Cymuned Saint Martin Ffrengig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cymuned Saint Martin Ffrengig
St Martin Coat.png
Math overseas collectivity Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Saint Martin Edit this on Wikidata
Prifddinas Marigot Edit this on Wikidata
Poblogaeth 35,684 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2007 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC−04:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Saint Martin, French West Indies Edit this on Wikidata
Sir Ffrainc Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd 53.2 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Sint Maarten Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 18.0753°N 63.06°W Edit this on Wikidata
FR-MF Edit this on Wikidata
Arian Ewro Edit this on Wikidata
Delwedd:Flag of the Collectivity of Saint Martin.svg
Baner Collectivité de Saint-Martin

Mae Cymuned Saint Martin Ffrengig, (Ffrangeg: Collectivité de Saint-Martin, neu Saint-Martin), wedi ei lleoli ar ynys San Martin, sy'n rhan o'r Antilles Lleiaf, ym Môr y Caribî. Tan 2007 cymuned gyda Saint Barthélemy yn rhan weinyddiaeth ynys fwy Guadeloupe, ond erbyn hyn mae wedi cael statws tramor.

Hynodrwydd ynys Saint Martin yw fod y rhan ddeheuol yr ynys yn rhan o'r Iseldiroedd a gelwir gan yr enw Iseldireg, (Sint Marten).

Lleolir y ganolfan weinyddol rhan Ffrangeg yr ynys yn Marigot. Mae iddi faner answyddogol ond baner Ffrainc yw'r faner swyddogol ryngwladol gydnabyddiedig.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Bae Galis

Daeth yr ynys yn un o'r canolfannau masnachol ers dechrau gwladychiad America, ac yn fan brwydro rhwng yr Iseldiroedd a Ffrainc, 1672 - 1679. Meddianwyd gan Loegr yn 1689. Alltudwyd y Saeson i Saint Kitts wedi Cytundeb Heddwch Risvik 1697 y caniateid iddynt ddychwelyd. Yn 1750 adeiladwyd Fort Marigo. Meddiannodd y Saeson yr ynys drachefn yn 1756 - 1763, 1781 - 1783 ac yn ystod y Chwyldro Ffrengig. Buont hefyd mewn meddiant o'r ynys rhwng 1810 - 1815 yn ystod Rhyfeloedd Napoleon yn ar gyfandir Ewrop.

Yn 1839 cafwyd cytundeb rhwng Ffrainc a'r Iseldiroedd gan gytuno i rannu ynysoedd a'u gweithgareddau gyda rhan ogleddol yr ynys yn eiddo i Ffrainc.

Yn 1963 cafodd Saint-Martin hawliau is-gyngor. Yn 1965 dechreuodd ddiwydiant twristiaeth ar yr ynysoedd o ddifri ac yn 1972 agorwyd Maes Awyr Grand Kaso gyda'r awyren supersonig gyntaf, Concorde yn glanio yno yn 1981.

Ar 16 Rhagfyr 1989, cyfarfu Arlywydd Ffrainc Francois Mitterand ag Arlywydd yr Undol Daleithiau, George H. W. Bush ar yr ynys.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r ynys wedi'i ffinio i'r gogledd gan ynys Anguilla.

Mae rhan ganol Sant Martin yn fryniog. Y pwynt uchaf yw'r 'Pic Paradis' sydd 414 medr o uchder. Yn y de-orllewin geir Lagŵn Simpson. Mae rhai ynysoedd bychain o gylch y brif ynys, y fwyaf ohonynt yw Tintamatė. Corn canonig yr ynys yw'r pwynt mwyaf gorllewinol Undeb Ewropeaidd.

Ceir hinsawdd trofannol. Mae'r tymheredd rhwng 24 a 30 °C, y glawiad blynyddol cyfartalog yn 1000 mm. Budd corwyntoedd yn bwrw'r ynys hefyd.

Y prif dref yw Marigot.

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Y prif sector economaidd yw twristiaeth (85% o'r cyflogedig). Oherwydd cyfleoedd cyfyngedig ar gyfer amaethyddiaeth a physgota, mae'r rhan fwyaf o gynhyrchion bwyd yn cael eu mewnforio.

Fe'i gwasanaethir gan Maes Awyr Rhyngwladol Tywysog Julian, sydd wedi ei lleoli yn Sint Maarten yr Iseldiroedd. Ceir hefyd Maes Awyr L'Esperance lleol. O Marigo mae fferi i Anguilla.

Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae mwyafrif y boblogaeth yn cynnwys pobl o darddiad cymysg (Mullahs, Metisai a Du, gwyn (yn bennaf Ffrangeg, Indiaid.

Yr iaith swyddogol yw Ffrangeg. Mae hefyd siaradwr Creole (yr Antilles Ffrengig), Papiament, Saesneg, Iseldireg, Sbaeneg.

Mae'r rhan fwyaf o gredinwyr yn Catholigion a ceir hefyde Protestaniaid, Tystion Jehovah, ac Hindwiaid.

Demografinė plėtra
1962 1968 1975 1982 1990 1999 2002
4 001 4 992 5 550 8 072 28 518 29 078 31 397

Cyd-destun[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Saint Martin am flynyddoedd yn commune Ffrengig ac yn rhan o lywodraethiant Guadeloupe a oedd yn région a département tramor o Ffrainc. Yn 2003 pleidleisiodd y boblogaeth dros ymwahanu oddi ar Guadeloupe er mwyn creu cymuned collectivité d'outre-mer arwahân fel rhan o Ffrainc.[1] Ar 9 Chwefror 2007 pasiodd cynulliad Ffrainc bil yn rhoi statws COM i Saint Martin ac un arall i'r ynys Ffrengig gyfagos, Saint Barthélemy.[2] Mae Saint Martin yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd gan ei fod yn rhan o Ffrainc.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]