Neidio i'r cynnwys

Gemau'r Gymanwlad 2010

Oddi ar Wicipedia
19eg Gemau'r Gymanwlad
Campau21
Seremoni agoriadol3 Hydref
Seremoni cau14 Hydref
Agorwyd yn swyddogol ganTywysog Cymru
<  XVIII XX  >
Gemau'r Gymanwlad 2010
Enghraifft o:digwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad2010 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd3 Hydref 2010 Edit this on Wikidata
Daeth i ben14 Hydref 2010 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadDelhi, Jawaharlal Nehru Stadium Edit this on Wikidata
RhanbarthDelhi Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.cwgdelhi2010.org/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01_z6_ edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gemau'r Gymanwlad 2010 oedd y pedwerydd tro ar bymtheg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Delhi Newydd, India oedd cartref y Gemau rhwng 3 - 14 Hydref. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Jamaica ym mis Tachwedd 2003 gyda Delhi Newydd yn ennill y bleidlais gyda 46 pleidlais i 22 Hamilton, Ontario, Canada.

Cyflwynyd Tenis i'r Gemau am y tro cyntaf ond bu raid i'r trefnwyr beidio cynnwys Triathlon gan nad oedd unrhyw leoliad addas ar gyfer y cymal nofio[1]. Er bod galw am ail gyflwyno Criced nid oedd Bwrdd Criced India'n awyddus i ddilyn cais y trefnwyr am gystadleuaeth 20Pelawd yn hytrach na chystadleuaeth un dydd[2].

Y tîm cartref oedd â'r nifer fwyaf o athletwyr, gyda 495 yn cynrychioli India a Twfalw oedd â'r tîm lleiaf gyda dim ond tri athletwr.

Cafwyd athletwyr o Rwanda am y tro cyntaf ers i'r wlad ymuno â'r Gymanwlad ym 2009[3] ond ni chafodd Ffiji gystadlu gan eu bod wedi eu gwahardd o'r Gymanwlad[4].

Uchafbwyntiau'r Gemau

[golygu | golygu cod]

Roedd y Gemau'n lwyddiant ysgubol i'r tîm cartref wrth i India orffen yn ail yn y tabl medalau - eu safle gorau erioed - gan gynnwys 14 medal aur yn y Saethu a 10 medal aur yn y Reslo. Casglodd India eu medalau aur cyntaf ar y trac a chae Athletau ers 1958 wrth i'r merched 4x400m guro Lloegr a Chanada ac yng nghystadleuaeth y ddisgen llwyddodd Krishna Poonia, Harvant Kaur a Seema Antil ennill aur, arian ac efydd i'r tîm cartref.

Daeth perfformiad gorau Cymru yn y 400m dros y clwydi wrth i Dai Greene gipio'r fedal aur a Rhys Williams y fedal efydd[5].

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Timau yn cystadlu

[golygu | golygu cod]

Cafwyd 71 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 2010 gyda Rwanda yn ymddangos am y tro cyntaf.

Tabl medalau

[golygu | golygu cod]
 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1Baner Awstralia Awstralia745548177
2Baner India India382736101
3Baner Lloegr Loegr375946142
4Baner Canada Canada26173275
5Baner Cenia Cenia12111033
5Baner De Affrica De Affrica12111033
7Baner Maleisia Maleisia12101335
8Baner Singapôr Singapôr1111931
9Baner Nigeria Nigeria11101435
10Baner Yr Alban Yr Alban910726
11Baner Seland Newydd Seland Newydd622836
12Baner Cyprus Cyprus43512
13Baner Cymru Cymru3[6]61019
14Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon33410
15Baner Samoa Samoa3014
16Baner Jamaica Jamaica2417
17Baner Pacistan Pacistan2125
18Baner Wganda Wganda2002
19Baner Nodyn:Alias gwlad Bahamas Bahamas1135
20Baner Botswana Botswana1124
21Baner Nawrw Nawrw1102
22Ynysoedd Caiman1001
22 St Vincent1001
24Baner Trinidad a Tobago Trinidad a Tobago0426
25Baner Camerŵn Camerŵn0246
26Baner Ghana Ghana0134
27Baner Namibia Namibia0123
28Baner Sri Lanca Sri Lanca0112
29Baner Papwa Gini Newydd Papua Gini Newydd0101
29Baner Seychelles Seychelles0101
31 Ynys Manaw0022
31Baner Mawrisiws Mawrisiws0022
31Baner Tonga Tonga0022
34Baner Gaiana Gaiana0011
34Baner Bangladesh Bangladesh0011
34 Sant Lwsia0011
Cyfanswm245244254743

Medalau'r Cymry

[golygu | golygu cod]

Roedd 175 aelod yn nhîm Cymru ac yn ei seithfed ymddangosiad yng Ngemau'r Gymanwlad llwyddodd Robert Weale i ennill ei ail fedal aur, 24 mlynedd ar ôl ennill ei fedal aur cyntaf yn ystod Gemau'r Gymanwlad 1986.

Medal Enw Cystadleuaeth
AurDai GreeneAthletau400m Dros y clwydi
AurSean McGoldrick[6]Bocsio56 kg
AurRobert WealeBowlio LawntSenglau
ArianCarys ParryAthletauTaflu'r morthwyl
ArianJenny McLoughlinAthletau100m T37
ArianBecky JamesBeicioRas wibio unigol
ArianMichaela BreezeCodi Pwysau63 kg
ArianFrancesca JonesGymnasteg (Rhythmig)Cylch
ArianJazmin CarlinNofio200m Dull rhydd
EfyddRhys WilliamsAthletau400m Dros y clwydi
EfyddChristian MalcolmAthletau200m
EfyddBecky JamesBeicioRas yn erbyn y cloc
EfyddKeiron HardingBocsio75 kg
EfyddJermaine AsareBocsio81 kg
EfyddAnnwen Butten
a Hannah Smith
Bowlio LawntParau
EfyddJazmin CarlinNofio400m Dull rhydd
EfyddGeorgia DaviesNofio50m Dull cefn
EfyddJemma LoweNofio100m Dull pili pala
EfyddJohanne BrekkeSaethuReiffl 50m tra'n gorwedd

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-10. Cyrchwyd 2013-10-01.
  2. ↑ http://www.espncricinfo.com/ci/content/story/234191.html
  3. ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-29. Cyrchwyd 2013-10-01.
  4. ↑ http://edition.cnn.com/2009/WORLD/asiapcf/09/01/fiji.commonwealth/[dolen farw]
  5. ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2002-07-25. Cyrchwyd 2013-10-01.
  6. 1 2 http://www.bbc.co.uk/sport/0/boxing/13552023

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Rhagflaenydd:
Melbourne 2006
Gemau'r Gymanwlad
Delhi Newydd 2010
Olynydd:
Glasgow 2014