Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1970
| 9fed Gemau'r Gymanwlad Brydeinig | |||
|---|---|---|---|
| Campau | 121 | ||
| Seremoni agoriadol | 16 Gorffennaf | ||
| Seremoni cau | 25 Gorffennaf | ||
| |||
| Enghraifft o: | digwyddiad aml-chwaraeon |
|---|---|
| Dyddiad | 1970 |
| Dechreuwyd | 16 Gorffennaf 1970 |
| Daeth i ben | 25 Gorffennaf 1970 |
| Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
| Lleoliad | Caeredin, Meadowbank Stadium |
| Rhanbarth | Caeredin |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03ylq7 |
Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1970 oedd y nawfed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Caeredin, Yr Alban oedd cartref y Gemau rhwng 16-25 Gorffennaf. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yng Nghaeredin yn ystod Gemau Olympaidd Tokyo ym 1964 gyda Caeredin yn sicrhau 18 pleidlais a Christchurch, Seland Newydd 11.
Dyma oedd y Gemau cyntaf i ddefnyddio'r system fesur metric a'r Gemau cyntaf i ddefnyddio'r system camera i benderfynu canlyniad rasys yn hytrach na'i gael fel cymorth i'r swyddogion. Dyma hefyd oedd y Gemau cyntaf i Frenhines Elizabeth II ei mynychu yn ei rôl fel pennaeth y Gymanwlad.
Ar ôl colli Gemau 1966, daeth bowlio lawnt yn ôl i'r Gemau yn lle saethu a daeth Ved Prakash o India y person ieuengaf erioed i ennill medal aur yn y Gemau wrth gipio medal aur yn y reslo yn 14 mlwydd oed.
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Timau yn cystadlu
[golygu | golygu cod]Cafwyd 42 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad Brydeinig, 1970 gyda'r Gambia, Guernsey, Grenada, Malawi a Gwlad Swasi yn ymddangos am y tro cyntaf.
Tabl Medalau
[golygu | golygu cod]| Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
|---|---|---|---|---|---|
| 1 | 36 | 24 | 22 | 82 | |
| 2 | 27 | 25 | 32 | 84 | |
| 3 | 18 | 24 | 24 | 66 | |
| 4 | 6 | 8 | 11 | 25 | |
| 5 | 5 | 3 | 6 | 14 | |
| 6 | 5 | 3 | 4 | 12 | |
| 7 | 4 | 3 | 2 | 9 | |
| 8 | 4 | 2 | 1 | 7 | |
| 9 | 3 | 3 | 1 | 7 | |
| 10 | 3 | 1 | 5 | 9 | |
| 11 | 2 | 6 | 6 | 14 | |
| 12 | 2 | 6 | 4 | 12 | |
| 13 | Ghana | 2 | 3 | 2 | 7 |
| 14 | 2 | 0 | 0 | 2 | |
| 15 | 1 | 1 | 1 | 3 | |
| 16 | 1 | 0 | 0 | 1 | |
| 17 | 0 | 4 | 3 | 7 | |
| 18 | 0 | 2 | 2 | 4 | |
| 19 | 0 | 1 | 1 | 2 | |
| 20 | 0 | 1 | 0 | 1 | |
| 0 | 1 | 0 | 1 | ||
| 22 | 0 | 0 | 1 | 1 | |
| 0 | 0 | 1 | 1 | ||
| 0 | 0 | 1 | 1 | ||
| 0 | 0 | 1 | 1 | ||
| 0 | 0 | 1 | 1 | ||
| 0 | 0 | 1 | 1 | ||
| Cyfanswm | 121 | 121 | 133 | 375 | |
Medalau'r Cymry
[golygu | golygu cod]Roedd 118 aelod yn nhîm Cymru.
Daeth Lynn Davies y Cymro cyntaf i ennill dwy fedal aur yn y Gemau wrth ennill y naid hir am yr ail Gemau yn olynol.
| Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
|---|---|---|---|
| Aur | Lynn Davies | Athletau | Naid hir |
| Aur | Mike Richards | Nofio | 200m ar ei gefn |
| Arian | Mike Richards | Nofio | 100m ar ei gefn |
| Arian | Martyn Woodruffe | Nofio | 200m pili pala |
| Arian | David Davies | Bocsio | Pwysau is-welter |
| Arian | Anthony Davies | Bocsio | Pwysau is-bry |
| Arian | Ieuan Owen | Codi Pwysau | Pwysau ysgafn |
| Arian | Terry Perdue | Codi Pwysau | Pwysau uwch-drwm |
| Efydd | Peter Arthur | Codi Pwysau | Pwysau is-drwm |
| Efydd | Martyn Woodruffe | Nofio | 200m medley unigol |
| Efydd | Kevin Moran Martin Richards Martyn Woodruffe a Nigel Johnson | Nofio | 4 x100m medley |
| Efydd | John Hatfield a John Beswick | Beicio | 2000m tandem |
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
| Rhagflaenydd: Kingston 1966 |
Gemau'r Gymanwlad Caeredin 1970 |
Olynydd: Christchurch 1974 |
