Gemau'r Gymanwlad 2002
| Enghraifft o: | edition of the Commonwealth Games |
|---|---|
| Dyddiad | 2002 |
| Dechreuwyd | 25 Gorffennaf 2002 |
| Daeth i ben | 4 Awst 2002 |
| Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
| Lleoliad | Manceinion |
| Yn cynnwys | badminton at the 2002 Commonwealth Games |
| Rhanbarth | Dinas Manceinion |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0h5lv |
| 17eg Gemau'r Gymanwlad | |||
|---|---|---|---|
| Campau | 17 | ||
| Seremoni agoriadol | 25 Gorffennaf | ||
| Seremoni cau | 4 Awst | ||
| Agorwyd yn swyddogol gan | Elizabeth II | ||
| |||
Gemau'r Gymanwlad 2002 oedd yr ail tro ar bymtheg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Manceinion, Lloegr oedd cartref y Gemau rhwng 25 Gorffennaf - 4 Awst. Pleidleisiodd Cyngor Gemau Gymanwlad Lloegr i enwebu Manceinion ar draul Llundain fel ymgeisydd y wlad ar gyfer cynnal Gemau 2002[1] ac wedi i ddiddordeb Adelaide, Awstralia a Cape Town, De Affrica bylu, cafodd Manceinion eu dewis fel lleoliad Gemau 2002 yn ystod cyfarfod o ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Bermiwda ym 1995[2].
Cyflwynwyd Tenis Bwrdd a Triathlon i'r Gemau am y tro cyntaf gyda Bowlio Deg a Chriced yn diflannu, dychwelodd Jiwdo i'r Gemau am y tro cyntaf ers 1990 ac am y tro cyntaf cafwyd cystadlaethau i athletwyr elît gydag anabledd ochr yn ochr ag athletau heb anabledd.
Dyma oedd y Gemau olaf i Simbabwe fynychu cyn gadael y Gymanwlad yn 2003.
Uchafbwyntiau'r Gemau
[golygu | golygu cod]Llwyddodd David Morgan i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau wrth ennill dwy fedal aur ac un arian yn y gystadleuaeth Codi Pwysau er mwyn sicrhau cyfanswm o naw medal aur a thair medal arian rhwng 1982 a 2002. Roedd yna lwyddiant arbennig i ynys Nawrw yn y gystadleuaeth Codi Pwysau hefyd wrth i'r ynys fechan yn y Môr Tawel sydd a phoblogaeth o 9,434[3] sicrhau dwy fedal aur, pump medal arian ac wyth medal efydd.
Casglodd Sant Kitts-Nevis eu hunig medal yn hanes y Gemau hyd yma pan enillodd Kim Collins y 100m i ddynion a llwyddodd Ynysoedd Caiman a Sant Lwsia i gasglu eu medalau cyntaf yn hanes y Gemau wrth i Kareem Streete-Thompson ennill y fedal efydd yn y naid hir ar ran Ynysoedd Caiman gyda Dominic Johnson yn ennill medal efydd yn y naid â pholyn i Sant Lwsia.
Ar ôl methu cystadlu yng Ngemau Olympaidd 2000 yn Sydney am ei bod yn rhy ifanc[4], llwyddodd Nicole Cooke i gasglu medal aur i Gymru yn y ras lôn yn y gystadleuaeth Feicio..[5]
Yn y pwll Nofio llwyddodd Ian Thorpe o Awstralia i ennill chwe medal aur ac un arian a llwyddodd i dorri record byd yn y 400m dull rhydd gan ddod y person cyntaf i ennill 10 medal aur yn holl hanes y Gemau.[6][7]
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]|
|
Timau yn cystadlu
[golygu | golygu cod]Cafwyd 72 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 2002
Tabl Medalau
[golygu | golygu cod]| Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
|---|---|---|---|---|---|
| 1 | 82 | 62 | 63 | 207 | |
| 2 | 54 | 52 | 60 | 166 | |
| 3 | 31 | 41 | 46 | 118 | |
| 4 | 30 | 22 | 17 | 69 | |
| 5 | 11 | 13 | 21 | 45 | |
| 6 | 9 | 20 | 17 | 46 | |
| 7 | 9 | 1 | 2 | 12 | |
| 8 | 7 | 6 | 18 | 34 | |
| 9 | 6 | 13 | 12 | 31 | |
| 10 | 6 | 8 | 16 | 30 | |
| 11 | 5 | 3 | 12 | 20 | |
| 12 | 4 | 8 | 4 | 16 | |
| 13 | 4 | 6 | 7 | 17 | |
| 14 | 4 | 2 | 7 | 13 | |
| 15 | 4 | 0 | 4 | 8 | |
| 16 | 2 | 5 | 8 | 15 | |
| 17 | 2 | 2 | 1 | 5 | |
| 18 | 2 | 1 | 1 | 4 | |
| 19 | 1 | 3 | 4 | 8 | |
| 20 | 1 | 1 | 1 | 3 | |
| 20 | 1 | 1 | 1 | 3 | |
| 22 | 1 | 1 | 0 | 2 | |
| 23 | 1 | 0 | 4 | 5 | |
| 24 | 1 | 0 | 1 | 2 | |
| 25 | 1 | 0 | 0 | 1 | |
| 25 | 1 | 0 | 0 | 1 | |
| 25 | 1 | 0 | 0 | 1 | |
| 25 | 1 | 0 | 0 | 1 | |
| 29 | 0 | 2 | 1 | 3 | |
| 30 | 0 | 2 | 0 | 2 | |
| 31 | 0 | 1 | 2 | 3 | |
| 32 | 0 | 1 | 0 | 1 | |
| 33 | 0 | 0 | 1 | 1 | |
| 33 | Ynysoedd Caiman | 0 | 0 | 1 | 1 |
| 33 | 0 | 0 | 1 | 1 | |
| 33 | 0 | 0 | 1 | 1 | |
| 33 | 0 | 0 | 1 | 1 | |
| 33 | 0 | 0 | 1 | 1 | |
| 33 | 0 | 0 | 1 | 1 | |
| Cyfanswm | 282 | 280 | 336 | 898 | |
Medalau'r Cymry
[golygu | golygu cod]Roedd 214 aelod yn nhîm Cymru; y nifer fwyaf erioed. Llwyddodd David Morgan i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau wrth ennill dwy fedal aur ac un arian yn y gystadleuaeth Codi Pwysau er mwyn sicrhau cyfanswm o naw medal aur a thair medal arian rhwng 1982 a 2002.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-18. Cyrchwyd 2013-09-28.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2013-09-28.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-12-18. Cyrchwyd 2013-09-28.
- ↑ http://news.bbc.co.uk/sportacademy/hi/sa/special_events/cycling/newsid_3909000/3909169.stm
- ↑ http://www.thecgf.com/sports/results.asp[dolen farw]
- ↑ http://news.bbc.co.uk/sport3/commonwealthgames2002/hi/swimming/newsid_2166000/2166261.stm
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-01. Cyrchwyd 2013-09-28.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
| Rhagflaenydd: Kualar Lumpur |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Melbourne |
