Ynys Clipperton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ynys Clipperton
Clipperton Island.png
Math ynys, Rhestr tiriogaethau dibynnol, Atol, WWF ecoregion Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl John Clipperton Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC−08:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Tiriogaethau tramor Ffrainc Edit this on Wikidata
Sir Ffrainc Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd 6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 29 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Y Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 10.2939°N 109.2172°W Edit this on Wikidata
Cod post 98799 Edit this on Wikidata
FR-CP Edit this on Wikidata
Rheolir gan High Commissioner of the Republic in French Polynesia Edit this on Wikidata

Tiriogaeth Ffrainc yn nwyrain y Cefnfor Tawel yw Ynys Clipperton (Ffrangeg: Île de Clipperton), sy'n atol gwrel heb neb yn byw arni. Mae ganddi arwynebedd o 6 km². Fe'i lleolir tua 1,080 km o'r arfordir gorllewinol Mecsico. Mae ganddi'r statws arbennig o fod yn eiddo preifat Gwladwriaeth Ffrainc, o dan awdurdod uniongyrchol Gweinidog y Tramor.

Lleoliad Ynys Clipperton

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Darganfuwyd yr ynys ym 1528 gan Alvaro Saavedra Cedrón a gomisiynwyd gan Hernando Cortés i ddarganfod llwybr i'r Philipinau.[1][2]

Ailddarganfuwyd yr ynys ddydd Gwener y Groglith, 3 Ebrill 1711 gan y Ffrancwyr Martin de Chassiron a Michel Du Bocage. Fe wnaethant lunio'r map cyntaf a hawlio'r ynys am Ffrainc. Cafodd yr enw "Île de la Passion" ("Ynys y Dioddefaint"). Arweiniodd Bocage alldaith wyddonol yno ym 1725.

Daw'r enw cyfredol gan John Clipperton, môr-leidr a phreifatîr o Loegr a ymladdodd y Sbaenwyr yn gynnar yn y 18g. Efallai ei fod wedi ei defnyddio fel man cychwyn ar gyfer ei gyrchoedd.

Hawliwyd yr ynys gan Mecsico yn y 1840au, yr Unol Daleithiau ym 1858 a Ffrainc ym 1858. Fe'i cipiwydd gan Mecsico ym 1897, a phrynodd y British Pacific Island Company hawliau cloddio gwano o'r tir ym 1906. Erbyn 1914 roedd tua 100 o bobl - dynion, menywod a phlant - yn byw yno, yn cael eu cyflenwi bob dau fis gan long o Acapulco.

Ond ym 1914 suddodd y llong gyflenwi. Yn ystod anhrefn y Chwyldro Mecsico a'r Rhyfel Byd Cyntaf anghofiwyd yr ynyswyr. Daeth eu sefyllfa'n fwyfyw enbyd. Bu farw llawer o'r clefri poeth. Erbyn 1917 dim ond 15 o bobl oedd yn fyw. Ar ôl eu hachub ni wnaed mwy o ymdrechion i wladychu’r lle.

Ar ôl proses hir a ddechreuodd ym 1909, o'r diwedd datganodd Vittorio Emanuele III, brenin yr Eidal, gan weithredu fel cymrodeddwr, fod yr ynys yn feddiant Ffrengig.

Palmydd coco yn tyfu ar Ynys Clipperton

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Vargas, Jorge A. (2011). Mexico and the Law of the Sea: Contributions and Compromises. Publications on Ocean Development. 69. Martinus Nijhoff Publishers. t. 470. ISBN 9789004206205. Cyrchwyd 7 September 2019.
  2. Wright, Ione Stuessy (1953). Voyages of Alvaro de Saavedra Cerón 1527–1529. University of Miami Press.
Oceania-map 1-41000000.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Oceania. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.