Elizabeth Williams (Y Ferch o'r Sger)
Gwedd
Elizabeth Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1747 ![]() |
Bu farw | 1776 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Elizabeth Williams, sy'n fwy adnabyddus fel Y Ferch o'r Sger (1747 – 1776)[1] oedd gwrthrych y gân adnabyddus 'Y Ferch o'r Sger'.[2] Roedd Elizabeth yn byw yn Nhŷ'r Sger, ger Cynffig, ar yr arfordir rhwng Margam a Phorthcawl ym Morgannwg. Dywedir iddi syrthio mewn cariad a thelynor tlawd, Thomas Evans, ond nid oedd ei theulu yn fodlon iddi ei briodi. Gorfodwyd hi i briodi gŵr cefnog o'r enw Thomas Kirkhouse o Gastell-nedd.
Rai blynyddoedd wedyn, cyfansoddodd Thomas Evans y gân Y Ferch o'r Sger:
Mab wyf fi sy'n byw dan benyd
Am f'anwylyd fawr ei bri;
Gwaith fwy'n ei charu'n fwy na digon,
Curio wnaeth fy nghalon i ...
Enwyd Ysgol Y Ferch o'r Sger yng Nghorneli, bwrdeisdref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar ei hôl.
Nofelau
[golygu | golygu cod]- R. D. Blackmore, The Maid of Sker (1872)
- Isaac Hughes (Craigfryn), Y Ferch o'r Scer (1892).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cydymaith i lenyddiaeth Cymru. Gwasg Prifysgol Cymru. 1986. t. 622.
- ↑ Transactions of Port Talbot Historical Society (yn Saesneg). 1–2. the Society. 1965. t. 108.