Badminton
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon ![]() |
Math | chwaraeon raced, chwaraeon olympaidd ![]() |
![]() |
Mabolgamp a chwaraeir gyda racedi a theflyn o'r enw gwennol[1] neu gorc asgellog[2] yw badminton. Yn debyg i denis, gellir ei chwarae ar lawnt, ond chwaraeir cystadlaethau gan amlaf dan do i osgoi'r effaith a gai'r gwynt ar y wennol.[3]
Datblygodd y gêm yn Lloegr ar ddiwedd y 19eg ganrif. Daeth yn un o'r chwaraeon Olympaidd swyddogol yng Ngemau'r Haf yn Barcelona ym 1992. Gwledydd Asia sy'n dominyddu'r gêm fodern, ond mae hefyd yn boblogaidd yng Ngwledydd Prydain a Denmarc.[4]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur yr Academi, [shuttlecock].
- ↑ corc. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Awst 2014.
- ↑ (Saesneg) badminton. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Awst 2014.
- ↑ (Saesneg) Badminton History. Olympic.org. Adalwyd ar 30 Awst 2014.