato