Rhys Williams (athletwr)
Gwedd
| Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch ei gwella drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. (Mae'r tag yma'n rhoi'r erthygl yn y categori Categori:Dim-ffynonellau.) |
| Rhys Williams | |
|---|---|
Rhys Williams yn 2006 | |
| Ganwyd | 27 Chwefror 1984 Caerdydd |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
| Taldra | 185 centimetr |
| Pwysau | 73 cilogram |
| Tad | J. J. Williams |
| Chwaraeon | |
| Gwlad chwaraeon | Cymru, y Deyrnas Unedig |
Athletwr o Gymru a gwibiwr 400m dros y clwydi yw Rhys Williams (ganwyd 27 Chwefror 1984). Enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop 2006 yn Göteborg gydag amser o 49.12 eiliad, dipyn yn arafach na'i orau personol (49.09). Fel aelod o dîm Prydain yn y ras gyfnewid 4x400m, rhedodd yr ail gymal gan ennill medal arian. Ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop 2010 enillodd fedal arian am y 400m dros y clwydi gyda gorau personol o 48.96. Enillodd fedal efydd yng Nghemau'r Gymanwlad 2010.
Ei dad yw'r chwaraewr rygbi Cymreig enwog, J.J. Williams.