Grenada
![]() | |
![]() | |
Arwyddair |
Ever Conscious of God We Aspire, Build and Advance as One People ![]() |
---|---|
Math |
Teyrnas y Gymanwlad, gwladwriaeth, ynys-genedl, gwladwriaeth sofran, gwlad ![]() |
Enwyd ar ôl |
Granada ![]() |
![]() | |
Prifddinas |
St. George's ![]() |
Poblogaeth |
107,825 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem |
Hail Grenada, God Save the Queen ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Keith Mitchell ![]() |
Cylchfa amser |
UTC−04:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Saesneg, Grenadian Creole English ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Antilles Leiaf, Windward Islands, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
348.5 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Feneswela ![]() |
Cyfesurynnau |
12.11667°N 61.66667°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol |
Parliament of Grenada ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth |
monarch of Grenada ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Elisabeth II ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Prime Minister of Grenada ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Keith Mitchell ![]() |
![]() | |
Arian |
Doler Dwyrain y Caribî ![]() |
Cyfartaledd plant |
2.149 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.772 ![]() |
Gwlad ac ynys yn ne-ddwyrain y Môr Caribî yw Grenada (Ffrangeg: La Grenade), sy'n cynnwys y brif ynys Grenada o chwe ynys lai. Mae'r wlad yn cynnwys ynysoedd mwyaf deheuol y Grenadines megis Carriacou, Petit Martinique ac Ynys Ronde. St. George's yw prifddinas y wlad. Fe'i lleolir yn yr Antilles Lleiaf rhwng Saint Vincent a'r Grenadines i'r gogledd a Trinidad a Tobago i'r de yn neddwyrain Môr y Caribî.
Torrodd yn rhydd oddi wrth y Deyrnas Unedig ar 7 Chwefror 1974.
Mae'r ynys yn enwog am ei sbeisiau, yn enwedig nytmeg.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Ffurfiwyd Grenada o losgfynydd tanddwr dwy filiwn o flynyddoedd yn ôl.
Cyn dyfod Ewropeaid, gwladychwyd yr ynys gan y Caribs, wedi iddynt ymlid yr Arawaks oddi yno. Cafodd Christopher Columbus gip o'r ynys ar ei ffordd i'r Byd Newydd yn 1498.
Cyrhaeddodd 203 o Ffrancwyr o'r Martinique yn 1649, dan arweiniad Jacques du Parquet gan aros yma. Bu brwydro yn erbyn y brodorion hyd at 1654, pan oresgynwyd yr ynys yn gyfangwbwl gan y Ffrancwyr. Tiriogaeth Ffrengig ydoedd, felly rhwng (1649–1763).
Rhwng 1763–1974 disodlwyd y Ffrancwyr gan Saeson, a rhoddwyd stamp ar hynny yng Nghytundeb Paris yn 1763. Ailfeddianwyd yr ynys gan y Ffrancwyr yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America, gyda'r Ffrancwr Comte d'Estaing yn llwyddo ar y tir a'r 'Frwydr y Llynges Dros Grenada' yng Ngorffennaf 1779. Fodd bynnag, dychwelwyd yr ynys i Brydain yng Nghytundeb Versailles, 1783.
Crefydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae 44.6% o'r boblogaeth yn Babyddion a 43.5% yn Brotestaniaid.
Iaith[golygu | golygu cod y dudalen]
Er mai'r Saesneg yw iaith swyddogol y wlad ceir dwy iaith o'r teulu Creol: y Creol Grenadaidd Saesneg a'r Creol Grenadaidd Ffrengig.