Colin Jackson
| Colin Jackson | |
|---|---|
| Ganwyd | Colin Ray Jackson 18 Chwefror 1967 Caerdydd |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
| Taldra | 182 centimetr |
| Pwysau | 75 cilogram |
| Perthnasau | Suzanne Packer, chwaer |
| Gwobr/au | CBE |
| Chwaraeon | |
| Gwlad chwaraeon | Cymru, y Deyrnas Unedig |
Cyn-athletwr sbrint a ras glwydi o Gymru yw Colin Ray Jackson CBE (ganwyd 18 Chwefror 1967). Ganwyd Jackson yng Nghaerdydd, a daw o dras Jamaicaidd, Maroon, Taino (Americanwyr brodorol), ac Albanaidd. Mae ei chwaer Suzanne Packer yn actores. Wedi ymddeol fel athletwr gweithiodd fel sylwebydd chwaraeon, ar y BBC yn bennaf. Daliodd record y byd ras clwydi 110 metr rhwng 1993 a 2006. Ef yw deilydd presennol record y byd ras glwydi 60 metr a deilydd record ras glwydi 110 metr Gemau'r Gymanwlad.[1]
Gyrfa athletau
[golygu | golygu cod]Mynychodd Jackson Ysgol Uwchradd Llanedeyrn lle bu'n chwarae pêl-droed a chriced dros y sir, a rygbi'r undeb a phêl-fasged dros yr ysgol.
O dan orychwyliaeth ei ffrind a'i hyffoddwr, Malcolm Rodger Arnold, dechreuodd ei yrfa fel athletwr decathlon addawol cyn newid i redeg y ras glwydi uchel. Enillodd fedal arian yng Ngemau'r Gymanwlad 1986 a medal arian yn y ras glwydi 110 metr yng Ngemau Olympaidd 1988 tu ôl i Roger Kingdom. Byddai ei yrfa fel athletwr yn para 15 mlynedd, a'r deg olaf fel deilydd record y byd. Bu'n Bencampwr y Byd ddwywaith, Pencampwr y Gymanwlad ddwywaith ac yn Bencampwr Ewropeaidd bedair gwaith ond dyma'r unig fedal Olympaidd iddo ennill erioed . Roedd wedi ei anafu pan redodd y ras glwydi 110 metr yng Ngemau Olympaidd 1992 ac felly ni lwyddodd i orffen yn uwch na'r seithfed safle, daeth yn bedwerydd yng Ngemau Olympaidd 1996, ac yn bumed yn 2000.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 60 Metres Hurdles Records. IAAF. Adalwyd ar 2009-04-04.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Colin Jackson: The Autobiography (BBC Books, 2003)
- Life’s New Hurdles, cyfres Stori Sydyn 2008, Accent Press, ISBN 9781906125936
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Proffil IAAF Colin Jackson Archifwyd 2012-08-04 yn y Peiriant Wayback
- Bywgraffiad Colin Jackson, olympics.org.uk Archifwyd 2010-02-04 yn y Peiriant Wayback
- Proffil 'Power o f10' Colin Jackson[dolen farw]
- Colin Jackson - athlete from Cardiff, BBCArchifwyd 2009-03-07 yn y Peiriant Wayback
- Colin Jackson, Who Do You Think You Are?
- Biography of Colin Jackson, Sunday Life
- Proffil Colin Jackson, londonspeakerbureau.co.uk
- Bywgraffiad ar wefan ei asiant
- Egin pobl o Gymru
- Genedigaethau 1967
- Athletwyr o Gymru
- Cyflwynwyr teledu o Gymru
- Pobl o Gymru â medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad
- Pobl o Gymru â medal arian yn y Gemau Olympaidd
- Pobl o Gymru o dras Albanaidd
- Pobl o Gymru o dras Jamaicaidd
- Cystadleuwyr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1988
- Enillwyr Gwobr Personoliaeth Chwaraeon Cymreig BBC Cymru
- Pobl addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Llanedern
- Pobl o Gaerdydd
- Sylwebyddion chwaraeon
- Pobl LHDT o Gymru
- Cymry Du
- Pobl LHDT ym myd chwaraeon