Athletau (trac a chae)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Trac rhedeg yn Stadiwm Olympaidd Helsinki, Ffindir.

Dosbarth o chwaraeon yw athletau, neu athletau trac a chae, sy'n cynnwys rhedeg, taflu, neidio a cherdded. Daw'r enw o'r gair Groeg athlos sy'n golygu "gornest". Y cystadlaethau mwyaf cyffredin yw trac a chae, rhedeg lôn a thraws gwlad. Dim ond mewn râs gyfnewid mae athletwyr yn cystadlu fel tîm, yn amlach na pheidio, camp i'r unigolyn yw athletau.

Cystadleuthau[golygu]

  • Cystadleuthau trac - rhedeg ar drac 400 medr.
    • Sbrint: cystadleuthau hyd at ac yn cynnwys 400m. Rhai cyffredin: 60m (tu mewn yn unig), 100m, 200m, 300m a 400m.

Cystadleuthau pellter: cystadleuthau rhwng 800m a 3000m, 800m, 1500m, milltir a 3000m.