Iwan Thomas
Thomas yn cael ei gyfweld yn London; 2011 | ||
Medal record | ||
---|---|---|
Athletau dynion | ||
Yn cynrychioli "Prydain Fawr"
| ||
Gemau Olympaidd
{Medal | ||
Pencampwriaethau'r Byd (athletau) | ||
1997 Athens | 4x400 m cyfnewid | |
Pencampwriaethau Athletau Ewrop | ||
1998 Budapest | 400 metr | |
1998 Budapest | 4x400 m cyfnewid
| |
Cwpan Ewrop (Athletau) | ||
Cwpan Ewrop (Athletau) | 4x400 m cyfnewid | |
1997 Munich | 4x400 m cyfnewid | |
Cwpan y Byd yr IAAF | ||
1998 Johannesburg | 400 m | |
1998 Johannesburg | 4x400 m
| |
Yn cynrychioli Cymru | ||
Gemau'r Gymanwlad | ||
1998 Kuala Lumpur | 400 m | |
2002 Manchester | 4x400 m | |
1998 Kuala Lumpur | 4x400 m |
Athletwr (rhedwr) o Gymro sydd wedi cynrychioli'r Deyrnas Unedig yn y Gemau Olympaidd a Chymru yng Ngemau'r Gymanwlad yw Iwan Thomas (ganwyd 5 Ionawr 1974). Bu hefyd yn llwyddiannus ym Mhencampwriaethau Ewrop (athletau).
Mike Smith oedd ei hyfforddwr am y rhan fwyaf o'i yrfa.
Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1996, Atlanta roedd yn 5ed yn y ffeinal a derbyniodd Arian yn y ras gyfnewid dynion 4 x 400m. Cynrychiolodd y tîm yng Ngemau Olympaidd 2000 hefyd, ond ni ddewisiwyd ef ar y diwrnod am y ras unigol, er mai ef oedd rhedwr cyflymau tîm 'Prydain'.
Roedd hefyd yn aelod o dîm 4 × 400 m Prydain ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd yn 1997 yn Athens a gwbwlhaodd y ras mewn 0.18 yn arafach nag UDA, gan ddod yn ail. Yn 2008, mynegodd aelod o dîm Prydain iddo gymeryd cyffuriau rhwng 1997 a 2001, gan gynnwys y tro hwnnw yn 1997. Gan i hyn ddigwydd dros 8 mlynedd wedi'r gystadleuaeth ni newidiwyd y canlyniad ac arhosodd Prydain ar y Fedal Arian. Er hyn bu i Pettigrew ddychwelyd ei fedalau.[1][2]
Rhagflaenydd: Scott Gibbs |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1998 |
Olynydd: Colin Jackson |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pettigrew given two-year dope ban BBC Sport, 3 Mehefin 2008
- ↑ Thomas calls for justice after Pettigrew's disgrace The Guardian, 5 Mehefin 2008