Neidio i'r cynnwys

Sierra Leone

Oddi ar Wicipedia
Sierra Leone
Gweriniaeth Sierra Leone
Ripɔblik fɔ Siera Liɔn (Krio)
ArwyddairUndeb, Rhyddid, Cyfiawnder Edit this on Wikidata
Mathgweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlLion Mountains Edit this on Wikidata
PrifddinasFreetown Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,557,212 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd27 Ebrill 1961 (Annibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Unedig
AnthemRydyn ni'n dy ddyrchafu di, Teyrnas y Rhydd Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethDavid Sengeh Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+00:00, Africa/Freetown Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Krio Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladSierra Leone Edit this on Wikidata
Arwynebedd71,740 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGini, Liberia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau8.5°N 12.1°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholSenedd Sierra Leone Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arglwydd Sierra Leone Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethJulius Maada Bio Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Sierra Leone Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethDavid Sengeh Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$4.249 biliwn, $3.97 biliwn Edit this on Wikidata
Arianleone Edit this on Wikidata
Canran y diwaith3 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant4.626 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.477 Edit this on Wikidata

Gwlad yng ngorllewin Affrica yw Sierra Leone. Mae ganddi arwynebedd o 71.740 km2 ac mae 7,557,212 (2017)[1] o bobl yn byw yno. Mae'n ffinio â Gini yn y gogledd, a Liberia yn y de-ddwyrain.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Mynyddoedd ac afonydd

[golygu | golygu cod]

Mae llain dywodlyd 32-64 km o led ar hyd arfordir y wlad, gydag aberoedd afonydd yn torri drwyddi, ac ambell gors. Mae Penrhyn Sierra Leone, lle lleolir y brifddinas Freetown, yn estyn allan i'r môr, ceir mynyddoedd coediog arno (Picket Hill, 888 m). Tu ôl i'r llain arfordirol, ceir gwastatir gyda safana yn y gogledd a bryniau coediog yn y de. Yn nwyrain y wlad wedyn, ceir llwyfandir uchel sy'n codi hyd at gopaon Fynyddoedd Loma (Bintimani, 1.948 m) a Bryniau Tingi (Sankanbiriwa, 1.853 m). Mae prif afonydd y wlad (Rokel, Taia, Sewa, Moa) yn llifo o'r gogledd-ddwyrain i'r de-orllewin, lle maent yn ffurfio aberoedd a baeau wrth lifo i Gefnfor yr Iwerydd. Yn y Gogledd, mae'r afonydd yn gorlifo yn nhymor y glaw, gyda dŵr dros ardaloedd mawr yn atal rhag i goed dyfu.[angen ffynhonnell]

Hinsawdd a llystyfiant

[golygu | golygu cod]

Hinsawdd drofannol poeth a llaith sydd gan Sierra Leone, gyda'r tymheredd cyfartalog yn 25-28 gradd Celsius ar yr arfordir a 23-28 gradd yn y berfeddwlad. Yn y gogledd-ddwyrain, mae'r tymheredd yn amrywio mwy, gan ostwng i 13 gradd fis Ionawr a chodi i 32 gradd fis Mawrth. Ceir tymor y glaw rhwng fisoedd Mai a Hydref, a thymor sych o fis Tachwedd tan fis Ebrill. Mae mwy o law ger yr arfordir, gyda 5080mm y flwyddyn ar Benrhyn Sierra Leone ond dim ond 2000mm yn y gogledd-ddwyrain. Mae fforestydd trofannol yn gorchuddio tua chwarter y wlad, gyda choed mahogani (Swietenia mahagoni) a thîc (Tectona grandis). Fel arall, ceir llystyfiant safana, a hefyd corsydd gyda phlanhigion dŵr hallt ger yr arfordir.[angen ffynhonnell]

Mae tystiolaeth bod pobl yn byw yn y rhan yma o'r byd yn ddi-dor dros 2,500 mlynedd a mwy. Daeth Islam gyda'r bobl Susu yn y 18fed ganrif. Roedd gogledd y wlad yn rhan o ymerodraeth Samori Toure rhwng yr 1870au a'r 1890au. Yn y cyfamser, daethai masnachwyr o Bortiwgal, Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd, er mwyn prynu caethweision yn bennaf.

Yn 1787, trefnodd elusen yn Llundain o'r enw Committee for the Relief of the Black Poor anfon ryw 400 o bobl, pobl dduon dlawd yn bennaf, i Granville Town, rhan o'r hyn sydd bellach yn Freetown. Yn 1792, cyrhaeddodd mudwyr o Nova Scotia, y Black Loyalists sef pobl dduon oedd wedi ochri gyda Phrydain Fawr yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America, gan sefydlu dinas Freetown. Yn 1799, bu rhai o'r setlwyr newydd yn gwrthryfela erbyn y Sierra Leone Company Llundeinig, ac anfonodd y Prydeinwyr ryw 500 o filwyr Maroon o Jamaica er mwyn dal eu gafael ar y tir.

Yn 1808, trosglwyddodd y cwmni reolaeth i'r Colony of Sierra Leone, gwladychfa oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig. Wrth ddiddymu caethwasiaeth yn yr Ymerodraeth honno, trefnwyd bod cyn-gaethweision yn mudo i Sierra Leone, gan greu'r cymysgedd ethnig a ieithyddol unigryw a geir yn y wlad hyd heddiw. Wrth i'r 19g fynd rhagddi, daeth mwy o ogledd y wlad dan reolaeth y Prydeinwyr hefyd, gan sefydlu protectoriaeth yn y pen draw.

Daeth Sierra Leone yn annibynnol yn 1961. O 1968 ymlaen, roedd Siaka Stevens yn dominyddu gwleidyddiaeth y wlad, a ef oedd yr arlywydd rhwng 1971 ac 1985. Rhwng 1991 a 2002, roedd rhyfel cartref gwaedlyd, gyda'r Deyrnas Unedig a Gini'n cefnogi'r naill ochr a Liberia'n cefnogi'r llall. Ers hynny, cynhaliwyd etholiadau yn 2007, 2012, 2018 a 2023. Ers 2018, Julius Maada Bio yw arlywydd y wlad (cywir yn 2026).

Ieithoedd

[golygu | golygu cod]
Grwpiau ethnig Sierra Leone - cysylltir y grwpiau â ieithoedd gwahanol

Er mai Saesneg yw iaith swyddogol Sierra Leone, mae hi'n wlad amlieithog.

Fel mae'r enw'n awgrymu, iaith greol yw krio, sy'n perthyn yn agos i Jamaiceg, gyda'r rhan fwyaf o'r eirfa yn dod o'r Saesneg ond gyda dylanwad o nifer o ieithoedd eraill. Mae hi'n famiaith i 10.5% o boblogaeth y wlad, ond mae 90% o boblogaeth y wlad yn ei siarad: dyma'r iaith a ddefnyddir amlaf wrth i wahanol grwpiau ethnig a ieithyddol ymwneud â'u gilydd.

Mendeg

[golygu | golygu cod]

Mae Mendeg (Mɛnde yia) yn rhan o deulu ieithoedd Mande, sy'n rhan o deulu arfaethedig Ieithoedd Niger-Congo. Mae oddeutu 2.5 miliwn o siaradwyr, y rhan fwyaf yn Sierra Leone a nifer yn Liberia a Gini hefyd. O fewn Sierra Leone, mae 31.2% o'r boblogaeth yn perthyn i grŵp ethnig y Mende (ond mae pobl o grwpiau ethnig eraill yn siarad yr iaith yn ogystal). Clywir yr iaith hon mewn ffilmiau megis Amistad a Blood Diamond.

Temneg

[golygu | golygu cod]

Mae Temneg yn rhan o deulu ieithoedd Mel, rhan o gangen arall teulu arfaethedig Ieithoedd Niger-Congo. Mae oddeutu 2 miliwn o siaradwyr iaith gyntaf, gyda rhai yn Gini ac mewn gwledydd eraill. O fewn Sierra Leone, mae 35.5% o'r boblogaeth yn perthyn i grŵp ethnig y Temne.

Iaith arall o deulu arfaethedig Niger-Congo ond heb gysylltiad amlwg ag unrhyw iaith arall yw Limba (Hulimba). Mae sawl tafodiaith, gyda'r rhai dwyreiniol yn Gini a'r rhag canolig a gorllewinol yn Sierra Leone. Mae 12.4% o boblogaeth Sierra Leone, sef 792,000 o bobl, yn perthyn i grŵp ethnig y Limba.

Ieithoedd eraill

[golygu | golygu cod]

Ceir ieithoedd eraill gan gynnwys Kono, Kissi, Kuranko, Limba, Ffwlareg (Pwlar), Mandingo a Susu.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  1. https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL. World Bank Open Data. retrieved: 8 Ebrill 2019.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sierra Leone. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.