Cynffig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cynffig
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.5153°N 3.7272°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Carwyn Jones (Llafur)
AS/au Madeleine Moon (Llafur)

Pentref ym mwrdeisdref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Cynffig (Seisnigiad: Kenfig). Hyd at 1832 roedd yn fwrdeisdref. Saif yn yr ardal a adwaenid fel Tir Iarll.

Dynodwyd Twyni Cynffig a'r llyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig; ceir nifer o blanhigion prin yn y twyni ac mae'r llyn yn lle poblogaidd i wylio adar. Ceir adfeilion Castell Cynffig yma hefyd, yntau wedi ei gladdu gan y tywod.

Canol Cynffig.

Gerllaw, mae Y Sger, cartef Elizabeth Williams (Y Ferch o'r Sger) yn y 18g.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Carwyn Jones (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Madeleine Moon (Llafur).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir olion yn yr ardal o oes yr Efydd, ac roedd yma dref yn y Canol Oesoedd sydd yn awr wedi ei gorchuddio gan dywod Twyni Cynffig. Adeiladwyd y pentref presennol ymhellach o'r môr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014


CymruPenybont.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato