Drenewydd yn Notais
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4917°N 3.7114°W ![]() |
Cod OS | SS812783 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Sarah Murphy (Llafur) |
AS/au | Jamie Wallis (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref bychan ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw'r Drenewydd yn Notais (Saesneg: Newton). Fe'i lleolir ar gyrion dwyreiniol Porthcawl, tua 5 milltir i'r de o dref Pen-y-bont ar Ogwr. 'Notais' yw'r hen enw am ardal Porthcawl; fe'i ceir o hyd yn enw pentref Notais, ar bwys Porthcawl.
Sefydlwyd eglwys yn y Drenewydd dros 800 mlynedd yn ôl gan aelodau o Urdd Marchogion Sant Ioan.
I'r de-ddwyrain o'r pentref ceir Traeth Drenewydd yn Notais, sy'n ymestyn am bron i 3 milltir i aber Afon Ogwr. Rhwng y Drenewydd a phentref Merthyr Mawr, i'r gogledd, ceir ardal o dwynni tywod sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Dyma weddillion cadwyn o dwynni anferth a ymestynnai o lan afon Ogwr hyd at y Mwmbwls ar benrhyn Gŵyr.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[1][2]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Drenewydd yn Notais Archifwyd 2008-12-07 yn y Peiriant Wayback. ar wefan BBC Cymru.
Trefi
Maesteg ·
Pen-coed ·
Pen-y-bont ar Ogwr ·
Pontycymer ·
Porthcawl
Pentrefi
Abercynffig ·
Abergarw ·
Betws ·
Blaengarw ·
Bracla ·
Bryncethin ·
Brynmenyn ·
Caerau ·
Cefncribwr ·
Cwmogwr ·
Cynffig ·
Drenewydd yn Notais ·
Gogledd Corneli ·
Heol-y-cyw ·
Llangeinwyr ·
Llangrallo ·
Llangynwyd ·
Melin Ifan Ddu ·
Merthyr Mawr ·
Mynydd Cynffig ·
Nant-y-moel ·
Notais ·
Pen-y-fai ·
Y Pîl ·
Price Town ·
Sarn ·
Ton-du ·
Trelales ·
Ynysawdre

- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014