Môr y Caribî

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Môr Caribî)
Môr y Caribî
Mathmôr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAmerican Mediterranean Sea, Gogledd Cefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
GwladMecsico, Belîs, Ciwba, Gwatemala, Hondwras, Nicaragwa, Costa Rica, Panama, Colombia, Feneswela, Jamaica, Haiti, Gweriniaeth Dominica, Puerto Rico, Grenada, Sant Lwsia, Ffrainc, Dominica, y Deyrnas Unedig, Sant Kitts-Nevis Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,754,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau15°N 75°W Edit this on Wikidata
Map

Môr trofannol yn Hemisffer y Gorllewin sy'n rhan o Gefnfor yr Iwerydd i dde-ddwyrain Gwlff Mexico yw Môr y Caribî. Ceir nifer o enwau eraill ar y mor hwn gan gynnwys: Sbaeneg: Mar Caribe; Ffrangeg: Mer des Caraïbes; Creol Haiti: Lamè Karayib; Siamaiceg: Kiaribiyan Sii; Iseldireg: Caraïbische Zee; Papiamento: Laman Karibe. Mae'n rhoi ei enw i'r ardal o'i amgylch, a adwaenir fel y Caribî. Mae Mecsico a Chanolbarth America yn ffinio ag ef i'r gorllewin a'r de-orllewin; i'r gogledd ei ffin yw yr Antilles Fwyaf gan ddechrau gyda Chiwba, ac Antilles Leiaf i'r dwyrain, ac i'r de mae arfordir gogleddol De America.

Môr y Caribî yw un o'r moroedd mwyaf ac mae ganddo arwynebedd o tua 2,754,000 km2 (1,063,000 metr sgwâr).[1][2] Pwynt dyfnaf y môr yw Cafn Cayman, rhwng Ynysoedd y Cayman a Jamaica, sydd 7,686 m (25,217 tr) o dan lefel y môr. Mae gan arfordir y Caribî lawer o gylffau a baeau: Gwlff Gonâve, Gwlff Venezuela, Gwlff Darién, Golfo de los Mosquitos, Gwlff Paria a Gwlff Honduras.

Mae gan Fôr y Caribî y barriff[3] ail fwyaf yn y byd, sef y barriff Mesoamericanaidd. Mae'n gorwedd 1,000 km (620 milltir) ar hyd arfordiroedd Mecsico, Belîs, Gwatemala, a Hondwras.[4] Mae Barbados yn ynys ar yr un silff gyfandirol, ond ystyrir ei bod yng Nghefnfor yr Iwerydd yn hytrach na Môr y Caribî.[5]

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r enw "Caribî" yn deillio o'r Caribiaid, un o grwpiau Americanaidd Brodorol amlycaf y rhanbarth a hynny pan y cyhaeddodd yr Ewropeaid cyntaf ar ddiwedd y 15gf. Ar ôl i Christopher Columbus lanio yn y Bahamas ym 1492, roedd y term Sbaenaidd "Antilles" yn berthnasol i'r tiroedd hyn; yn deillio o hyn, daeth "Môr yr Antilles" yn enw amgen cyffredin ar gyfer "Môr y Caribî" mewn amryw o ieithoedd Ewropeaidd. Yn ystod y ganrif gyntaf o ddatblygiad, roedd goruchafiaeth Sbaen a'i byddin ddidrugaredd yn gadarn.

Christopher Columbus yn glanio ar Hispaniola yn 1492.

O'r 16g, bedyddiodd Ewropeaid a ymwelodd â'r Caribî yn "Fôr y De" (y Cefnfor Tawel, i'r de o isthmws Panama) yn hytrach na "Môr y Gogledd" (Môr y Caribî, i'r gogledd o'r un isthmws).[6]

Roedd Môr y Caribî wedi bod yn anhysbys i boblogaethau Ewrasia tan 1492, pan hwyliodd Christopher Columbus i ddyfroedd y Caribî ar ymgais i ddod o hyd i lwybr dros y môr i Asia. Bryd hynny nid oedd Hemisffer y Gorllewin yn hysbys i Ewropeaid, yn gyffredinol, er iddo gael ei ddarganfod rhwng y blynyddoedd 800 a 1000 gan y Llychlynnwr. Ar ôl i Columbus 'ddarganfod' yr ynysoedd, gwladychwyd yr ardal yn gyflym gan sawl diwylliant Gorllewinol (Sbaen i ddechrau, yna Lloegr yn ddiweddarach, Gweriniaeth yr Iseldiroedd, Ffrainc, a Denmarc). Yn dilyn gwladychu ynysoedd y Caribî, daeth Môr y Caribî yn ardal brysur ar gyfer masnachu morol a chludiant i Ewrop, ac yn y pen draw denodd y fasnach hon fôr-ladron fel Bartholomew Roberts (Barti Ddu), Samuel Bellamy a Harri Morgan.

Barriff ar arfordir Sant Lwsia

Yn 2015 roedd yr ardal yn gartref i 22 o diriogaethau-ynysoedd ac yn ffinio â 12 gwlad gyfandirol.

Daeareg[golygu | golygu cod]

Môr cefnforol yw Môr y Caribî sydd wedi'i leoli i raddau helaeth ar Blât y Caribî. Mae Môr y Caribî wedi'i wahanu o'r cefnfor gan sawl bwa o ynysoedd, o wahanol oedrannau. Mae'r ieuengaf yn ymestyn o'r Antilles Leiaf i Ynysoedd y Wyryf i'r gogledd-ddwyrain o Trinidad a Tobago oddi ar arfordir Feneswela. Ffurfiwyd yr bwa hwn gan wrthdrawiad Plât De America â Plât y Caribî ac mae'n cynnwys llosgfynyddoedd gweithredol a rhai marw, fel Montagne Pelée y Quill (llosgfynydd) ar Sint Eustatius yng Ngharibî'r Iseldiroedd a Morne Trois Pitons ar Dominica. Ceir ynysoedd mwy yn rhan ogleddol y môr, gan gynnwys: Ciwba, Hispaniola, Jamaica a Puerto Rico ar fwa o ynysoedd hŷn.

Amcangyfrifir bod oedran daearegol Môr y Caribî rhwng 160 a 180 miliwn o flynyddoedd ac fe'i ffurfiwyd gan doriad llorweddol a holltodd yr uwch-gyfandir o'r enw Pangea yn y Cyfnod Mesosöig.[7]

Yn y Triasig, arweiniodd hollti pwerus at ffurfio cafnau cul, gan ymestyn o'r Newfoundland modern i arfordir gorllewinol Gwlff Mecsico a ffurfiodd greigiau gwaddodol siliciclastig. Yn gynnar yn y Jwrasig oherwydd symudiad morol pwerus, torrodd dŵr i mewn i ardal bresennol Gwlff Mecsico gan greu pwll bas helaeth. Ymddangosodd basnau dwfn yn y Caribî oherwydd symudiadau Jwrasig Canol. Roedd ymddangosiad y basnau hyn yn nodi dechrau Cefnfor yr Iwerydd ac yn cyfrannu at ddinistr y Pangea ar ddiwedd y Jwrasig Hwyr.

Yn ystod y Cyfnod Cretasaidd cafodd y Caribî ei siâp presennol. Yn gynnar yn y Paleogen oherwydd atchweliad morol gwahanwyd y Caribî oddi wrth Gwlff Mecsico a Chefnfor yr Iwerydd gan dir Ciwba a Haiti. Arhosodd y Caribî fel hyn am y rhan fwyaf o'r Cainosöig tan yr Holosen pan adferwyd lefelau dŵr y cefnforoedd.

Ecoleg[golygu | golygu cod]

Mae'r Caribî yn gartref i tua 9% o riffiau cwrel y byd sy'n gorchuddio tua 50,000 km2 (19,000 metr sgwâr), y mwyafrif ohonynt oddi ar Ynysoedd y Caribî ac arfordir Canolbarth America.[8] Yn eu plith mae Barriff Belîs (Belize Barrier Reef) gydag ardal o 963 km2 (372 metr sgwâr) a gofrestrwyd yn Safle Treftadaeth y Byd ym 1996. Mae'n rhan o Farriff Mawr y Maya (Great Mayan Reef) a elwir hefyd yn MBRS ac mae dros 1,000 km ( 600 milltir) o hyd - yr ail hiraf yn y byd. Mae'n gorwedd ar hyd arfordiroedd Caribïaidd Mecsico, Belîs, Gwatemala ac Hondwras.

Yn y 2010au mae dyfroedd anarferol o gynnes y Caribî wedi bod yn bygwth riffiau cwrel yr ardal fwyfwy. Mae riffiau cwrel yn cynnal rhai o'r cynefinoedd morol mwyaf amrywiol yn y byd, ond maent yn ecosystemau bregus. Pan fydd dyfroedd trofannol yn cynesu am gyfnodau estynedig, mae planhigion microsgopig o'r enw zooxanthellae yn marw. Mae'r planhigion hyn yn darparu bwyd i'r cwrelau, ac yn rhoi eu lliw iddynt. Gelwir canlyniad marwolaeth a gwasgariad y planhigion bach hyn yn "wynu cwrel", a gall arwain at ddinistrio ardaloedd mawr o rîff. Mae dros 42% o gwrelau wedi'u gwynu'n llwyr ac mae 95% yn profi rhyw fath o wynnu.[9] Yn hanesyddol credir bod y Caribî yn cynnwys 14% o riffiau cwrel y byd.[10]

Hinsawdd[golygu | golygu cod]

Mae hinsawdd y Caribî yn cael ei yrru gan y ceryntau lledred isel a chefnforoedd trofannol sy'n rhedeg trwyddo. Prif gerrynt y cefnfor yw Cerrynt Cyhydeddol y Gogledd, sy'n dod i mewn i'r rhanbarth o'r Môr Iwerydd trofannol. Mae hinsawdd yr ardal yn drofannol, yn amrywio o goedwig law drofannol mewn rhai ardaloedd i safana trofannol mewn ardaloedd eraill. Mae yna hefyd rai lleoliadau sy'n hinsoddau cras gyda sychder sylweddol ar adegau.

Mae glawiad yn amrywio yn ôl drychiad, maint a cheryntau dŵr; mae gwynt oer yn cadw Ynysoedd ABC (Arwba, Bonaire a Curaçao) yn sych. Mae gwyntoedd cyson, cynnes, llaith yn chwythu'n o'r dwyrain, gan greu hinsoddau coedwig law a lled-gras ar draws y rhanbarth. Mae hinsoddau'r fforest law drofannol yn cynnwys ardaloedd o iseldir ger Môr y Caribî o Costa Rica i'r gogledd i Belîs, yn ogystal â'r Weriniaeth Ddominicaidd a Puerto Rico, tra bod yr hinsoddau safana trofannol sych a mwy tymhorol i'w cael yng Nghiwba, gogledd Feneswela, a de Yucatan, Mecsico. Mae hinsoddau cras i'w cael ar hyd arfordir deheuol eithafol Feneswela allan i'r ynysoedd gan gynnwys Aruba a Curaçao, yn ogystal â blaen gogleddol Yucatan.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Caribbean Sea Archifwyd 2018-01-04 yn y Peiriant Wayback. All The Sea. URL last accessed 7 Mai 2006
  2. "The Caribbean Sea".
  3. Geiriadur yr Academi; adalwyd 12 Ebrill 2021.
  4. "Mesoamerican Reef | Places | WWF". World Wildlife Fund. Cyrchwyd 2016-10-21.
  5. Stefanov, William (16 Rhagfyr 2009). "Greater Bridgetown Area, Barbados". NASA Earth Observatory. Cyrchwyd 16 Medi 2020.
  6. Gorgas, William C. (1912). "Sanitation at Panama". Journal of the American Medical Association (American Medical Association) 58 (13): 907. doi:10.1001/jama.1912.04260030305001. ISSN 0002-9955. https://books.google.com/books?id=z80-AQAAMAAJ. "The Pacific Ocean, south of this isthmus [Panama], was known to the early explorers as the South Sea, and the Caribbean, lying to the north, as the North Sea."
  7. Iturralde-Vinent, Manuel (2004), The first inhabitants of the Caribbean , Cuban Science Network. Adalwyd 28/07/2007
  8. Status of coral reefs in the Caribbean and Atlantic Ocean Archifwyd June 21, 2006, yn y Peiriant Wayback. World Resource Institute. URL accessed on April 29, 2006.
  9. [1] Inter Press Service News Agency – Mesoamerican Coral Reef on the way to becoming a Marine Desert
  10. Elder, Danny and Pernetta, John. (1991). The Random House atlas of the oceans. New York : Random House. tud. 124. ISBN 9780679408307.
  11. Silverstein, Alvin (1998) Weather And Climate (Science Concepts); tud 17. 21st Century. ISBN 0-7613-3223-5