Gemau'r Gymanwlad 1978
| Enghraifft o: | digwyddiad aml-chwaraeon |
|---|---|
| Dyddiad | 1978 |
| Dechreuwyd | 3 Awst 1978 |
| Daeth i ben | 12 Awst 1978 |
| Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
| Lleoliad | Edmonton |
| Yn cynnwys | badminton at the 1978 Commonwealth Games |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03ylsd |
| 11fed Gemau'r Gymanwlad | |||
|---|---|---|---|
| Campau | 128 | ||
| Seremoni agoriadol | 3 Awst | ||
| Seremoni cau | 12 Awst | ||
| Agorwyd yn swyddogol gan | Elizabeth II | ||
| |||
Gemau'r Gymanwlad 1978 oedd yr unfed tro ar ddeg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal a'r tro cyntaf i'r teitl Gemau'r Gymanwlad gael ei ddefnyddio. Edmonton, Alberta,Canada oedd cartref y Gemau rhwng 3 - 12 Awst. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yn Edmonton yn ystod Gemau Olympaidd 1972 ym München gydag Edmonton yn sicrhau 36 pleidlais a Leeds yn cael 10.
Cafwyd boicot o'r gemau gan Nigeria mewn protest wedi i dîm Rygbi'r Undeb Seland Newydd ymweld â De Affrica, oedd â system apartheid, ym 1976. Yn dilyn y daith ddadleuol, cafwyd boicot o Gemau Olympaidd 1976 ym Montreal, Canada, gan 28 o wledydd Affrica. Arweiniodd y boicot ym Montreal at benaethiad y Gymanwlad yn arwyddo Cytundeb Gleneagles ym 1977 fyddai'n annog cymdeithasau chwaraeon i beidio gwneud cysylltiadau chwaraeon â De Affrica[1]. Er gwaethaf y cytundeb, penderfynodd Nigeria gadw draw rhag y Gemau yn Edmonton.
Ymunodd athletwyr Bangladesh, Cyprus, Sant Kitts-Nevis, Ynysoedd Caiman ac Ynysoedd Turks a Caicos â'r Gemau am y tro cyntaf ac ychwanegwyd Gymnasteg i'r rhestr o gampau.
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Timau yn cystadlu
[golygu | golygu cod]Cafwyd 46 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 1978 gyda Bangladesh, Cyprus, Sant Kitts-Nevis, Ynysoedd Caiman ac Ynysoedd Turks a Caicos yn ymddangos am y tro cyntaf.
Tabl Medalau
[golygu | golygu cod]| Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
|---|---|---|---|---|---|
| 1 | 45 | 31 | 33 | 109 | |
| 2 | 27 | 27 | 33 | 87 | |
| 3 | 24 | 33 | 27 | 84 | |
| 4 | 7 | 6 | 5 | 18 | |
| 5 | 5 | 6 | 9 | 20 | |
| 6 | 5 | 5 | 5 | 15 | |
| 7 | 3 | 6 | 5 | 14 | |
| 8 | 2 | 2 | 3 | 7 | |
| 9 | 2 | 1 | 5 | 8 | |
| 10 | 2 | 1 | 2 | 5 | |
| 11 | 2 | 0 | 0 | 2 | |
| 12 | 1 | 2 | 1 | 4 | |
| 13 | 1 | 1 | 1 | 3 | |
| 1 | 1 | 1 | 3 | ||
| 15 | 1 | 1 | 0 | 2 | |
| 16 | 0 | 2 | 2 | 4 | |
| 0 | 2 | 2 | 4 | ||
| 18 | 0 | 1 | 0 | 1 | |
| 0 | 1 | 0 | 1 | ||
| 20 | 0 | 0 | 3 | 3 | |
| 21 | 0 | 0 | 1 | 1 | |
| Cyfanswm | 128 | 129 | 138 | 395 | |
Medalau'r Cymry
[golygu | golygu cod]Roedd 75 aelod yn nhîm Cymru.
| Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
|---|---|---|---|
| Aur | Berwyn Price | Athletau | 110m Dros y clwydi |
| Aur | John Burns | Codi Pwysau | 100 kg |
| Arian | William Watkins | Saethu | Calibr bychan |
| Efydd | Jeff Bryce | Codi Pwysau | 100 kg |
| Efydd | Anthony Feale | Bocsio | Pwysau Welter |
| Efydd | John Russell Evans | Bowlio Lawnt | Senglau |
| Efydd | Ray Williams a James Morgan |
Bowlio Lawnt | Parau |
| Efydd | Ellis Stanbury Gwyn Evans Ian Sutherland a John Thomson |
Bowlio Lawnt | Pedwarawd |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-28. Cyrchwyd 2013-09-19.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
| Rhagflaenydd: Christchurch |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Brisbane |
