Montagne Pelée
Gwedd
| Math | stratolosgfynydd, lava dome, mynydd, copa, pwynt uchaf |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Martinîc |
| Gwlad | Ffrainc |
| Uwch y môr | 1,397 metr |
| Cyfesurynnau | 14.8131°N 61.1656°W |
| Amlygrwydd | 1,397 metr |
| Cyfnod daearegol | Late Pleistocene |
![]() | |
| Deunydd | andesite, basaltic andesite, dacite |
Llosgfynydd ar ynys Martinique yn y Caribî yw Montagne Pelée (mynydd moel, mynydd noeth yw'r ystyr yn Ffrangeg, yn llythrennol: mynydd wedi'i bilio). Mae ei gopa 1,397 medr uwch lefel y môr.
Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd ffrwydrad 8 Mai 1902. Dinistriwyd prifddinas yr ynys, Saint-Pierre, yn llwyr, a lladdwyd bron y cyfan o'i thrigolion, tua 30,000. Lladdwyd y rhan fwyaf gan gymylau o lwch folcanig chwilboeth; dywedir mai dim ond dau o drigolion Saint-Pierre a adawyd yn fyw.
Bu ffrwydradau llai yn 1929 a 1932. O ganlyniad i'r difrod, daeth Fort-de-France yn brifddinas yr ynys yn lle Saint-Pierre.

